Wednesday 29 February 2012

DECHRAU DA!



29ain Chwefror 2012 - heddiw bu i ni ddathlu Dydd Gwyl Dewi gan wahodd aelodau o bwyllgor gwaith Llinos i Dechrau Da! Cawsom wneud cennin pedr a chael cacen gri i de. Diolch i bawb am ddod i gefnogi.

Friday 24 February 2012

CLWB CHWARE TEG!


23ain Chwefror 2012 - Noson Het! gemau a gwybodaeth. Roedd gan pob gorsaf het daflen i'w llenwi - Cryfderau; Gwendidau; Creadigrwydd; Meddwl am feddwl; Teimladau; Gwybodaeth. Gyda'r taflenni hyn fe fydd modd creu rhaglen i'r clwb o'r Pasg hyd yr haf. Wedi i ni lenwi'r taflenni rhoddwyd nhw a'r het yn y cannol - cyflwynwyd ein meddyliau i Dduw, bod amser tawel pob dydd yn effeithiol wrth i ni dyfu fyny, a bod Duw yn edrych ar ein holau.

Rhowch y pethau ydych chi’n poeni amdanyn nhw i Dduw, achos mae Duw yn gofalu amdanoch chi.

1 Pedr 5:7

CLWB HWYL A SBRI



22ain Chwefror 2012 - parhau gyda'n stori Porthi'r 5000. Roedd ein dwylo toes wedi sychu felly roedd angen eu paentio! Bu Heledd ac Alaw yn dechrau ar y llun mawr ar gyfer y wal!

CLWB CHWARE TEG!



9fed Chwefror 2012 - Noson Cenhedloedd! Y dasg heno oedd creu gwlad ddelfrydol i fyw. Creu siap, arfordir, tirwedd, traddodiadau, ffyrdd o fyw, dathliadau, pedair rheol ar gyfer y wlad a dwy reol ar gyfer mewnfudwyr. Roedd angen baner ar y wlad a hefyd greu anthem genedlaethol! Atgoffwyd ni am ein sesiwn yr wythnbos diwethaf am gymeriad Duw ac roedd Gwlad Berfor yn adlewyrchu nifer o'r rhinweddau da hynny. Roedd traddodiadau diddorol iawn hefyd fel Gwyl y Mor a dathliadau penblwydd ar y mor.

Wednesday 8 February 2012

CLWB HWYL A SBRI


8fed Chwefror 2012 - Porthi'r 5000 yw stori'r wythnos a heno cawsom weld y stori mewn lluniau. Roedd pawb yn cytuno bod rhannu yn bwysig a dyma lun o llaw Cadi yn rhannu 5 torth a 2 bysgodyn. Erbyn y Clwb nesa fe fydd wedi sychu ac yn barod i'w baentio!

DECHRAU DA!


8fed Chwefror 2012 - mae'r plant yn brysur yn llenwi llun o stori'r Creu. Dim ond pobl sydd ar ol i'w lenwi ac ar ol hanner tymor fe fyddwn i gyd yn rhoi ein marc ar y stori.

CLWB GWAU

6ed Chwefror 2012 - cawsom ymweliad heddiw gan Fred a Jo sydd yn gweithio i RSVP Cymru. Roedden nhw wrth eu bodd yn ein plith ac yn falch iawn o weld plant yr ysgol yn ymuno gyda ni i ddysgu gwau.

Friday 3 February 2012

CLWB CHWARE TEG!



2il Chwefror 2012 - Noson Bananas! Noson amrywiol a blasus! Edrych ar rinweddau cymeriad Duw a rhinweddau naturiol iachus bananas! Lluniwyd gweddiau ar ein coeden bananas ac i ddiweddu roedd pawb yn gwneud banana sblit i'w fwyta!

CLWB HWYL A SBRI

1af Chwefror 2012 - cychwynwyd ar Ddameg Porthi'r 5000 heno gan wneud model. Bydd rhaid cyflwyno'r stori yr wythnos nesa gobeithio - gan nad oedd ond 4 yn y Clwb heno - gobeithio bod pawb yn gwella'n dda wedi i frech yr ieir darro'r pentref!

DECHRAU DA!


1af Chwefror 2012 - Y Creu yw thema mis Chwefror, felly byddwn yn edrych ar y dydd, y nos, planhigion, anifeiliaid, adar, pysgod a phobl! Croesawyd Alfie ac Emily i'n plith.

GWASANAETH Y MIS - YSGOL YR EIFL

26ain Chwefror 2012 - cynhaliwyd gwasanaeth i blant yr ysgol - Duw cariad yw.

BORE COFFI

26ain Ionawr 2012 - cynhaliwyd Bore Coffi hwyliog iawn yn Yr Hen Ysgol. Bydd y Bore Coffi nesa yn cael ei gynnal yn Festri Maesyneuadd 23ain Chwefror er budd Apel Trefor Eisteddfod yr Urdd.