Friday 30 May 2008

NEGES EWYLLYS DA POBL IFANC CYMRU 2008






Nos Lun 19eg Mai cynhaliwyd gwasanaeth Neges Ewyllys Da yn Festri Mes y Neuadd. Roedd y festri yn llawn o bobl ifanc yn cymryd rhan, a chynulleidfa niferus wedi dod i gefnogi'r bobl ifanc.

Thema Neges Ewyllys Da 2008 yw Newid Hinsawdd - roedd y neges yn ein hannog i newid ein ffyrdd er mwyn sicrhau dyfodol ar gyfer ein plant. Roedd hefyd yn ein atgoffa o'n cyfrifoldeb dros ein gilydd a dros yr amgylchfyd. Cawsom wasanaeth buddiol iawn gyda eitemau, darlleniadau, ambell ddeialog hwyliog a chanu cynulleidfaol. Hefyd yn ystod y gwasanaeth rhoddwyd taflen i bawb fynd adre - taflen wedi ei pharatoi gan Clwb Chware Teg yn awgrymu deg o syniadau ar gyfer cyfrannu at leihau gollyngiadau carbon di-angen, yn eich cartref. Yn cymryd rhan eleni yn y gwasanaeth roedd Clwb yr Urdd Ysgol yr Eifl, Clwb Chware Teg Trefor ac Aelwyd Gwrtheyrn. Gwnaed casgliad yn ystod y gwasanaeth a fydd yn mynd i brynu pump o 'becynnau argyfwng' allan o gatalog Present Aid - Cymorth Cristnogol.

PARATOI AR GYFER Y GYMANFA



Mae plant yr Ysgol Sul wrthi yn paratoi lluniau ar gyfer y Gymanfa ym mis Mehefin. Creu llun mawr wedi ei ysbrydoli gan hoff storiau'r plant dros y flwyddyn yw'r nod. Mae plant Ysgol Sul Maes y Neuadd wedi dewis stori Porthi'r 5000.

Sunday 18 May 2008

ARWERTHIANT AIL-GYLCHU


Roedd Festri Maes y Neuadd yn lliwgar iawn dydd Gwener ac yn llawn o nwyddau fel newydd i'w hail-gylchu ymysg ein gilydd. Mae'n benwythnos ail-gylchu gyda ni y penwythnos hwn gan y bydd Gwasanaeth Neges Ewyllys Da nos Lun 19 hefyd yn canolbwyntio ar y pethau bach fedrwn ni gyd eu gwneud i arbed gollyngiadau carbon di-angen i'r amgylchfyd, a lleihau'r niwed i'r hinsawdd bregus. Diolch i bawb am gyfrannu ac am gefnogi. Fe gawsom gwmni Lynda Kerley o Gymorth Cristnogol yn y prynhawn. Mae Lynda yn gweithio i Gymorth Cristnogol yn Sierra Leone. Aeth Lynda draw i ddweud helo wrth blant yr Ysgol ac i ddiolch iddyn nhw yn arbennig am eu gwaith da yn cefnogi prosiectau dwr glan ym Mheriw. Mae Clwb Hwyl a Sbri wedi codi digon o arian i brynu pin dwr i bentref ym Mheriw! Cafodd Lynda gwestiynnau da a chan gan y plant! Roedd cyfraniadau'r arwerthiant ail-gylchu yn mynd tuag at Wythnos Cymorth Cristnogol a chasgliad Trefor - a diolch yn fawr iawn i chi gyd am gyfrannu - fe lwyddwyd i godi £113.

Thursday 15 May 2008

CLWB HWYL A SBRI



Arddangos eu sgiliau gyda offer y syrcas bu aelodau Clwb Hwyl a Sbri yr wythnos hon! Jyglo a throelli platiau a phethau hynnod arbenigol felly! Rhwng gweithgareddau bu pawb gyfrannu ddarn o gelf arbennig ar gyfer gwasanaeth Neges Ewyllys Da pobl ifanc Cymru, ar gyfer nos Lun 19 Mai. Mae'r llun yn cynrychioli gwaith Duw yn creu'r byd, ein cyd-ddyn a holl ddiwylliannau lliwgar y byd, hefyd ein cysylltiad ni a natur a'r amgylchfyd. Lliwgar iawn! Gwych!

Gwasanaeth Neges Ewyllys Da yn Festri Maes y Neuadd am 6 o'r gloch nos Lun 19 Mai 2008.

Wednesday 14 May 2008

SGORIO GOL DROS BLANT BACH AFFRICA






Nos Lun bu aelodau Clwb Chware Teg! wrthi'n brysur yn cynnal Noson Coffi a chystadleuaeth Cic am Gol. Trefnwyd y gweithgareddau yn Y Ganolfan. Roedd elw'r noson yn mynd tuag at waith mudiad Achub y Plant/Save the Children. Mae Clwb Chware Teg wedi bod yn gweithio gyda Achub y Plant yn ddiweddar. Cawsom gyfle i edrych ar safle We newydd yng nghwmni Eurgain Haf o'r mudiad. Roedd y safle We yn ein tywys drwy ardal Kroo Bay yn Sierra Leone ac yn cyflwyno plant, pobl ifanc a phobl sydd yn gweithio yn Kroo Bay drwy gyfrwng gwe-gamera. Mae yna dlodi mawr yn Sierra Leone ac mae marwolaethau plant dan bump oed yn arswydus o uchel yn y wlad. Gobeithio byddwn yn medru helpu eto yn y dyfodol. Mae Clwb Gwau Trefor wedi cytuno hefyd i waeu hetiau babis i ni gyflwyno i'r mudiad ym mis Hydref pan gawn gyfle i gwrdd a Eurgain Haf eto. Llongyfarchiadau mawr i'r criw am waith caled iawn, yn eu pajamas! yn trefnu Noson Coffi wych, a chodi £60! Diolch yn fawr iawn i Morgan Jones am fod mor ddewr a wynebu peli yn y gol, a bod yn golgeidwad mor arbennig! DIOLCH YN FAWR IAWN!
Os hoffech ymweld a Kroo Bay Sierra Leone ewch i www.savethechildren.org.uk/kroobay

Friday 9 May 2008

NOSON CWIS A CYRI



Cawsom noson Cwis a Cyri yn Nhrefor ar drothwy Wythnos Cymorth Cristnogol. Daeth 40 at ei gilydd i ffurfio wyth tim. Gwahoddwyd timau o gymdeithasau lleol, mudiadau, ambell weithle, timau o deuluoedd, timau strydoedd a timau o’r capeli lleol. Ar ddiwedd y cwis cafwyd pryd o gyri neu gawl a chyfle i drafod atebion y cwestiynnau a chymdeithasu. Noson hwyliog iawn a codwyd £40.

“Cwis digon derbyniol a difyr iawn “ meddai tim Angylion Dafydd
“Cofis Wedi Injoio Siwr” meddai tim Eglwys Noddfa Caernarfon
“Digon o hwyl a chrafu pen” meddai tim Capel Gosen

Llongyfarchiadau i dim y Titanic, yn cynrychioli Clwb Chware Teg! ar eu buddugoliaeth o 58 marc allan o 65 posib!

Wednesday 7 May 2008

NOSON AGORED CLWB URDD A CLWB HWYL A SBRI

Diolch i bawb am gefnogi awr o adloniant yng nghwmni Clwb Hwyl a Sbri a Clwb yr Urdd heno! Cafwyd eitmau gwych gan Glwb yr Urdd yn amrywio o ddatganiad recorders, deuawdau, unawd corn i barti canu! Talentog iawn wir! a diolch arbennig iawn i Miss Griffiths am eu hyffroddi ac am gyfeilio ar y noson - Diolch yn fawr iawn! Mae Clwb Hwyl a Sbri wedi bod yn dysgu am fywydau Luis a Richard o Ica yn Periw, sydd heb ddwr glan yn y ty, felly roedd rhoddion heno i gyd yn mynd tuag at brynu tap dwr ar gyfer pentref yn Periw, allan o lyfr Present Aid Cymorth Cristnogol! Da iawn chi!

CLWB CHWARE TEG!

Pwyllgor heno ar gyfer trenfu Noson Coffi a Cic am Gol yn y Ganolfan nos Lun 12fed Mai.
Golgeidwad Morgan Jones
Cic am Gol: plant 50c, oedolion £1
Cefnogi cynllun Clwb Chware Teg gyda Achub y Plant (Save the Children).
Mae'r criw wedi bod yn dysgu am sefyllfa bywyd yn Sierra Leone, un o wledydd tlota'r byd - a'r ystadegau uchol mewn marwolaethau plant cyn eu bod nhw'n 5 oed yn Affrica.
Dewch i'w cefnogi! 6.00 o'r gloch.

CLWB GWAU


Dwylo Profiad yn arwain Dwylo Bach!
Mae'r Clwb Gwau yn mynd o nerth i nerth! Dim ond yr ail gyfarfod oedd hwn ar y 6ed Mai ac yn barod mae llond ces o ddillad yn barod ar gyfer uned geni Ysbytai Gwynedd a Glan Clwyd. Ar ben hyn mae dros 20 o hetiau yn barod ar gyfer Achub y Plant/Save the Children - cynllun sydd yn cyd fynd a gwaith Clwb Chware Teg ar yr ystadaegau syfrdanol o Affrica ynglyn a marwolaethau plant dan bump oed, sydd gyda'r uchaf yn y byd. Os fedrwch chi waeu, neu grosio, sgarff neu het, yna mae wir angen eich cyfraniad! Cysylltwch ag aelod o Clwb Chware Teg neu Llinos.

CRIW ROMANIA


Dydd Sadwrn roedd rhai o'r criw sydd yn mynd i Romania yn cynnig gwasanaeth lleol - pacio'ch bagiau yn siop Morrisons - cafwyd cefnogaeth wych i'r weithgaredd a cafwyd llawer iawn o hwyl hefyd yn sgwrsio gyda staff a chwsmeriaid ffraeth Caernarfon. Diolch i'r cwsmeriaid a Morrisons am ein derbyn ac am gefnogi'r cynllun! Edrychwch allan am fwy o weithgareddau a hanes y criw!

CIC LLITHFAEN

Aeth aelodau o CIC Llithfaen sy'n dod o Drefor draw i Glasfryn nos Fercher 30ain i ymuno gyda dros 50 o bobl ifanc eraill mewn noson o Fowlio Deg! Cawsom hwyl go dda hefyd! Cyn dod adre cawsom bryd bwyd blasus a sgwrs gan rhai o fyfyrwyr Coleg y Bala.

CLWB HWYL A SBRI


Heno cawsom gyfle i baentio lluniau lliwgar fydd yn mynd i gwmni yng Nghorwen - a pan ddon nhw'n ol fyddan nhw ar fwg!!! ein mwgiau personol ni!!!

Friday 2 May 2008

Pin Dwr i Periw

Clwb Hwyl a Sbri a Clwb yr Urdd
Awr o adloniant yng nghwmni'r plant
Neuadd Ysgol yr Eifl nos Fercher 7fed Mai
am 6 o'r gloch
Eitemau a hanes gwaith Clwb Hwyl a Sbri
Mae'r plant yn awyddus ar ol dysgu am fywyd Luis a Richard o Periw
i alluogi i blant gael mynediad i ddwr glan, felly bydd elw'r noson yn
mynd tuag at gael pin dwr i Periw!
Mynediad £1

Noson Goffi a Cic am Gol

Clwb Chware Teg!
Dewch i'r Noson Goffi yn Y Ganolfan
am 6 o'r gloch i gefnogi gwaith y Clwb
ar gyfer Achub y Plant/Save the Children
Bydd hefyd gyfle i chi geisio CIC AM GOL
ac arddangos eich sgiliau pel-droed!
Nos Lun 12fed Mai
Dewch yn llu - noson wedi ei threfnu gan
y bobl ifanc.

Tecwyn Ifan

Nos Iau 22 Mai
Festri Maes y Neuadd
am 8 o'r gloch
Noson yng nghhwmni TECWYN IFAN a'r bobl ifanc sydd yn mynd i Romania i weithio gyda plant ym mis Gorffennaf
£3

Noson Cwis a Cyri

NOSON CWIS A CYRI
Festri Maes y Neuadd
Nos Iau 8fed Mai 7.30
Timau o ddim mwy na 5
£5 y tim
Rowndiau: chwaraeon, Beibl, llyfrau, cyffredinol ...
Enw'r tim a dewis o gyri neu gawl i Llinos erbyn 7fed Mai
Dewch a timau stryd, teuluoedd, gweithle, cymdeithasau, capeli, eglwys ...