Wednesday 24 April 2013

DECHRAU DA!

24ain Ebrill 2013 - daeth ein thema Pasg i ben heddiw gyda chyfle i wneud coron! a dyma goron Tomos ac un Kimberly.  Wythnos nesa byddwn yn edrych ar 'Fi fy hun a'r teulu'.

Sunday 21 April 2013

HWYL A SBRI YSGOL SUL

21ain Ebrill 2013 - heddiw cynhaliwyd Oedfa Deulu a daeth gwestai arbennig atom o Bolivia.  Mae Cecilia Cordova yn westai i Cymorth Cristnogol ac yn teithio drwy Gymru am wythnos.  Roedd yn fraint cael cwrdd   a Cecilia a chlywed hannes sut mae Cymorth Cristnogol yn helpu pobl yn Bolivia.  Cawsom weddiau wedi eu haddurno gyda hetiau traddodiadol Bolivia a hefyd unawdau piano gan Alaw, Ella, Erin, Lauren a Mared. Mae cyfeilyddion ar gyfer y dyfodol ym Maesyneuadd! Daliwch ati!  Mae Cecilia yn gweithio gyda phrosiectau amaethyddol ac felly cawsom ninnau gyfle i aros hwylio'r te, in addurno pot planhigyn a phlannu hadau!

 


Thursday 18 April 2013

CLWB CHWARE TEG!

18fed Ebrill 2013 - mae'r Digwyddiad yn agosau, dau gyfarfod arall ac fe gewch weld ein gwaith dros y chwe mis diwethaf.  Byddwn yn cynnal y Digwyddiad nos Iau 23ain Mai!

DECHRAU DA!

17eg Ebrill 2013 - cyfle heddiw i goginio! Gwneud cacennau Rice Crispies a siocled. Tybed fydd y dwylo bach yn gadael llonydd i'r cacennau gael cyfle i galedu??

Monday 15 April 2013

HWYL A SBRI YR YSGOL SUL

14eg Ebrill 2013 - dyma gyfle i baratoi ar gyfer yr Oedfa Deulu wythnos nesa pan fyddwn yn croesawu Cecilia Cordova o Bolivia atom.  Rydym wedi paratoi gweddiau ac addurno hetiau traddodiadol o ardaloedd yr Andes, ar gyfer Cecilia.








Thursday 11 April 2013

CLWB CHWARE TEG!

10fed Ebrill 2013 - cawsom gyfle heno i weithio gyda Ed Holden a chael gwrando ychydig o'i hanes a'i ddawn arbennig mewn beatbox.  Roedd yn gyfle gwych i weld Ed wrth ei waith a chyn diwedd y sesiwn roeddem wedi creu rap i gyd-fynd a'n ffilm o stori Maesyneuadd.  Dyma'r geiriau, ond i glywed y rap fe fydd rhaid i chi ddod i'r Digwyddiad yn y dyfodol agos!

Rap 200

Criw Maesyneuadd yn y lle
Gwrandewch ar ein rap gyda paned o de.
Cychwyn y stori gyda Sidney bach
Dyma'r stori - mae'n stori iach.
John Griffiths - y gweinidog
Pregethu'r gair yn fyw ac yn hwyliog.
Sidney yn cael ei ysbrydoli
i agor capel ac addoli.

Neges o Gaernarfon i lawr i'r Hendre
Dechrau addoli yn y pentre
Dyma ni yn sefyll droed i droed
Maesyneuadd - 200 oed!



DECHRAU DA!

10fed Ebrill 2013 - mae'n wanwyn yn Dechrau Da! ac felly dyma gyfle i greu cyw bach pluog! Daeth criw agos iawn i oedran eu gilydd heddiw, a chroesawyd dau fach newydd sef Isabella a Llywelyn.  Edrych ymlaen i weld pawb eto yr wythnos nesa.

CLWB GWAU

2il Ebrill 2013 - cynhaliwyd Clwb Gwau arferol heddiw ac fe gafodd pawb ychydig o wlan i helpu gyda'r holl wau! Cawsom wybod ein bod wedi tan wario ar ein cynllun grant.  Felly, fe brynwyd 38 pellen o wlan i'w rannu rhwng yr aelodau.

HWYL A SBRI

27ain Mawrth 2013 - cyfle yn ystod gwyliau'r Pasg i ddod at ein gilydd a chael gweld ffilm deuluol.  Roedd ffilm Rio yn hyfryd a'r elw yn cefnogi taith feics noddedig.