Sunday 28 February 2010

CLWB CHWARE TEG!



Cwis gafwyd yn y Clwb nos Iau 25ain Chwefror. Roedd rowndiau ar fwyd a diod, daearyddiaeth, Y Beibl, Cymru ac enwogion. Rhwng pob rownd roedd cyfle i gyflawni tasgau 10 munud a dyma'r ddau dim yn gwisgo dwy aelod mewn ffrogiau priodas. Ydych chi erioed wedi ceisio gwneud llun chi eich hun yn y tywyllwch - dyna oedd yr ail dasg! Da iawn chi, ar ol stopio giglo roedd y dasg yn un ddoniol iawn!

BORE COFFI


Roedd Bore Coffi dydd Iau 25ain Chwefror er budd y British Heart Foundation. Cawsom gwmni plant Ysgol yr Eifl yn cyflwyno lobsgows ar ein cyfer o ddoniau sgwrsio, canu, llefaru a chwarae offerynnau. Llongyfarchiadau mawr am lobsgows blasus iawn a phob hwyl yn yr Eisteddfod Cylch yn Botwnnog dydd Sadwrn. Mae Mabon ap Gwynfor yn gweithio i'r British Heart Foundation ac roedd yn y Bore Coffi gyda ni. Roedd ganddo neges bwysig i'r plant ac i'r rhieni ynglyn ag edrych ar ol y galon, bwyta'n iach ac ymarfer y corff! Dros y mis diwethaf roedd cyfle i roi arian coch yn y galon goch a gydag arian y Bore Coffi ac arian o'r galon casglwyd £45 i gefnogi elusen y British Heart Foundation. Diolch yn fawr iawn i bawb!

CLWB HWYL A SBRI



Adar oedd yn cael y sylw nos Fercher 24ain. Daeth Jenny atom i ddangos i ni sut i wneud bwyd adar i'w osod yn yr ardd. Dyma ni i gyd yn cymysgu'r bwyd sych o hadau a chyrains gyda chaws, afal a lard!

Sunday 21 February 2010

CLWB CHWARE TEG!



Dathlu Blwyddyn Newydd y Tsineaid fu Clwb Chware Teg! yn ystod Hanner Tymor. Pa ffordd well i wneud hyn na mynd am bryd o fwyd Tsineaidd wrth gwrs! Wrth i ni fwynhau'r bwyd cawsom gyfle hefyd i ddysgu dipyn bach am ddathliadau'r Flwyddyn Newydd. Wrth ddarllen ffeithiau diddorol i'n gilydd am draddodiadau'r Tsineaid, roedd yn amlwg iawn bod rhai arferion yn debyg iawn i arferion ni'r Cymry. Mae Blwyddyn Newydd y Tsineaid wedi cychwyn eleni ar Chwefror 14eg ac ar noswyl y Flwyddyn Newydd mae'n arferiad i deuluoedd ddod at eu gilydd a choginio dumplings - mae darn o arian yn cael ei osod mewn un, a pwy bynnag sydd yn cael hwn ar ei blat mae'n cael lwc dda! Mae paent coch yn bwysig iawn i'r Tsineaid wrth addurno ar gyfer y Flwyddyn Newydd - lliw lwcus. Ar fore'r Flwyddyn Newydd mae'n arferiad rhoi pecynnau o arian yn anrhegion i'r plant. Blwyddyn y teigar ydi 2010 ac i'r un sydd yn cael ei eni eleni fe fydd yn berson cryf a dewr, yn onest iawn ac yn meddwl yn dda o bawb. Bydd hefyd yn disgwyl yr un nodweddion gan bawb arall. Wyddoch chi bod defnyddio chopsticks yn mynd yn ol dros 5000 o flynyddoedd. Erbyn heddiw dyma'r ail ffordd mwyaf poblogaidd i fwyta bwyd - bysedd yw'r cyntaf!

MWY o HWYL a SBRI







Dau fore llawn gweithgareddau ar gyfer y plant yn y Ganolfan yn ystod Hanner Tymor. Diolch i Kelly a Miriam am drefnu'r holl weithgareddau ar gyfer y plant, ac am gynnal y gweithgareddau hwyliog. Roedd gemau, rasys, gemau parasiwt a celf a chrefft. Cawsom hefyd ymweliad gan ddwy ferch arbennig iawn - daeth Mirain ac Esyllt heibio. Mae Mirain ac Esyllt yn actio yn Pobl y Cwm ac fe gawson nhw ymuno gyda ni i chwarae gemau parasiwt. Diolch i bawb am ddod i gael hwyl!

Sunday 14 February 2010

CLWB CHWARE TEG!


Cyfle Clwb Chware Teg! oedd cyfrannu i'r murlun heno yng nghwmni Hazel Carpenter. Mae'r murlun bellach yn barod i'w osod gyda'i gilydd. Diolch i bawb am gyfrannu yn: Gwyl Pin Dwr, Clwb Gwau, Clwb Chware Teg! ac Ysgol yr Eifl.

CLWB HWYL A SBRI





Nos Fercher 10fed cawsom stori Adda ac Efa. Roedd y stori yn ein atgoffa pa mor bwysig ydi rheolau - rheolau yn yr ysgol, rheolau croesi'r ffordd ac yn y blaen. Mae'n bwysig iawn cael braich gryf i ddweud NA! pan mae rhywun yn ceisio ein perswadio i wneud drwg! Dyma bedwar llun wnaethpwyd mewn grwpiau i ddehongli stori Adda ac Efa. Da iawn chi!




GWASANAETH Y MIS

Thema Gwasanaeth y Mis i blant Ysgol yr Eifl ym mis Chwefror oedd Y Creu. Cawsom gyfle i fynd drwy waith y saith diwrnod cyn bod y plant yn cael cyfle i gyfrannu i furlun enfawr fydd yn cael ei osod yn Festri Maesyneuadd. Arweinydd y sesiwn celf oedd Hazel Carpenter ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr iawn i weld y murlun tua'r Pasg gobeithio!

DAEARGRYN HAITI



Mae'r daeargryn yn Haiti wedi achosi un o'r trychinebau mwyaf a welodd y byd erioed. Mae hefyd wedi cyffwrdd pobl dros y byd. Mae'r her i helpu wedi ysbrydoli pobl i ddefnyddio eu gallu a'u hawydd i helpu mewn llawer ffordd. Yn Nhrefor fe gwasom gyfle i gefnogi'r un awydd yma gan bobl i wneud rhywbeth. Cawsom noson lwyddiannus iawn yn y Ganolfan nos Sadwrn 6ed Chwefror yng nghwmni'r plant oedd wedi bod yn brysur yn llunio cardiau cyfarch ac adloniant gan Meinir Gwilym. Roeddem yn ffodus iawn hefyd i gael cwmni Branwen Niclas, oedd newydd ddychwelyd o Haiti. Cawsom ein hysgwyd a'n hysbrydoli gan negeseuon Branwen gan rhai o bobl Haiti. Mae yn gyfle eto i gyfrannu i'r gronfa fydd yn mynd i Cymorth Cristnogol, ond ar y funud mae'n gyfraniad gwych iawn o £281, gyda stondin y plant wedi codi £100!

Friday 5 February 2010

CLWB HWYL A SBRI








Noson Haiti gawsom ni yr wythnos yma. Roedd cerddoriaeth salsa a diodydd ffrwythau o bob math - y ffefryn oedd pomegranate, gyda mango ac afalpin yn ail! Fe aethpwyd ati wedyn i greu cardiau cyfarch er mwyn eu gwerthu yn y noson arbennig nos Sadwrn 6ed Chwefror gyda Meinir Gwilym. Bydd holl elw'r noson yn mynd i apel Cymorth Cristnogol Haiti. Dyma gardiau Lowri, Mari, Owain a Ben!

Tuesday 2 February 2010

CLWB GWAU


Cynhaliwyd y Clwb Gwau fel arfer ar y dydd Llun cyntaf yn y mis. Mae croeso i aelodau newydd bob amser ac mae'r Clwb yn un hapus iawn! Mae Blwyddyn 6 Ysgol yr Eifl wrthi'n gosod sgwariau gyda'u gilydd i greu blancedi i'w danfon i gartref Bryn Meddyg. Ar ddiwedd y Clwb aeth Ishbel gyda'r plant i'r Ysgol a chyflwyno cacennau wedi eu gwneud ganddi hi a Miss Margaret Ellis ar gyfer siop y dosbarth babanod. Dyma nhw'r cacennau yn y siop!