Wednesday 21 April 2010

CLWB HWYL A SBRI


Stori Sacheus gawsom yn y Clwb Hwyl a Sbri heno. Roedd Sacheus yn ddyn bychan iawn. Roedd o hefyd yn ddyn oedd yn twyllo pobl, felly doedd o ddim yn boblogaidd iawn. Dringodd Sacheus i ben coeden er mwyn gweld Iesu yn dod i'r pentref. Er syndod i Sacheus, galwodd Iesu arno i ddod lawr o'r goeden, a'i fod am aros yn ei dy y noson honno! Roedd Sacheus yn falch iawn bod Iesu yn fodlon bod yn ffrind iddo, ac fe newidiodd Sacheus ei ffyrdd a dod yn ddyn da. Cawsom gyfle wedyn i greu coeden weddi yn llawn dail, a Sacheus ynddi!

CLWB BEICS PEDAL

Nos Lun 19 Ebrill, cynhaliwyd cyfarfod cyntaf o Clwb Pedal. Clwb beics ydi Pedal, sydd yn dysgu plant sut i fod yn saff ar eu beics o gwmpas y pentref. Daeth Adam atom i roi gwers Lefel 1 ar gyfer beicio gofalus.