Sunday 24 March 2013

HWYL A SBRI YR YSGOL SUL



24ain Mawrth 2013 - cyfle cyn y Pasg i fwynhau stori Iesu Grist o'r geni hyd heddiw pan mae yn Clwb Hwyl a Sbri gyda ni!  Roedd digon o amser i chwarae gemau a gwneud lluniau cyn ein bod yn gwneud cacennau siocled i fynd adre. Pasg Hapus i bawb.

Friday 22 March 2013

CHWARE TEG!

21ain Mawrth 2013 - parhau i weithio ar Y Digwyddiad heno a hefyd trafod y posibilrwydd o fedru gwneud oriau Gwirfoddolwyr y Mileniwm yn sgil y prosiect.  Ardderchog ar gyfer cv.

DECHRAU DA!

20fed Mawrth 2013 - diwrnod prysur iawn i Dechrau Da! heddiw gan i Betsan Brysur ddod draw i'n cyfarfod ni!  Aeth pawb i neuadd Ysgol yr Eifl i gael storiau, arwyddo a chanu.  Yna yn y prynhawn fe ddaeth pawb yn ol i'r Festri i chwarae fel arfer.

Monday 18 March 2013

HWYL A SBRI YR YSGOL SUL


17eg Mawrth 2013 - dyma Joseff yn ei got liwgar a chynlluniau unigol am got liwgar y plant.  Mae holl gynllunwyr ffasiwn y dyfodol yn dod o Drefor!

Sunday 17 March 2013

HWYL A SBRI YR YSGOL SUL






17eg Mawrth 2013 - heddiw cawsom ail hanner stori Joseff. Ei hanes yn y carchar yn yr Aifft a'i hanes yn cynorthwyo'r brenin gyda dehongli breuddwydion.  Cafodd ddyrchafiad gan y brenin i edrych ar ol y storfeydd bwyd.  Ac yn ystod y newyn bu'n bwydo ei frodyr a'i deulu.  Maddeuodd i'w frodyr am ei adael a hynny yw addewid Duw yn ein stori - byddaf bob amser yn barod i faddau i ti.  Mared gyrhaeddodd gyntaf yn ein gem yn adrodd stori Joseff.  Dyma luniau o got liwgar Joseff a hefyd gynlluniau personol pawb o got liwgar - cynllunwyr ffasiwn o fri yn y pentref!

CLWB CHWARE TEG!

16eg Mawrth 2013 - cyfle i fynd i lawr i'r Nant heddiw i dynnu lluniau ar gyfer ein cyflwyniad dauganmlwyddiant Maesyneuadd.  Mae ty cyfnod yn y Nant ac roedd hwn yn berffaith ar gyfer tynnu lluniau o deulu Sidney Roberts.  Mwynhau siocled poeth yn y caffi cyn dod adre, i dynnu lluniau yng nghoed Lyrnion.

Friday 15 March 2013

CLWB CHWARE TEG!

14eg Mawrth 2013 - mae'r criw yn dal i weithio ar Y Digwyddiad a dyma ragflas o gymeriadau cartwn - heb roi dim mwy i ffwrdd!!!

Wednesday 13 March 2013

DECHRAU DA!


13eg Mawrth 2013 - mae'n wanwyn ar y fferm a dyma ddefaid ac wyn Anest, Begw ac Elis.  Wythnos nesa cawn gyfle i fynd i Ysgol yr Eifl  ble cawn Bore Stori yng nghwmni Leisa Mererid a phlant meithrin yr ysgol

Sunday 10 March 2013

HWYL A SBRI







10fed Mawrth 2013 - mae'n storiau dros yr wythnosau diwethaf wedi bod yn ymwneud a'r teulu - teulu Noa, teulu Abraham a heddiw teul Joseff a'i frodyr.  Ac rydym wedi clwyed addewid Duw wrth bob un o'r storiau hynny.  Hefyd heddiw mae'n Sul y Mamau felly dyma fynd ati i wneud cardiau lliwgar i fynd adre.

Friday 8 March 2013

CHWARE TEG!







7fed Mawrth 2013 - cawsom gyfle heno i drafod ymgyrch newydd IF-OS.  Bydd Anna Jane Evans o Cymorth Cristnogol yn dod atom nos Sul 17 Mawrth i son mwy am yr ymgyrch - dyma poster Chware Teg! wedi i ni drafod mymryn ar yr ymgyrch.

SGWRS A SGRAM

7fed Mawrth 2013 - cawsom ddathlu Diwrnod y Llyfr heddiw gyda cinio Sul cig oen.  Ein gwestai oedd Pryderi Llwyd Jones a bu'n dangos tri Beibl i ni - un Beibl Teulu o'r 18G, llyfr adnodau bach milwr o'r Rhyfel Byd Cyntaf a Beibl ar Kindle newydd sbon danlli.  Cawsom brynhawn difyr iawn.  Bydd y cinio nesaf ym mis Ebrill.

DECHRAU GA!



6ed Mawrth 2013 - dathlu Sul y Mamau bu'r plant bach heddiw, a hefyd yn digwydd bod roedd tad Kimberly yn cael ei benblwydd! Roedd prysurdeb mawr yn gwneud cardiau. Dyma gardiau Kimberly, Anest, Elis ac Owen.

CLWB GWAU

4ydd Mawrth 2013 - roedd y Clwb Gwau yn llawn eto heddiw.  Dyma flwch i ddal ffon bach o waith Ben a Catrin.

Sunday 3 March 2013

HWYL A SBRI










3ydd Mawrth 2013 - heddiw roedd cyfle i ddysgu am Masnach Deg a chael hanes siocled o Ghana.  Mae Comfort yn tyfu cocoa a'i werthu i gwmni Masnach Deg.  Ers hynny, :18 Blant annwyl, peidiwch dim ond siarad am gariad, gwnewch rywbeth i ddangos cariad! Mae prynnu cynnyrch Masnach Deg yn ffordd o ddangos cariad.  Bu'r criw yn brysur yn addurno cacennau cyn mynd adre!

Saturday 2 March 2013

DYDD GWEDDI BYD-EANG Y CHWIORYDD

1af Mawrth 2013 - cynhaliwyd Gwasanaeth Byd-eang y Chwiorydd eleni am 4 o'r gloch yn y Festri.  Paratowyd y gwasanaeth eleni gan wragedd Ffrainc.  Trefnwyd ein oedfa ni gan Margaret Wyn a chawsom flasu bara a chaws Ffrangeg yn dilyn yr oedfa.

CLWB CHWARE TEG!

28ain Chwefror 2013 - noson o bosau a gemau gawsom heno.  Nifer o gemau gwirion a chyfle i grafu'r meddwl.  Roedd ras i geisio bwyta'r Mars cyn i'r person nesa gael chwech ar y dis, tynnu llun chi eich hun - yn y tywyllwch a cheisio dyfalu pwy ydw i?  Ar ddarn o bapur roedd ystyr enw pob un o aelodau'r clwb - y gam oedd gweld pwy oedd pwy - dyma ystyron yr enwau - pwy ydw i?

Ton wen   Aderyn   Ymdrechu a Rhagori   Un sydd fel Duw   Duw Iachawdwriaeth   Craig   Teg


Cyn mynd adre bu i ni gyflawni Sudoku wedi ei baratoi gan Josh!

BORE COFFI

28ain Chwefror 2013 - cynhaliwyd Bore Coffi hwyliog iawn yn yr Hen Ysgol.  Roedd y tywydd a'r cwmni yn braf iawn.

DECHRAU DA!



27ain Chwefror 2013 - cyfle heddiw i ddathlu Gwyl Dewi a chael addurno cacennau!  Daeth nifer fawr i Dechrau Da! heddiw ac roedd angen maes parcio arbennig yn y festri ar gyfer cerbydau bach! Dyma gacen Anest. Mmmmmmm...