Sunday 16 July 2017

Ysgol Sul Hwyl a Sbri 16 Gorffennaf 2017

Y SAMARIAD TRUGAROG



Roedd dyn yn teithio i lawr o Jerwsalem i Jericho ...


... a dyma ladron yn ymosod arno.


Dyma nhw'n dwyn popeth oddi arno, ac yna ei guro cyn dianc.


Dyma Offeiriad Iddewig yn digwydd dod heibio, ond pan welodd y dyn yn gorwedd yno croesodd i ochr arall y ffordd a mynd yn ei flaen.


A dyma un o Lefiaid y deml yn gwneud yr un peth; aeth i edrych arno, ond yna croesi'r ffordd a mynd yn ei flaen.

Ond wedyn dyma Samariad yn dod i'r fan lle roedd y dyn yn gorwedd.  Pan welodd e'r dyn, roedd yn teimlo trueni drosto.

Aeth ato a rhwymo cadachau am ei glwyfau, a'u trin gydag olew a gwin.


Yna cododd y dyn a'i roi ar gefn ei asyn ei hun, a dod o hyd i lety a gofalu amdano yno. Y diwrnod wedyn rhoddodd ddau ddenariws i berchennog y llety. "Gofala amdano" meddai wrtho, "ac os bydd costau ychwanegol, gwna i dalu i ti y tro nesa bydda i'n mynd heibio".

Dywedodd Iesu "dos a gwna dithau yr un modd".

No comments: