Roedd Bore Coffi 25ain Mehefin yn cefnogi elusen penodedig Ysgol yr Eifl eleni sef Cwn Tywys i'r Deillion. Cafwyd cyflwyniad grymus gan yr Ysgol oedd yn ein arwain i gefnogi elusen bwysig iawn yng Nghymru. Gwnaed casgliad o £34 tuag at gronfa'r Ysgol i'r elusen. Yn ystod y Bore Coffi roedd cyfle i ddymuno'n dda i'r disgyblion ym mlwyddyn 6 sydd yn gadael Ysgol yr Eifl eleni ac yn mynd i Ysgol Glan y Mor ym mis Medi. Cyflwynwyd bob un gyda llyfryn 'Y Cam Nesa' gan y Grwp Cefnogi a hefyd dymunwyd yn dda i Mrs Rhian Harris sydd yn gadael staff athrawon Ysgol yr Eifl eleni, ar ol 21ain o wasanaeth i'r Ysgol.
Friday 26 June 2009
EDRYCH AR NICARAGUA
Nos Lun 22ain Mehefin fe fu Llinos yn adrodd ychydig o hanes ei thaith i Nicaragua nol ym mis Chwefror 2009. Cafwyd hanes rhai o Undebau Hawliau Merched y wlad, hanes ail-adeiladu ym mhentref Tuara wedi Corwynt Felix, hanes plant sy'n byw ar domen ysbwriel La Chureca a hanes mamau ifanc mewn ty geni arbennig yn Matagalpa. Diolch i Clwb Chware Teg! am baratoi diodydd ysgafn y Caribi ar ddiwedd y sgwrs. Gwnaed casgliad ar y noson o £33 tuag at brosiect arbennig sydd yn cael ei ariannu gan Ymgyrch Nicaragua Cymru. Cronfa i gefnogi gwaith gyda plant y domen 'sbwriel.
Saturday 20 June 2009
APEL - Clwb Hwyl a Sbri
Be hoffet ti wneud ar ol gadael yr Ysgol? Athrawes, Peilot, Gwarchodwr Sw, Darllen y tywydd?
Dyma rai o ddymuniadau plant Clwb Hwyl a Sbri. Bu'r Clwb yn edrych ar hanes Guljan sydd yn 9 oed ac yn byw yn Affganistan a a pham mor bwysig yw darllen iddi hi ac i ni. Mae hi newydd gael mynd i'r ysgol am y tro cyntaf ac yn mwynhau darllen yn fawr iawn. Apel Clwb Hwyl a Sbri eleni yw casglu llyfr mae nhw wedi mwynhau ei ddarllen a'i gyflwyno i ward plant Ysbyty Gwynedd.
Dyma rai o ddymuniadau plant Clwb Hwyl a Sbri. Bu'r Clwb yn edrych ar hanes Guljan sydd yn 9 oed ac yn byw yn Affganistan a a pham mor bwysig yw darllen iddi hi ac i ni. Mae hi newydd gael mynd i'r ysgol am y tro cyntaf ac yn mwynhau darllen yn fawr iawn. Apel Clwb Hwyl a Sbri eleni yw casglu llyfr mae nhw wedi mwynhau ei ddarllen a'i gyflwyno i ward plant Ysbyty Gwynedd.
YSGOL YR EIFL - EDRYCH AR NICARAGUA
Mehefin 17 - cyflwyniad i blant Ysgol yr Eifl ar daith Llinos i Nicaragua. Cyn i Llinos fynd i Nicaragua bu plant Ysgol yr Eifl yn dysgu am y wlad, yn meddwl am y pethau sydd yn wahanol a'r pethau sydd yn debyg wrth fyw yn Nicaragua a Chymru. Casglwyd yr holl wybodaeth er mwyn i Llinos ddod yn ol i'r Ysgol gyda'r atebion. Roedd tudalen gyfa o gwestiynnau a dydd Mercher fe gafwyd yr atebion drwy gyflwyniad lluniau. Cafwyd cyfle i flasu bwyd Nicaragua, gwisgo ambell ddilledyn a gwrando ar gerddoriaeth.
Subscribe to:
Posts (Atom)