Sunday 17 December 2017

Parti Nadolig Ysgol Sul

17eg Rhagfyr 2018
Cynhaliwyd parti Nadolig a gwasanaeth ble ddangoswyd cartwn y plant a cafwyd helfa o gwmpas y Festri i edrych am 6 o hanesion moch!  Casglwyd £75 ers mis Medi i brynu 3 set o foch bach ar gyfer teuluoedd yn Cambodia.  Cymerwch gip olwg ar y taflenni i gael mwy o hanes moch sydd yn gwella sefyllfa teuluoedd tlawd.  Neges bwysig y Nadolig oedd ein atgoffa nad ydym angen mwy na digon (Diarhebion 30:7-9).







Tuesday 28 November 2017

Ysgol Sul Maesyneuadd

26ain Tachwedd 2017
Rydym wedi cychwyn edrych ar yr Adfent, a pharatoi ar gyfer y Nadolig.  Bydd cartwn arbennig yn cael ei ddangos yn ein parti Nadolig dydd Sul 10fed Rhagfyr.  Cofiwch hefyd am yr Helfa Moch fydd yn digwydd cyn y parti ar y 10fed.  Dros yr wythnosau diwethaf mae plant yr Ysgol Sul wedi dymuno i'r casgliad fynd tuag at brynu moch bach (£25 am set) i helpu teuluoedd yn Cambodia.  Mae'n bleser cyhoeddi bod £50 wedi ei gasglu sydd yn golygu bod modd prynu dau set o foch bach!  Ar ben hynny am bob £1 gasglwyd eleni i brynu eitem o gatalog Present Aid, mae Llywodraeth y DU yn rhoi £1 arall! Da iawn chi.



Ysgol Sul Maesyneuadd

Dyma waith dosbarth Blwyddyn 3 a hyn.  Mae nhw hefyd wedi bod yn edrych ar adnodau Luc 12:7 a Salm 121.
Mae Duw hyd yn oed wedi cyfri gwallt eich pen!
Bydd yr Arglwydd yn dy gadw di'n saff, ble bynnag yr ei di o hyn allan ac am byth.
Felly peidiwch bod ofn dim byd!







Monday 20 November 2017

Ysgol Sul Maesyneuadd

19eg Tachwedd 2017 - Fi fy hun!
Pa mor bwysig wyt ti? Wel mae Duw yn meddwl bod pob un yn bwysig iawn, ac mae'n ein adnabod ni i'r dim! Mae Duw hyd yn oed yn medru rhifo gwallt ein pen! "Gadewch i'r plant ddyfod ataf fi" meddai Iesu.
Dyma waith Meinir, Tom, Aila, Ieuan a Deio. Ysgwni ydych chi'n 'nabod nhw!






Bocsys Nadolig Teams4U

DIOLCH YN FAWR IAWN TREFOR AM Y 57 BOCS ANRHEG NADOLIG DDERBYNIWYD ELENI!

Thursday 16 November 2017

Ysgol Sul Maesyneuadd - Sul y Cofio

12fed Tachwedd 2017 - Stori Esther gawsom heddiw gyda dosbarth yr oedolion yn actio'r stori wrth iddi gael ei hadrodd.  Roedd Ahasfferus, Esther, Mordecai a Haman yn fyw yn y festri!  Bu cyfle hefyd i wneud coron ac i greu pabi coch a pabi heddwch gwyn.




Friday 3 November 2017

Ysgol Sul Maesyneuadd - Arwyr y Beibl

29ain Hydref 2017 - Jona
Stori boblogaidd gan y plant heddiw, sef hanes Jona ym mol y pysgodyn mawr.  Ar ol gwrando ar yr hanes, cawsom yr hanes eto mewn can hwyliog a gweithgareddau amrywiol.  Dyma gardiau Ieuan, Deio, Meinir ac Aila - da iawn chi am ddyfalbarhau i lenwi'r llinellau. Dyma bysgodyn mawr Meinir ac Aila, wedi taflu Jona ar y traeth!






Monday 23 October 2017

Ysgol Sul Maesyneuadd - Daniel yn ffau'r llewod!

22ain Hydref 2017 - hanes Daniel gawsom heddiw. Hanes Duw yn edrych ar ein holau pan fyddwn mewn ofn neu'n bryderus mewn sefyllfa anodd.  Bu'r ddau ddosbarth yn edrych ar hanes Daniel yn cael ei arbed oddi wrth y llewod, gan iddo weddio ar Dduw.  Dyma lewod y dosbarth hyn a gem llew y dosbarth iau.



Sunday 15 October 2017

Ysgol Sul Maesyneuadd - Arwyr y Beibl

15fed Hydref 2017 - hanes Samuel gawsom heddiw yn gweithio yn y Deml yn helpu Eli.  Mae stori Samuel yn ein dysgu i wrando ar Dduw, drwy ddarllen y Beibl, gweddio a gwrando ar y bobl sydd yn ein harwain o ddydd i ddydd. Roedd y tywydd yn ddigon cynnes i eistedd allan am gyfnod yn gwrando ar synau Trefor - clywyd swn y gwynt a swn adar.  Bu'r dosbarth lleiaf yn trafod teulu a dyma gem setiau:
 Setiau o bethau

 Set naturiol a set wedi ei greu gan ddyn

  Setiau mewn lliwiau

  Setiau yn perthyn i'w gilydd

Ysgol Sul Maesyneuadd - Arwyr y Beibl

8fed Hydref 2017 - cawsom hanes Dafydd yn gorchfygu Goliath ac addewid nad oes dim yn rhy anodd i ni gyda Duw. Trowyd Goliath yn gem a sgoriodd y plant bach 55 pwynt yr in, a Llinos yn sgorio dim!


Ysgol Sul Maesyneuadd - Diolchgarwch

1af Hydref 2017 - cynhaliwyd oedfa deulu Diolchgarwch dan ofal Casi Jones.

Ysgol Sul Maesyneuadd - Trip

17 Medi 2017 - heddiw aethom at ein trip Ysgol Sul  Gelli Gyffwrdd.  Cafwyd llawer iawn o hwyl yn mynd ar bob sleid a reid.  Roedd y plant ar oedolion yn mwynhau yn yr in modd!

Sunday 16 July 2017

Ysgol Sul Hwyl a Sbri 16 Gorffennaf 2017

Y SAMARIAD TRUGAROG



Roedd dyn yn teithio i lawr o Jerwsalem i Jericho ...


... a dyma ladron yn ymosod arno.


Dyma nhw'n dwyn popeth oddi arno, ac yna ei guro cyn dianc.


Dyma Offeiriad Iddewig yn digwydd dod heibio, ond pan welodd y dyn yn gorwedd yno croesodd i ochr arall y ffordd a mynd yn ei flaen.


A dyma un o Lefiaid y deml yn gwneud yr un peth; aeth i edrych arno, ond yna croesi'r ffordd a mynd yn ei flaen.

Ond wedyn dyma Samariad yn dod i'r fan lle roedd y dyn yn gorwedd.  Pan welodd e'r dyn, roedd yn teimlo trueni drosto.

Aeth ato a rhwymo cadachau am ei glwyfau, a'u trin gydag olew a gwin.


Yna cododd y dyn a'i roi ar gefn ei asyn ei hun, a dod o hyd i lety a gofalu amdano yno. Y diwrnod wedyn rhoddodd ddau ddenariws i berchennog y llety. "Gofala amdano" meddai wrtho, "ac os bydd costau ychwanegol, gwna i dalu i ti y tro nesa bydda i'n mynd heibio".

Dywedodd Iesu "dos a gwna dithau yr un modd".

Monday 10 July 2017

Ysgol Sul Hwyl a sbri

9fed Gorffennaf 2017 - cynhaliwyd Ysgol Sul heddiw ar y traeth gyda gemau yn dilyn stori Porthi'r 5000.
Gollyngwyd gweddiau o ddiolch i'r mor - Diolch i Ti am y byd. Diolch am ein bwyd bob dydd. Diolch am yr haul ar glaw. Diolch am bod rhodd a ddaw. Amen.





Sunday 2 July 2017

Ysgol Sul Hwyl a Sbri

2il Gorffennaf 2017
Dyma bosteri lliwgar Erin, Begw ac Elliw:



Bu'r dosbarth iau yn edrych ar stori'r Ddafad Golledig a dyma i chi lond cae o ddefaid Leusa, Tom, Deio, Meinir a Ieuan.



Monday 26 June 2017

Ysgol Sul Hwyl a Sbri

25ain Mehefin 2016 - stori Bartimeus
Cawsom hanes Iesu Grist yn iachau Bartimeus.
Bu'r dosbarth iau yn diolch am gael llygaid i weld yr harddwch a'r bobl o'n cwmpas a'r dosbarth hyn yn edrych at sut rydym yn gweld Iesu Grist heddiw.
Dyma rai o hoff bethau rydym yn hoffi weld:

 Leusa

 Ieuan

 Meinir

 Tom
 Deio

Roedd Bartimeus yn unig, yn ddall, yn methu gweld,
fe alwodd ar yr Iesu - o plis a gaf i weld.
Mae'r Iesu yn ei wella - mae'n cael ei olwg 'nol,
mae Bartimeus yn gweld yn glir - i ddilyn Iesu.