Tuesday 28 November 2017

Ysgol Sul Maesyneuadd

26ain Tachwedd 2017
Rydym wedi cychwyn edrych ar yr Adfent, a pharatoi ar gyfer y Nadolig.  Bydd cartwn arbennig yn cael ei ddangos yn ein parti Nadolig dydd Sul 10fed Rhagfyr.  Cofiwch hefyd am yr Helfa Moch fydd yn digwydd cyn y parti ar y 10fed.  Dros yr wythnosau diwethaf mae plant yr Ysgol Sul wedi dymuno i'r casgliad fynd tuag at brynu moch bach (£25 am set) i helpu teuluoedd yn Cambodia.  Mae'n bleser cyhoeddi bod £50 wedi ei gasglu sydd yn golygu bod modd prynu dau set o foch bach!  Ar ben hynny am bob £1 gasglwyd eleni i brynu eitem o gatalog Present Aid, mae Llywodraeth y DU yn rhoi £1 arall! Da iawn chi.



Ysgol Sul Maesyneuadd

Dyma waith dosbarth Blwyddyn 3 a hyn.  Mae nhw hefyd wedi bod yn edrych ar adnodau Luc 12:7 a Salm 121.
Mae Duw hyd yn oed wedi cyfri gwallt eich pen!
Bydd yr Arglwydd yn dy gadw di'n saff, ble bynnag yr ei di o hyn allan ac am byth.
Felly peidiwch bod ofn dim byd!







Monday 20 November 2017

Ysgol Sul Maesyneuadd

19eg Tachwedd 2017 - Fi fy hun!
Pa mor bwysig wyt ti? Wel mae Duw yn meddwl bod pob un yn bwysig iawn, ac mae'n ein adnabod ni i'r dim! Mae Duw hyd yn oed yn medru rhifo gwallt ein pen! "Gadewch i'r plant ddyfod ataf fi" meddai Iesu.
Dyma waith Meinir, Tom, Aila, Ieuan a Deio. Ysgwni ydych chi'n 'nabod nhw!






Bocsys Nadolig Teams4U

DIOLCH YN FAWR IAWN TREFOR AM Y 57 BOCS ANRHEG NADOLIG DDERBYNIWYD ELENI!

Thursday 16 November 2017

Ysgol Sul Maesyneuadd - Sul y Cofio

12fed Tachwedd 2017 - Stori Esther gawsom heddiw gyda dosbarth yr oedolion yn actio'r stori wrth iddi gael ei hadrodd.  Roedd Ahasfferus, Esther, Mordecai a Haman yn fyw yn y festri!  Bu cyfle hefyd i wneud coron ac i greu pabi coch a pabi heddwch gwyn.




Friday 3 November 2017

Ysgol Sul Maesyneuadd - Arwyr y Beibl

29ain Hydref 2017 - Jona
Stori boblogaidd gan y plant heddiw, sef hanes Jona ym mol y pysgodyn mawr.  Ar ol gwrando ar yr hanes, cawsom yr hanes eto mewn can hwyliog a gweithgareddau amrywiol.  Dyma gardiau Ieuan, Deio, Meinir ac Aila - da iawn chi am ddyfalbarhau i lenwi'r llinellau. Dyma bysgodyn mawr Meinir ac Aila, wedi taflu Jona ar y traeth!