Friday 14 February 2014

CLWB CHWARE TEG!

12fed Chwefror 2014 - gohuriwyd ein cyfarfod heno oherwydd tywydd garw, roedd y gwynt cryf yn creu dipyn o lanast o gwmpas y pentref.  Nol wythnos nesa gyda cwis!

CLWB CARTWN

7fed Chwefror 2014 - dyma ddechrau recordio'r lleisiau heno ar gyfer y cefndiroedd. Gwyliwch allan am gyfle i weld y ffilm ym mis Ebrill.

Thursday 6 February 2014

CLWB CHWARE TEG!

5ed Chwefror 2014 - noson Beth yw Cymuned? Actau 2: 43-47 - hanes cymdeithas y credinwyr cyntaf. Roedd bwyd yn chwarae rhan fawr wrth gymdeithasu yn y Beibl, felly dros ein trafodaeth cawsom rannu datys, doughnuts a siocled!  Bu cryn drafod wedyn ar gymdeithas a'n rol ni fel unigolion mewn cymdeithas. Beth yw ein cyfrifoldebau? Beth yw ein pryderon? Beth yw'r pethau gorau am fyw mewn cymdeithas? Edrychwyd hefyd ar dri ffigwr arbennig 700 biliwn (sef - y nifer o funudau sy'n cael ei wario ar Facebook bob mis!) 70 biliwn (sef - y nifer o bytiau sydd yn cael eu gosod ar Facebook bob mis) a 22% (sef y nifer o bobl ifanc sydd yn logio mewn i Facebook mwy na 10 gwaith y dydd!).

HWYL A SBRI

2il Chwefror 2014 = dyma ni wedi cyrraedd y bore mawr! Roedd criw o'r gennod wedi gofyn am gael cynnal gweithgaredd i godi arian ar gyfer trychineb Y Pilipinas.  Felly dyma drefnu Bore Coffi o'u dewis nhw gan werthu eu gwaith llaw, teganau, cynnig paned a chacen a diddanu drwy chwarae'r piano!  Cafodd pawb fwynhad mawr o gymdeithasu yn y Bore Coffi a gwnaed elw o £100 i'r apel.  Da iawn chi blant, bydd Trefor yn saff o weithgareddau llwyddiannus yn y dyfodol!