Friday 27 March 2009

CLWB HWYL A SBRI


Drwy ddefnyddio adnodd Gwasanaeth y Mis sydd yn cael ei baratoi gan Cymorth Cristnogol, cawsom ddysgu am dri plentyn arbennig iawn wythnos yma.
Mae Zahra sydd yn 8 oed yn byw yn Afganistan ac yn bugeilio defaid. Pan gaiff gyfle i chwarae bydd hi a’i ffrindiau yn creu tai bach mwd ac yn paentio wyneb ar ddarn o bren i greu doli. Does gan Zahra ddim teledu yn y cartref a pe bai ganddi arian fe fyddai’n prynu bisgedi a dillad iddi hi ei hun.
Yn Gaza mae Ayman yn byw. Er mai dim ond 9 oed yw Ayman, fo ydi’r unig aelod o’r teulu sydd yn gweithio. Ar ol bod yn yr ysgol mae Ayman yn mynd draw i’r domen sbwriel i gasglu plastig. Wedi iddo gasglu llond sach fe gaiff 30c gan y ffactri blastig. Mae’n rhoi’r arian i’w fam i gyd arwahan i 5c mae’n ei gadw i gynilo ar gyfer prynu beic.
Mae Jerzon, 11eg oed o Honduras wedi cael gwersi garddio ac erbyn hyn fo sydd yn tyfu y rhan fwyaf o’r llysiau ar gyfer y teulu. Mae’n gwerthu beth bynnag sydd dros ben i gael arian i’r teulu.
Roedd y plant wedi mwynhau cwrdd a thri o blant arbennig iawn ac yn gwerthfawrogi beth sydd ganddyn nhw ac nid i ddisgwyl rhywbeth newydd bob tro.
Mae Jerzon yn tyfu Llysiau’r Bara (Coriander) felly i gloi bu’r plant yn plannu hadau perlysiau i fynd adre – Llysiau’r Bara, Persli, Brenhinllys (Basil) a Cennin Syfi (Chives). Cofiwch ddyfrio’r planhigion!

Wednesday 18 March 2009

CLWB HWYL A SBRI




Wrth i ni agosau at y Pasg fe gawsom hanes yr Iesu a'r Disgyblion yn mynd i'r oruwchystafell mewn ty yn Jeriwsalem, yn y Clwb Hwyl a Sbri. Roedd yn arferiad golchi traed eich gwesteion yn yr oes hynny, ond doedd dim golwg o was y ty i wneud hynny. Cododd Iesu a thywallt y dwr i'r llestr oedd yno yn barod a golchi a sychu traed pob un o'i ddisgyblion. "Rwyf yn gwneud hyn gan fy mod yn eich caru" meddai "ac yn fodlon gwneud unrhyw beth i chi". Gofynnodd i ni hefyd wneud yr un fath "carwch eich gilydd, a gofalwch am eich gilydd bob amser, peidiwch a bod yn hunanol nac yn hunan-bwysig". Cafodd pawb dro ar olchi traed ei gilydd ac ysgrifennu mewn amlinell o'u traed eu hunain restr o bethau roeddem am wneud yr wythnos yma i helpu eraill.

Monday 16 March 2009

DIWRNOD BANANAS





Fel rhan o weithgareddau Pythefnos Masnach Deg 2009, fe gafodd plant Ysgol yr Eifl a plant Ysgol Llanaelhaearn ddiwrnod bananas. Daethom at ein gilydd yn Llanaelhaearn i gael gwasanaeth yn gyntaf gyda chyflwyniadau ar Fasnach Deg, darlleniadau a chaneuon gan blant y ddwy ysgol. Yna fe aethom draw i'r Ysgol i fwynhau myffins banana a smwddis cyn cael chwarae gemau allan yn yr heulwen braf.

Wednesday 11 March 2009

CLWB HWYL A SBRI: Y WLEDD BRIODAS

Heno cawsom wybod am wyrth gyntaf Iesu yn troi dwr yn win mewn gwledd briodas!
Roedden ni'n methu credu sut oedd Llinos wedi llwyddo i dywallt dau wydraid o ddwr clir ac i'r trydydd gwydr llifodd dwr lliw gwin!
Ar ol i ni olchi ein dwylo a chael gwledd priodas o jeli coch, diod, bisgedi a chacen cawsom gyfle i greu gwisg briodas oedd yn arbennig o ffeind i'r amgylchedd ac i'r ddaear!
Dyma ni y teulu i gyd yn y llun priodas!

Sunday 8 March 2009

CYNHADLEDD MASNACH DEG





Dydd Gwener 6ed Mawrth aeth Adam, Non, Lois a Leah gyda Llinos i Gynhadledd ar Fasnach Deg yn y Galeri yn Caernarfon. Roedd yn ddiwrnod llawn gweithgareddau hwyliog i gyd yn ein dysgu am y budd mae pobl dlawd yn ei gael pan fyddwn ni yn siopa'n gydwybodol! Agorwyd y Gynhadledd gyda chyfle i ddysgu can a chael gwybod gan blant Ysgol Llanllechid wir ystyr Masnach Deg, wedi iddyn nhw wneud fidio arbennig yn yr ysgol. Yna roedd pawb yn mynd i bedwar grwp am y dydd ac yn mynychu pedwar gweithdy. Yr un cyntaf oedd 'gweithio' ar fferm Bananas. Roedd hanner y Bananas yn cael eu gwerthu i gwmni Masnach Deg ar hanner arall i gwmnioedd mawrion - y ffermwyr Masnach Deg oedd yn cael y pris gorau. Ar ol egwyl cawsom weld a chlywed nifer o offerynnau cerdd wedi eu gwneud o blanhigion, neu wedi ail-gylchu. Roedd rhain yn dod o wahanol wledydd ac yn cael eu gwneud gan bobl mewn pentrefi tlawd. Cawsom gyfle i wneud ein offeryn ein hunain ac i ddysgu dawns Affricanaidd. Ar ol cinio bu i ni gyfarfod a Bernard oedd yn dod o Sri Lanka. Mae yn arbenigwr ar ffermio amgylcheddol yn Sri Lanka. Yno mae nhw'n ffermio perlysiau, bananas a sbeisys. Yn y gweithdy ola roedd Ben yn egluro i ni sut y bu i blant pentref La Pita yn Nicaragua gael mynd i'r ysgol am y tro cyntaf oherwydd bod yr arian yn dod o ffermio coffi Masnach Deg yn y pentref. Am ddau o'r gloch aethom i gyd yn ol i'r neuadd i ddawnsio gyda Mr Banana, ac i fwyta Banana!

BORE COFFI - Diwrnod y Llyfr


Cynhaliwyd Bore Coffi llwyddiannus iawn i'r gymuned eto y mis hwn. Cawsom gwmni difyr, hwyliog a lliwgar disgyblion Ysgol yr Eifl unwaith eto, ac roedd eu cyflwyniad a'r Ddiwrnod y Llyfr yn arbennig iawn. Cawsom ein hudo i fyd o ffantasi a hwyl, i fyd gwybodaeth a barddoniaeth. Diolch yn fawr iawn!

Bydd y Bore Coffi nesa ar ddydd Iau 2il o Ebrill.