Thursday 23 May 2013

CLWB CHWARE TEG!

23ain Mai 2013 - dyma noson Y Digwyddiad wedi cyrraedd gan drefnu Noson Coffi.  Yn ystod y noson cawsom weld ffilm o stori Maesyneuadd a hefyd yr un stori ond ar ffurf cartwn.  Roedd Natalie a Peter wedi gwneud cacennau blasus, ac roedd bwrdd gwerthu.  Diolchwyd i bawb am ddod i'r cyfarfod gan Gwenno a hefyd diolchwyd am gymorth Margaret Ellis i wneud y faner.  Roedd awyrgylch braf yn y Noson Coffi ac edrychwn ymlaen yma am y 200 mlynedd nesa!









GWYL Y GWANWYN

23ain Mai 2013 - Sesiwn cerddorol heddiw yng nghwmni Gwenan Gibbard.  Bu i ni gael datganiadau o hen ffefrynnau.  Cael cyd ganu a hefyd cael cyd ganu Cerdd Dant!  Roedd cyfle i gael tro ar y delyn.  Wythnos nesa byddwn yn mynd i'r Galeri i weld sioe arbennig Finding Joy.  Enwau i Llinos os oes diddordeb.

Wednesday 22 May 2013

DECHRAU DA!

22ain Mai 2013 - i gloi thema mis Mai adeiladwyd tai ar gyfer y teulu! Dyma dy melyn Tomos, ty Tylwyth Teg Ceris a thy ar gyfer trennau Elis ac Owen.  Y thema nesa fydd Yr Haf a gobeithio y cawn ni fwynhau llawer prynhawn ar lan y mor.

CWIS A CYRI

20fed Mai 2013 - cynhaliwyd cwis a cyri er budd Wythnos Cymorth Cristnogol.  Daeth chwech tim ac roedd marciau pawb yn agos iawn i'r brig.  Thema'r cwis oedd OS - ymgyrch i ymosod ar newyn - Mae digon o fwyd i bawb OS ... Rownd 10 oedd meddwl am OS Daeth nifer o OSys da!
Rhannu adnoddau - Edrych ar ol yr amgylchfyd - Talu trethi yn onest - Peidio byw yn hunanol - Os ydym yn rhoi pwerau newydd i'r G8 - Rhoi tir i bobl dyfu bwyd.  Diolch i Sian a Gillian am y bwyd blasus a  Llongyfarchiadau! i'r tim buddugol Yr AmhOSib.




Thursday 16 May 2013

CLWB CHWARE TEG!

16eg Mai 2013 - daethom at ein gilydd heno i drefnu ein Noson Coffi ar gyfer Y Digwyddiad nos Iau nesa.  Roedd angen penderfynnu ble roedd popeth yn mynd, pa bris i'w godi am ddod mewn ac am y nwyddau dathlu.  Ble fydd y te a'r coffi yn cael ei weini a pwy oedd yn mynd i wneud cacennau bach!  Byddwn yn dangos dwy ffilm fer ac yn cynnal bwrdd gwerthu a gorsaf weddi liwgar.  Dewch yn llu.  Gyda'r arian byddwn yn prynu chwaraewr CD newydd ac yn ail wneud y potiau blodau tu allan i'r capel.  Dyma ni wrth yr orsaf weddi yn gweddio yn ol y lliw.

GWYL Y GWANWYN

16eg Mai 2013 - cafwyd cyfarfod da iawn eto heddiw.  Celf oedd ein pwnc diddordeb a cawsom gwmni Tess Urbanska, Arlunydd lleol i ddod atom.  Bu pawb wrthi'n brysur iawn yn gwneud aderyn a dyma i chi rai o'r adar lliwgar fydd o gwmpas Trefor.  Cafodd Blwyddyn 6 ymuno gyda ni a gwneud gwaith lliwgar iawn.




DECHRAU DA!

15fed Mai 2013 - heddiw fe gawsom liwio llun o'n ti ni.  Wythnos nesa byddwn yn gwneud model o gartref ac mae'r gennod wedi penderfynnu gwneud castell!!

Sunday 12 May 2013

CLWB HWYL A SBRI

12fed Mai 2013 - mae'n Wythnos Cymorth Cristnogol ac felly fe gawsom hanes Ivana o Bolivia.  Mae Cymorth Cristnogol wedi helpu teulu Ivana drwy roi ieir iddyn nhw a hefyd hyfforddiant sut i edrych ar ol planhigion coed coco.  Dyma i chi ddau gynhwysyn hanfodol i wneud cacen siocled!  Dyna wnaethom heddiw gan ddod ar cynhwysion i gyd at eu gilydd i wneud rhywbeth da, blasus!  Dyma ydi sylfaen gwaith Cymorth Cristnogol hefyd.  Wrth i ni ddod at ein gilydd - fel y cynhwysion, mae pawb yn wahanol iawn i'w gilydd - ond gyda'n gilydd fe allwn ni wneud rhywbeth da i blesio Duw.

Thursday 9 May 2013

GWYL Y GWANWYN

9fed Mai 2013 - heddiw cawsom y cyntaf o'n cyfarfodydd GWYL Y GWANWYN dan nawdd Age Cymru.  Daeth Russell Jones draw in hannog i dyfu llysiau a deiliach gwyrdd iachus yn ein gerddi, neu ar sil y ffenest.  Roedd ganddo wybodaeth rif y gwlith i rannu gyda ni.  Wythnos nesa Tess Urbanska fydd gyda ni yn edrych ar gelf.  Yn Festri Maesyneuadd am 2 o'r gloch.  Croeso cynnes i bawb.

Wednesday 8 May 2013

DECHRAU DA!

8fed Mai 2013 - parhau gyda'n thema 'Fi fy Hun' a gwneud ffram lluniau heddiw.  Dyma fframiau Kimberly, Owen, Elis a Tomos.  Llwyddodd Ceris ac Anest i wneud ffram hefyd ar gyfer llun ohonnyn nhw eu hunain.

Sunday 5 May 2013

DECHRAU DA!

1af Mai 2013 - daeth nifer ynghyd heddiw i gael hwyl yn Dechrau Da! Thema'r mis yw FI FY HUN!