Saturday 28 May 2011

CLWB CHWARE TEG!











Parhawyd yr wythnos yma gyda gwaith celf ar gyfer Gwobr John Muir, Uned 4 sef yr uned rhannu ein profiad gyda'r gymuned. Dyma'r pedwar pennawd ar gyfer y wobr.

BORE COFFI







Cynhaliwyd Bore Coffi mis Mai yn Ysgol yr Eifl er budd Cymorth Cristnogol. Roedd y plant wedi paratoi gwaith ar bartneriaid Cymorth Cristnogol mewn pedair gwlad. Sudan, Haiti, Sierra Leone a Japan. Cafwyd bore byrlymus iawn gyda stondin gacennau a chriw ffilmio yn cofnodi'r cyfan. Bydd Llinos yn teithio i Sierra Leon ym mis Mehefin gyda Cymorth Cristnogol i weld gwaith partneriaid yno yn ail-adeiladu cymunedau gwledig, yn dilyn y rhyfel cartref 1997-2002.

DECHRAU DA!











Croesawyd plant naewydd heddiw, a braf iawn oedd cael cwrdd a nhw. Diweddwyd thema mis Mai gyda pawb yn gwneud llun o Ty Ni! Thema mis Mehefin fydd Glan y Mor, ac edrychwn ymlaen am dywydd braf i gael mynd yno gobeithio!

Monday 23 May 2011

CLWB CHWARE TEG!











22 Mai 2011 - heddiw aethom i Gwm Idwal i gyflawni rhan cyntaf ein Gwobr John Muir Amgylcheddol. Roedd yn brofiad a hanner gan fod y gwynt yn gryf iawn, roedd rhaid i ni fwyta ein picnic yn y glaw ac roeddem yn wlyb domen ar ol bod yn Llyn Idwal! Serch hynny cawsom brofiad ANHYGOEL!

CLWB CHWARE TEG!





19 Mai 2011 - daeth Margaret Ellis atom heno i ddysgu ni sut i gwiltio. Roedd angen pwytho dau sgwar gyda'i gilydd, ei smwddio'n daclus a'i osod gyda'r sgwariau eraill. Cawsom dysgu sut i wneud pwyth blanced hefyd i addurno ymyl gwahanol siapiau, fydd ar y diwedd yn cael eu gwnio yng nghanol y sgwariau. Gwneud mat ydym ar gyfer babis sydd yn mynychu Dechrau Da!

CLWB CHWARE TEG!

19 Mai 2011 - Daeth Margaret Ellis atom heno i ddysgu ni sut i gwiltio. Rydym yn paratoi mat llawr ar gyfer babis Dechrau Da! Bydd yn un lliwgar iawn wedi i ni ei orffen.

GWASANAETH YSGOL YR EIFL



19 Mai 2011 - bydd Llinos yn teithio i Sierra Leone ar y 6ed Mehefin i weld sut mae partneriaid Cymorth Cristnogol yn gweithio gyda'r bobl mewn cymunedau yn y wlad. Cafodd nifer o gwestiynnau gan y plant i fynd gyda hi, ac i ymchwilio i'r atebion yn Sierra Leone, ac yna ddod a'r atebion a lluniau yn ol i'r ysgol.


Mae'r cwestiynnau yn rhai aeddfed iawn:

Beth yw breuddwydion plant a phobl ifanc am y dyfodol

Beth mae nhw'n wisgo?

Sut mae bywyd o ddydd i ddydd

Pa fath o fwyd mae nhw'n fwyta

Beth yw eu hoff stori

Sut gartrefi sydd ganddyn nhw

Pa gemau mae nhw'n chwarae

Sut mae nhw'n treulio eu hamser

Oes gan blant ddyletswyddau

Pa fath o anifeiliaid mae nhw'n gadw

DECHRAU DA!



18 Mai 2011 - Prynhawn prysur arall yn chwarae gyda'r adnoddau sydd ar gael a chael cyfle i liwio a chwarae gemau heddiw. Braf yw gweld aelodau newydd bob amser ac mae croeso mawr i chi gyd.

Tuesday 17 May 2011

OEDFA NEGES EWYLLYS DA 2011



16 Mai 2011 - cynhaliwyd oedfa wedi ei llunio o gwmpas Neges Heddwch ac Ewyllys Da 2011 yn Festri Maesyneuadd gyda Clwb Chware Teg! ac Aelwyd Gwrtheyrn. Roedd y Festri yn llawn a chafwyd cyfle i bawb gymryd rhan, i wrando ar gor Aelwyd Gwrtheyrn ac i rannu paned a sgwrs ar y diwedd. Roedd y casgliad yn mynd tuag at Merched yn erbyn Cancer a bydd £40 yn cael ei gyflwyno i'r elusen yn dilyn yr Oedfa.

Thursday 12 May 2011

DECHRAU DA!




11 Mai 2011 - Roedd yn braf iawn gweld plant newydd gyda ni heddiw. CROESO! Bu pawb yn brysur yn gwneud ffram ar gyfer rhoi llun ynddo wythnos nesa. Ein thema am mis Mai yw Fi fy hun / Y Teulu.

Friday 6 May 2011

CLWB CHWARE TEG!





5ed Mai 2011 - ar y 6ed o Fehefin bydd Llinos yn ymweld a gwaith Cymorth Cristnogol yn Sierra Leone. Cawsom weld ffilm rymus iawn heno yn dangos gwaith y partneriaid hyn yn gweithio mewn cymunedau tlawd yn Sierra Leone. Mae pawb wedi gwneud cerdyn fel bo Llinos yn medru rhoi cyfarchion o Gymru i bobl Sierra Leone pan fydd yn aros gyda nhw! Diolch yn fawr.

Wednesday 4 May 2011

DECHRAU DA!



4ydd Mai 2011 - Thema Dechrau Da! mis Mai yw Fi a fy Nheulu. Mae yna ddigon o weithgareddau i bawb, felly croeso mawr i blant a babis newydd bob tro! Dyma lun Erin a llun Begw yn barod i fynd ar y wal arddagos.

CLWB GWAU







3ydd Mai 2011 - Croeso nol i bawb wedi egwyl Y Pasg. Mae nifer fawr o eitemau wedi dod i law ac yn barod i fynd i Ysbytai Gwynedd a GlanClwyd yn fuan. Mae'r plant wedi darfod eu cyfars ar gyfer ffon bach a bellach yn dysgu cwiltio gyda Margaret Ellis. Mae nhw am weud mat llawr ar gyfer babis Dechrau Da!