Tuesday 19 April 2011

ARWAIN ADDOLIAD

18 Ebrill 2011 - daeth y criw at eu gilydd eto yr wythnos yma i barhau gyda'r gwaith o lunio oedfa ar y cyd. Bydd oedfa Agor Di Ein Llygaid Arglwydd yn cael ei chynnal nos Sul 29ain Mai am 5.30. Gobeithio!

CLWB HWYL A SBRI Y PASG







Dydd Llun 18 Ebrill 2011 - bore llawn gweithgareddau yn yr haul! Cyfle i addurno bisgedi Pasg a gwneud cacennau Rice Crispies. Allan wedyn i fwynhau gemau pel a parasiwt yn yr haul poeth! Wedi egwyl fer cawsom lond bol o chwerthin iach yn gwylio sioe Cwmni Cortyn cyn cael picnic ac adre!

GWASANAETH CARTREF CARIADUS

17 Ebrill 2011 - dros yr wythnosau diwethaf mae Clwb Hwyl a Sbri wedi bod yn defnyddio pecyn Apel Eglwys Bresbyteraidd Cymru 'Cartref Cariadus' i lunio gweithgareddau. Crewyd baner yn defnyddio blociau pren patrymog, sydd yn ddull traddodiadol o addurno defnydd yn yr India. Wrth i ni edrych ar ein cartrefi ni a chartref plant Hmangaihna In yn Mizoram, roedd yn amlwg iawn bod cydymdeimlad mawr gyda plant Trefor am blant y cartref hwn. Penderfynwyd trefnu Noson Coffi ar gyfer teuluoedd a chymdogion. Bu'r plant yn brysur yn gwneud matiau bwrdd a chardiau'r Pasg yn ystod y noson. I gloi cawsom oedfa 'Y Lleiaf o'r Rhai Hyn' nos Sul 17 Ebrill. Byddwn yn anfon £125 i'r Apel.

CLWB CHWARE TEG!







14eg Ebrill 2011 - noson yng nghwmni Arwel Elias fydd yn ein tywys drwy wobr John Muir dros yr wythnosau nesaf. Gwobr sydd yn ein annog i warchod a mwynhau'r amgylchfyd. Dyma rai o'r logos sydd wedi cael eu llunio ar gyfer gwefan y Clwb!

Wednesday 13 April 2011

DECHRAU DA!


13eg Ebrill 2011 - gan barhau gyda thema'r Pasg bu'r plant yn ddiwyd iawn heddiw yn gwneud cacennau gyda siocled! Bydd gwyliau nawr tan dydd Mercher 4ydd Mai.

CLWB HWYL A SBRI



6ed Ebrill 2011 - heno cawsom gyfle i longyfarch ein hunain ar lwyddiant y Noson Goffi wythnos diwethaf gan gyhoeddi i'r plant bod £80 wedi ei godi yn barod ar gyfer Cartref Cariadus gyda gwasanaeth yn y capel eto i ddod. Cawsom weld lluniau o Mizoram a lluniau'r plant yn y cartref. Hefyd fe gawsom weld crefftau a defnyddiau o Mizoram gan Angharad Roberts sydd wedi bod yn gweithio yn Mizoram mewn ysgol. Cyn mynd adref roedd digon o amser i wneud cerdyn Pasg i'r teulu.