Sunday 28 September 2008

ENW






Oedfa anffurfiol yn y Ganolfan gafwyd nos Wener 26ain Medi yng nghwmni Clwb Chware Teg!, Clwb CIC Llithfaen a band o'r enw ENW! Daeth saith o aelodau'r band atom o Eglwys Penrallt Bangor, a chafwyd noson arbennig iawn yn eu cwmni. Arweinwyd ni mewn emynau, gweddiau, gweithgareddau a rhannu neges Duw, a hynny'n ystyriol a hwyliog iawn. Wedi'r emynau agoriadol cafwyd gweithgaredd oedd yn cynnig cyfle i ni gymysgu fel cynulleidfa a dod i nabod ein gilydd ychydig yn well, drwy chwarae bingo-dynol. Roedd rhaid darganfod person oedd yn medru cyflawni, neu ateb y 12 cwestiwn osodwyd e.e. darganfyddwch rhywun sydd yn dysgu iaith arall; darganfyddwch rhywun sydd yn cefnogi tim pêl-droed o Gymru; darganfyddwch rhywun sydd yn gwisgo dilledyn wedi ei wneud mewn gwlad arall ayyb. Roedd hyn yn ein hatgoffa pa mor lwcus ydym ni, â'n bod mewn gwirionedd yn dibynnu ar weddill y byd yn ddyddiol. Cafwyd neges am gariad a gras Duw tuag at bawb gan Rachel. Ysgrifennwyd gweddiau tawel dros y bobl a gwledydd y byd a'u gosod ar fap ar lawr y neuadd. Cafwyd cyfle hefyd i ysgrifennu ein gweddiau personol i Dduw ar falwn ac i ddiweddu roedd cryn gynwrf yn y neuadd wrth i bawb bopio'i falwn i Dduw! Mwynhawyd sgwrs a phaned a chacen cyn troi am adre.

Thursday 25 September 2008

PROSIECT CLWB CHWARE TEG! (5)



Dyma'r bumed wythnos i ni ddod at ein gilydd ac mae ymarferion wedi dechrau ar olygfeydd o'r perfformiad. Bydd yn amser hysbysebu a hyrwyddo'r sioe cyn bo hir!

Monday 22 September 2008

AMSER TE - CYMORTH CRISTNOGOL

Diolch i bawb gyfrannodd tuag at Amser Te Cymorth Cristnogol dydd Gwener 19 Medi. Diolch am y cwmni ac fe godwyd £18.

Thursday 18 September 2008

DECHRAU CANU DECHRAU CANMOL



Daeth criw ffilmio Dechrau Canu Dechrau Canmol i Drefor heddiw - i Ysgol yr Eifl. Bu Alwyn Humphreys yn cyfweld pedwar o'r disgyblion. Roedd yr eitemau recordiwyd yn ymwneud a prosiect plant yr Ysgol i gefnogi gwaith y gwirfoddolwyr o'r pentref aeth i weithio yn Romania yn ysgod yr haf. Eglurodd Lois sut aeth yr Ysgol ati i godi arian, drwy orchuddio map o Romania gyda arian man. Eglurodd Leah bod Roberta a Dafydd wedi bod draw i'r Ysgol i son am y gwaith, cyn mynychur daith ac ar ol dychwelyd, gan ddangos lluniau o'r gweithgareddau drefnwyd yn Romania. Eglurodd Adam bod yr arian gasglwyd yn Ysgol yr Eifl wedi mynd i brynu peli, llyfrau ysgol newydd a rhoi profion llygaid i blant sydd yn byw mewn Cartref Plant yn Romania. Ac i ddiweddu eglurodd Non bod gweld y lluniau gan Roberta wedi gwneud iddi hi sylweddoli pa mor lwcus ydym ni yng Nghymru. Hefyd, cafwyd can hyfryd iawn gan blant yr ysgol i ddiolch i Dduw am fwyd, dillad, ffrindiau, cartref ac am Iesu Grist. DA IAWN CHI!

PROSIECT CLWB CHWARE TEG! (4)

Yr wythnos hon, dechreuodd y sgript ddod i'w lle a trafodaethau manwl ar gymeiriadu, y set a delweddau. Diolch i bawb am ddal ati mor gadarnhaol.

Saturday 13 September 2008

CLWB CIC LLITHFAEN





Mae Clwb CIC Llithfaen wedi ail gychwyn. Cynhaliwyd Helfa Drysor i agor y tymor, ar noson braf iawn yn Nantgwrtheyrn. Cafwyd cyfle hefyd i holi Moses am ei fywyd! Os wyt ti ym mlwyddyn 7 neu hyn, mae croeso i ti ddod i Clwb CIC, rho wybod i Llinos. Cynhelir cyfarfodydd bob yn ail nos Wener, ac mae'r cyfarfod nesa yn Nhrefor nos Wener 26ain Medi yng nghwmni'r band 'ENW' o Fangor.

Friday 12 September 2008

HYSBYSEB

CLWB CHWARE TEG
yn cyflwyno noson yng nghwmni
ENW
Y Ganolfan Trefor
Nos Wener Medi 26

Trefn y Noson:
6.30 gweithdy cerddoriaeth pobl ifanc - cyfle i ddod a offeryn neu ddod i fwynhau'r canu
7.30 Oedfa hwyliog i'r teulu - gemau, canu, neges, gweddi a paned

Dewch yn llu - croeso i bawb!

Thursday 11 September 2008

PROSIECT CLWB CHWARE TEG! (3)





Ymlaen a'r gwaith gyda'r prosiect arbennig hwn, ac mae'n mynd o nerth i nerth. Wythnos tri ac fe gawsom gyfle i ddangos ein sgiliau actio, symund a chanolbwyntio. Bu i ni greu siapiau a'u hadlewyrchu i'r ail grwp a hefyd creu lluniau llonydd o emosiynau e.e. ofn, twyllo ... Roedd cyfle hefyd i ddysgu sut i recordio'r cyfan ar gamera fidio a chamera digidol!

Thursday 4 September 2008

PROSIECT CHWARE TEG! (2)





Dyma ail wythnos ein prosiect gyda Gwen Lasarus. Heno cawsom weithdai actio. Roedd pob grwp yn cael 'sefyllfa', a deg munud i baratoi deialog byr ar y stori yn y sefyllfa. Pob stori yn agwedd ar y thema o fwlio. Roedd pob perfformiad yn rymus iawn! Gellid yn wir gredu ym mhwer a chymeriad rhai o'r cymeriadau. Mewn cyn lleied o amser a deg munud roedd pawb wedi rhoi cant y cant, ac o'r weithgaredd yma mae deunydd swmpus iawn ar gael i gychwyn llunio sgript.

Tuesday 2 September 2008

PROJECT CLWB CHWARE TEG!

Dros yr wyth wythnos nesaf bydd aelodau Clwb Chware Teg! yn cydweithio gyda Gwen Lasarus ar waith fydd yn cyflwyno materion cyfoes pobl ifanc. Mae'r project yn cynnwys dawns, actio, ffilm, gwaith celf, llefaru ... pob agwedd o'r celfyddydau. Edrychwn ymlaen i weld y gwaith gorffenedig yn yr Hydref. Pob lwc!