Saturday 14 May 2016

Hwyl a Sbri Wythnos Cymorth Cristnogol

8fed Mai 2016 - thema Wythnos Cymorth Cristnogol yw car pob cymydog. Cawsom gyfle felly i atgoffa ein hunain o stori'r Samariad Trugarog. Roedd digon o hwyl i gael wedyn yn creu prygenfa ar gyfer ein arddangosfa.  Ar Sul 22ain byddwn yn cynnal Brecwast Bangladesh am 10.00 ac yn dangos ffilm fer am blant yn derbyn cymorth gan Cymorth Cristnogol yn Bangladesh.  Cofiwch adael i Llinos wybod
 os mai bap sosej fyddwch angen neu un bacwn!

Hwyl a Sbri Cymorth Cristnogol

1af Mai 2016 - Rydym am ddilyn adnoddau Cymorth Cristnogol ar gyfer y tri Sul nesa.  Pobl sydd yn byw ar lannau'r afon Brahamputra yn Bangladesh yw ffocws yr Wythnos eleni.  Mae'r glannau'n gorlifo ac yn dinistrio bywydau'r bobl.  Mae Cymorth Cristnogol yn helpu'r bobl drwy godi eu tai au codi i mewn i'r tir. Mae teuluoedd yn cael buwch, geifr, ieir, hwyiaid a hadau i blannu llysiau maethlon. Mae teuluoedd hefyd yn cael pryfaidgenwair, er mwyn ffrwythloni'r tir!  Wyddoch chi bod prygenwair yn medru byw i fod yn 10 oed!
Bu barddoni yn yr Ysgol Sul heddiw a dyma rai o'r gweddiau byddwn yn addurno'n murulun:

Diolch am y Duw byw.
Diolch am y bwyd o'r rhwyd.
Diolch am bobl yn tyfu a ffynnu.
Codi pobl o dlodi mae pry y ty!





Friday 11 March 2016

Oedfa Sul y Mamau


6ed Mawrth 2016 - cynhaliwyd oedfa Sul y Mamau a braf oedd gweld festri lawn.  Cafwyd canu emynau, darlleniad o ddisgrifiad Duw o gariad allan o lyfr Corinthiaid; dangoswyd ffilm Hwyl a Sbri gyda gair gan Angharad Roberts.  Diweddwyd gyda paned a chacennau i bawb.

Hwyl a Sbri yr Ysgol Sul

28ain Chwefror 2016 - paratoi heddiw ar gyfer ein oedfa Sul y Mamau wythnos nesa. Bu creu cerdyn a hefyd creu stribed ffilm yn dangos cariad a gofal yr us sydd yn edrych ar ein holau a hefyd stribed ffilm i ddangos sut y medrwn ni ddiolch am hynny wythnos nesa!

Hwyl a Sbri yr Ysgol Sul

7fed Chwefror 2016 - yng nghysgod adroddiadau dyddiol ar y teledu am y ffoaduriaid o Syria cawsom wasanaeth mewn pabell.  Bu i ni ddysgu am y ffoaduriaid a chael picnic yn ein pabell.  Trefnwyd casgliad o flancedi a dillad cynnes i anfon i Calais ac I Syria. Diolch i bawb am eu cyfraniad.

Hwyl a Sbri yr Ysgol Sul

31ain Ionawr 2016 - ymlaen a ni drwy'r Hen Destament ac i ddysgu am Noa a sut y bu iddo wrando ar Dduw ac adeiladu'r arch ar gyfer ei deulu a'r anifeiliaid.

Hwyl a Sbri yr Ysgol Sul

24ain Ionawr 2016 - heddiw cawsom ddysgu am stori Adda ac Efa a rhoi ein gweddiau o ddiolch ar y goeden.