Friday 20 April 2012

DECHRAU DA!


18 Ebrill 2012 - diwrnod prysur iawn yn Dechrau Da! heddiw - bu pawb yn brysur yn gwneud cacennau!  Beth sydd yn digwydd i wyau Pasg sbar - well gwneud cacennau Rice Crispies siwr!

ARWAIN ADDOLIAD

16 Ebrill 2012 - daeth y grwp at ei gilydd heno i drafod oedfa ar gyfer nos Sul 22ain Ebrill.  Thema'r oedfa hon fydd 'Hyder mewn Gweddi'.

Thursday 12 April 2012

CLWB HWYL A SBRI




11eg Ebrill 2012 - daeth nifer fawr ynghyd i baratoi ar gyfer Carnifal yr Urdd dydd Sadwrn. Roeddem yn gwneud 'sgwydwr ar gyfer gwneud swn wrth gerdded! Roedd hefyd gyfle i wneud gosodiad blodau sych, fydd yn cael ei feirniadu yn y Carnifal. Gwaith gwych iawn blant!

CLWB GWAU

2il Ebrill 2012 - cafwyd Clwb Gwau llawn eto heddiw gyda nifer o eitemau lliwgar yn barod i fynd i'r Ysbytai. Dosbarthwyd gwlan i bawb hefyd.