Thursday 30 July 2009

CLWB HWYL A SBRI HAF 2009

Wel! Mae Jac a Wil yn gaethweision ar Ynys y Mor-ladron, ac mae'r Mor-ladron yn gwneud iddyn nhw weithio yn galed iawn! Sgwrio'r llong, coginio, golchi'r dillad drewllyd. Mae Wil a Jac yn drist iawn ddim yn gwybod beth i wneud nesaf. Ond mae nhw'n cael help y parot, sydd yn mynd a'u neges yn ol at yr Adeiladwr! Mae'r Adeiladwr yn poeni yn arw amdanyn nhw ac yn anfon ei fab Joshua i'w hachub! Wedi cyrraedd Ynys y Mor-ladron mae Joshua yn cwrdd a Ben y Mor-leidr ac yn dadlau a cheisio rhyddhau Wil a Jac. Mae Ben yn gwrthod rhyddhau, mae Joshua yn erfyn, mae Ben yn dal i wrthod, mae Joshua felly yn rhoi dewis - os wnewch chi ryddhau Wil a Jac fe wnaf i gerdded y planc i'r mor! Iawn meddai Ben! Mae Wil a Jac yn dianc ac mae Joshua yn cerdded y planc i'r mor ble mae'n cael ei fwyta gan Anghenfil Ynys y Mor-ladron!
Dyma ni yn brysur yn creu Anghenfil ar gyfer Ynys y Mor-ladron! Beth fydd yn digwydd fory??

Wednesday 29 July 2009

CLWB HWYL A SBRI HAF 2009


Mor-Ladron Trefor a melltith y dewis du!
Dyma weithgaredd llawn hwyl wrth i ni glywed hanes y llong berffaith yn hwylio'r moroedd dan ofal Wil, Jac a Bob. Roedden nhw'n dilyn map arbennig roddwyd iddyn nhw gan yr Adeiladwr. Roedden nhw'n rhydd i fynd i bob man arwahan i Ynys y Mor-leidr. Ond, yn ystod un o'u teithiau cafodd y llongwyr eu twyllo i fynd i'r ynys, dan addewid o drysor! Wedi cyrraedd fe gawsant eu dal gan y tri Mor-leidr mwyaf drwg sef Ben, Cian a Twmffat! Roedd y tri Mor-leidr wedi dwyn y gwch! Dewch nol fory i weld beth sy'n digwydd i Bob, Wil a Jac!

Sunday 12 July 2009

PERERINDOD 2009





Dydd Sul 12fed Gorffennaf trefnwyd Pererindod ar y cyd gyda Eglwys Noddfa Caernarfon. Roedd y cwmni a'r tywydd yn fendigedig a chafwyd prynhawn cyfa wrth fodd pawb. Prynhawn prysur yn ymweld, yn ymlacio ac yn addoli. Ymwelwyd yn gyntaf a Ffynnon Cybi a chafwyd ychydig o hanes y ffynnon gan Dawi Griffiths wrth i ni eistedd ger yr adfeilion. Aethom ymlaen wedyn i Penarth Fawr, ty canoloesol a chael eto ryfeddu at harddwch y safle hwn. Ymlacio wedyn dros baned yn yr haul yn Glasfryn tra roedd y plant yn chwarae gem Bowlio 10 cyn dod yn ol i Maesyneuadd a chael oedfa hwyliog a chartrefol iawn yng nghwmni aelodau o'r ddwy eglwys. Cyn i Eglwys Noddfa gychwyn am adre mwynhawyd paned a chacen cyn ffarwelio.

Wednesday 8 July 2009

CLWB GWAU TREFOR

Ar y 6ed Gorffennaf cawsom gwmni Clwb Gwau Llanaelhaearn i fwynhau sgwrs a phaned. Bydd y cyfarfod nesa ym mis Medi ar y dydd Llun cyntaf sef 7fed Medi. Byddwn yn croesawu disgyblion newydd o Ysgol yr Eifl atom bryd hynny ac mae croeso i aelodau newydd o'r pentref ymuno gyda ni hefyd. Byddwn hefyd yn croesawu cydlynydd newydd y Clwb Gwau sef Eirlys Cullen ac yn esmwythau Eirlys i mewn i'r swydd dros y misoedd nesaf. Mwynhewch yr egwyl dros yr haf.