Sunday 16 April 2017

Ysgol Sul Hwyl a Sbri

9fed Ebrill 2017
Stori Arch Noa heddiw, ar drothwy'r Pasg dyma oedd dymuniad y plant bach ers wythnos diwethaf, ac redden nhw'n cofio bod nhw wedi gofyn!  Addewid eto gan Dduw ei fod am ein cadw'n saff.  Lle arall gewch chi stori Arch Noa ond yn Arch Noa, a dyma hi, ar anifeiliaid wedi eu gosod yn daclus gan y plant.  Hefyd fe welwn enfys Meinir, Deio a Ieuan i'n hatgoffa o addewid Duw.


Roedd y dosbarth hyn yn edrych ar hanes Sul y Blodau. Dyma faner HOSANA! Erin, Elliw a Begw.



Sunday 2 April 2017

2il Ebrill 2017

Stori y ddau dy - hanes Mr Call a Mr Dwl!
Fe ddysgodd Iesu bod gwrando a gweithredu ar ei air yn rhoi sylfaen dda i fywyd da, yn union fel adeiladu ty ar sylfaen gadarn.  Mae'r ty hwnnw yn gwrthsefyll pob gwynt, glaw a storm. Ond meddai Iesu, mae rhai yn gwrthod gwrando ac mae hyn yn union fel adeiladu ty ar y tywod - does dim sylfaen iddo, a bydd yn syrthio.  Dyma dy cadarn Leusa, Tom, Meinir, Ieuan a Deio a drws nesa mae ty simsan Mr Dwl!