Monday 25 February 2013

CLWB CHWARE TEG!

24ain Chwefror 2013 - fel rhan o'r Digwyddiad mae'r Clwb Chware Teg! am ddangos eu Trefor nhw i ni a gan bod hi'n ddiwrnod go sych, fe aethom ati i dynnu lluniau o gwmpas y pentref ar gyfer sioe sleids.  Fe gawn rannu'r lluniau gyda chi yn fuan!

CLWB HWYL A SBRI


24ain Chwefror 2013 - ar ein taith drwy'r Beibl cawsom gyfarfod Abraham heddiw.  Dyma ni yn y babell yn cael stori gan Angharad Roberts.  Bu Abraham yn teithio am hir iawn gan wersylla bob nos.  Bu i Abraham a Sara gael babi wedi iddyn  nhw gyrraedd y wlad newydd a thyfodd teulu Abraham nes nad oedd modd eu rhifo.

CLWB CHWARE TEG!


21ain Chwefror 2013 - Beth yw Eglwys? dyna thema heno ac mae'r criw yn y llun yn ceisio cael pawb, gyda'u gilydd, o un ochr yr ystafell i'r ochr arall! Pobl yw eglwys sydd yn dod at eu gilydd i addoli Duw, i gymdeithasu, i edrych ar ol eu gilydd ac i helpu eraill.  Mae'r criw yma yn llwyddo!

Wednesday 20 February 2013

DECHRAU DA!

20fed Chwefror 2013 - croeso nol i bawb wedi gwyliau Hanner Tymor a dyma lun lliwgar Anest, Caio, Tomos, Elis ac Owen.  Wythnos nesa byddwn yn dathlu Gwyl Dewi

Sunday 17 February 2013

HWYL A SBRI

17eg Chwefror 2013 - mae'n Hanner Tymor ac yn ddiwrnod braf iawn.  Cawsom gyfle i adolygu storiau'r pedair wythnos diwethaf cyn mynd ymlaen i son am stori Abraham.  Byddwn yn parhau gyda'r stori yr wythnos nesa ond i baratoi bu'r criw bach heddiw yn ymarfer codi papell!

Tuesday 12 February 2013

CLWB HWYL A SBRI

11eg Chwefror 2013 - mae'n Hanner Tymor ac felly cawsom gyfle i ddod at ein gilydd bore heddiw i gael gweld ffilm a darfod ein hanifeiliaid i roi yn Arch Noa!  Roedd pawb yn talu £1 heddiw ac yn gwneud hynny i gefnogi taith feics noddedig gan dad a brawd un o'r aelodau.  Bydd yr arian yn cefnogi pump o elusennau.

Monday 11 February 2013

CLWB HWYL A SBRI

10fed Chwefror 2013 - Glaw! Glaw! Glaw! stori Noa gawsom ni heddiw.  Diolch i'r Parchedig Euros Jones am aros i gwrdd a'r plant wedi'r oedfa.  Ar ol cael hanes Arch Noa aethom ati i liwio anifeiliaid i roi yn ein llun mawr a gwneud enfys gyda phaent lliwgar.

Friday 8 February 2013

CLWB CHWARE TEG!


7fed Chwefror 2013 - noson o greu o amgylch y bwrdd heno.  Roedd cyfle i wneud 'dreamcatcher' a meddwl am freuddwydion enwog o'r Beibl.  Hefyd i helpu Clwb Hwyl a Sbri bu rhai o'r criw yn gwneud anifeiliaid i fynd i Arch Noa a hefyd edrych ar addewid Duw o'r stori.  Yr addewid o'i ofal drosom.  Bydd Arch Noa yn lliwgar iawn erbyn dydd Sul, pan fydd y plant yn ychwanegu eu hanifeiliaid nhw.

DECHRAU DA!




6ed Chwefror 2013 - Lliwiau ydi thema mis Chwefror a dyma falwns lliwgar Kimberly, Elis, Owen ac Annest.

CLWB GWAU



4ydd Chwefror 2013 - dyma gyfnod prysur.  Mae 148 o siwmperi yn barod i fynd i Affrica,  Mae hyn yn ychwanegol i'r cyfrif diwethaf.  Diolch i bawb am gyfrannu.  Mae'r angen yn parhau felly os ydych eisiau rhoi tro ar wau siwmper ar gyfer babis newydd anedig yna mae patrwm ar gael gan Llinos neu Eirlys.

Monday 4 February 2013

CLWB CHWARE TEG!

31 Ionawr 2013 - cawsom weld ein ffilm fer ar ein dehongliad ni o Ddameg yr Heuwr heno, wedi ei gosod i gerddoriaeth!  Yna fe fum yn trafod gweddio.  Mae Iesu wedi gosod patrwm ar ein cyfer i weddio yng ngweddi'r Arglwydd.  Wedi i ni wylio ffilm o Sierra Leone aethom ati i feddwl am dri peth y bydde'm yn weddio amdano.