Monday 7 December 2009

CLWB HWYL A SBRI





Mae crysau-T apel Blue Peter bron yn barod i gael rhubannau arnynt a'u smwddio, cyn eu hanfon i Blue Peter.

BORE COFFI : OFFERYNNOL











Tachwedd 26 - yn ein Bore Coffi heddiw fe gawsom wledd offerynnol gan blant Ysgol yr Eifl. Tuba, Corn, Clarinet, Recorders a chanu. Roedd y Festri yn llawn i weld talentau ardderchog plant y pentref. Diolch yn fawr iawn i'r plant a'u hyfforddwyr.

OPERATION CHRISTMAS CHILD


Eleni anfonwyd hyd at 60 o becynnau i Operation Christmas Child. Diolch yn fawr iawn i bawb a gyfranodd i'r ymdrech hon.

CINIO NADOLIG CLWB GWAU

30 Tachwedd - aeth 12 o'r Clwb Gwau i Caffi'r Eifl Llanaelhaearn i gael cinio Nadolig. Cafwyd hwyl yno yng nghwmni ein gilydd a trefnwyd cwis gwau gan Llinos.

FFAIR NADOLIG : ADRAN YR URDD A CLWB HWYL A SBRI








28 Tachwedd - dyma fore hwyliog a llawn gweithgareddau yn Y Ganolfan. Trefnwyd gan Adran yr Urdd a Clwb Hwyl a Sbri. Roedd gennym grefftwyr lleol a byrddau gwerthu gan y Clwb Gwau a'r Grwp Cefnogi. Roedd awyrgylch caffi yn y Neuadd a digon o weithgareddau ar gyfer y plant: addurno bisgedi, addurno coeden nadolig, addurno addurniadau coeden nadolig, cornel lliwio, cornel gwneud bwyd i geirw Sion Corn, lucky dip a, cyn i bawb fynd adre fe ddaeth Sion Corn heibion! Daeth Jan Wilson-Jones atom hefyd i roi arddangosfa goginio o ddanteithion ar gyfer y Nadolig. Bore prysur, llwyddiannus iawn. Diolch i bawb fu'n cynorthwyo i wneud y Ffair yn llwyddiant!

CLWB HWYL A SBRI : JOSEFF







25 Tachwedd - Stori Joseff gawsom ni heno. A dyma stori addas iawn ar gyfer cychwyn ar ein prosiect i gefnogi apel Blue Peter. Mae Blue Peter am i ni greu gowns lliwgar allan o grys-T ar gyfer plant yn yr Indiad sydd yn mynd i gael llawdriniaeth cleft lip. Mae yna waith cynllunio heno a paentio yr wythnos nesa!

OEDFA HIV/AIDS

22 Tachwedd - cynhaliwyd ein oedfa flynyddol ar gyfer Dydd Rhyngwladol HIV/AIDS. Roedd yn oedfa deimladwy iawn gyda diolch mawr i'r nifer yn cymryd rhan. Roedd ein siaradwraig wadd yn ferch ifanc iawn. Dim ond 14eg oed oedd Shauna Roberts pan aeth hi gyda Cymorth Cristnogol i Sierra Leone i weld prosiectau'r mudiad. Roedd ganddi egni a brwdfrydedd rhyfeddol wrth rannu'r profiad gyda ni mewn sgwrs a ffilm. Roedd y casgliad o £30 yn ein galluogi i gefnogi un o'r prosiectau y bu i Shauna ymweld a nhw yn Sierra Leone - prosiect yn gweithio drwy godi ymwybyddiaeth am HIV/AIDS mewn twrnamentau pel-droed.

CLWB CHWARE TEG! : ROCKSOLID







19 Tachwedd - cawsom gwmni Gwenno Teifi heno a thema'r noson oedd 'y byd' a 'newid hinsawdd'. Cyflwynwyd gemau, tasgau, ffilm fer a sgwrs cyn bod cyfle i ymlacio a chymdeithasu gyda'n gilydd. Gobeithio gawn ni gwmni Gwenno eto yn fuan.

CLWB HWYL A SBRI : ESTHER







18 Tachwedd - dysgu am stori Esther wnaethom ni heno. Mae'r wythnos hon yn wythnos cenedlaethol Gwrth Fwlio felly roedd stori Esther yn un bwysig iawn. Bu Esther yn ddewr iawn yn dweud wrth y Brenin bod Haman yn bwriadu lladd yr Iddewon. Ar ol i Owain, Ifan, Gwenno a Sion actio'r stori aethpwyd ati i greu llun o'r stori drwy ddefnyddio tatws a llysiau i brintio gyda paent, a chreu llun.

CLWB CHWARE TEG! : RYAN KIFT


12 Tachwedd - Ryan Kift ddaeth atom i'r Clwb Chware Teg! Roeddem yn ysgrifennu can gyda Ryan, a dewiswyd thema Nadoligaidd. Dyma'r geiriau ac fe fydd Ryan yn anfon copi o'r gan orffenedig atom yn y dyddiau nesaf. Cyn diweddu bu Ryan yn canu ei sengl newydd i ni.
Sort of can Nadolig
Pedwar deg tri diwrnod tan 'Dolig
Oh na, o diar!
Pobl hyn yn yfed gin a tonic
Rhai yn yfed biar
Dim arian - drosodd mewn blinc
Tollti gwin gwastraff lawr y sinc
Caneuon cheezy ar y radio
A Sion Corns bach yn nodio
Cytgan:
Ond dwi dal isho Dolig
Dwisho presant dwisho bwyd
Gwyl San Steffan fory
Mae gen i gymaint - dwi angen rhwyd!
Sbrowts yn ogleuo a Crist yn crio
Mam yn gweiddi a plant yn ffraeo
Nos yn cyrraedd fel hen stori
O ma gobaith i ni fory.

CLWB HWYL A SBRI : NOA







11 Tachwedd - yn y Clwb Hwyl a Sbri heno fe gawsom ddechrau tymor newydd o'r Clwb. Bu i pawb gael Pasbort Clwb a chofrestru. Mae 20 ar y cofrestr - da iawn chi blant! Heno fe gawsom stori Noa, a Sion oedd yn gwirfoddoli i ddarllen yr hanes, tra bod pawb arall yn gwisgo mygydau anifeiliaid ac yn meimio'r stori! Yn dilyn y stori cafwyd gweithgaredd o addurno bisgedi. Rhai yn lliwgar iawn!

CLWB GWAU







Daeth Hazel Carpenter i'r Clwb Gwau heddiw (2il Tachwedd) gyda'r murlun fydd, wedi ei gwblhau, yn cael ei arddangos yn Festri Maesyneuadd. Ychwanegwyd nifer o eitemau awyr, tir a mor i'r murlun heddiw!

BORE COFFI - DIOLCHGARWCH


Roedd yn braf iawn unwaith eto cael cwmni'r plant i ddathlu'r Diolchgarwch mewn Bore Coffi llwyddiannus iawn. Diolch iddyn nhw a'r staff am gyflwyno caneuon newydd a gwasanaeth Diolchgarwch clodwiw iawn.

OEDFA MOR-LADRON


Yn dilyn y Clwb Hwyl a Sbri Haf cafwyd cyfle heddiw (dydd Sul 18 Hydref) i weld premier yn y Festri o ffilm fer y plant - Mor-ladron Trefor a melltith y dewis du! Roedd pawb yn derbyn copi dvd o'r ffilm, ac roedd cymeradwyaeth wych iawn i'r plant ar y diwedd. Rydym am wneud yn siwr bod Jamie a Josh yn derbyn copi o'r dvd ar gyfer y Nadolig, gan eu bod nhw bellach yn byw yn Sbaen!

GWASANAETH Y MIS

Cynhaliwyd Gwasanaeth y Mis yn Ysgol yr Eifl dydd Iau 15fed Hydref. Heddiw roedd cyfle i ddathlu a diolch am ein athrawon gan roddi siocled yn anrheg iddyn nhw!

BORE COFFI


Cynhaliwyd ein Bore Coffi blynyddol er budd MacMillan yn y festri dydd Iau 1af Hydref. Cafwyd cynulleidfa dda iawn i wrando ar gyflwyniad plant yr Ysgol. Diolch i bawb am gefnogi.

Tuesday 29 September 2009

GWYL PIN DWR 2009





Cynhaliwyd Gwyl Pin Dwr dros penwythnos 25-27 Medi. Cafwyd eleni weithgareddau gwahanol a dipyn o hwyl eu canlyn. Nos Wener cafwyd cwis mapiau dan ofal Chris Evans siop Sbardun Pwllheli - daeth pawb o'r 5 tim yn ol i'r man cychwyn ond nid pob tim oedd wedi darganfod yr holl atebion!! Noson hwyliog iawn.
Prynhawn dydd Sadwrn cafwyd prynhawn o weithgareddau yn y Ganolfan gyda rhywbeth at ddant pawb. Trawsffurfiwyd y Ganolfan yn gaffi gyda lluniaeth ardderchog! Roedd Hazel Carpenter wrth law i annog pawb i gyfrannu i ddarlun mawr o'r cread, fydd wedi ei gwblhau yn cael ei arddangos yn Festri Maesyneuadd. I'r plant bach, roedd Margaret Wyn Ellis yn cynnal stori a chan tra roedd Rachel a John o Trobwynt yn cynnal gweithgaredd gyda'r plant hyn. Roedd y stondinau yn brysur iawn.
Cafwyd canlyniad y gystadleuaeth Ffotograffi: dan 12 oed Non Roberts, 12-18 oed, Nia Thomas ac yn adran yr oedolion: 1 Emlyn Cullen, 2 Gerallt Hughes, 3 Meilir Thomas.
Roedd pawb wedi edrych ymlaen at Ras Pin Dwr! Er na ddaeth oedolion i gystadlu eleni roedd y plant yn frwdfrydig iawn. Yn yr oedran uwchradd Rhiannon Thomas oedd yn fuddugol ac yn yr oedran cynradd Sion Hari Eccles. Rhoddwyd gwobr arbennig hefyd i Alaw Roberts am mai hi oedd y cystadleuydd ieuengaf i gwblhau'r ras heb stopio! I gloi y prynhawn cafwyd cwmni a cherddoriaeth Ryan Kift.
Nos Sul yn y Festri cafwyd gwasanaeth i Ddathlu'r Cread gan fynd a ni allan i'r gofod cyn dod nol i'r ddaear gyda lluniau a darlleniadau gan Clwb Chware Teg! Wedi'r gwasanaeth cafwyd sgwrs ddifyr iawn gan Falmai Matulla am ei gwaith yn gwarchod tylluanod ac yn modrwyo adar yn ardal Llyn. Noson ddifyr iawn i gloi Gwyl Pin Dwr 2009.

Monday 14 September 2009

BRECWAST CYNNAR








Bore dydd Sadwrn 12fed Medi cynhaliwyd Brecwast Cynnar yn Y Gorlan i gefnogi taith gerdded go arbennig. Roedd John Roberts ac Anna Jane yn cerdded 60 milltir mewn 30 awr er budd Cymorth Cristnogol. Taith o Benmon Ynys Mon i Aberdaron yn Llyn. Roedd Emlyn hefyd yn ymuno gyda nhw o Drefor i Aberdaron. Llwyddwyd i godi £76 rhwng y brecwast ac Aberdaron!

Llongyfarchiadau mawr iddynt am eu camp! Fel y gwelwch chi, mae Emlyn yn credu'n gryf bod ymestyn y coesau yn help mawr ar daith gerdded!

Thursday 10 September 2009

GWYL PIN DWR 2009

Cofiwch am GWYL PIN DWR 25-27 Medi 2009
Penwythnos o weithgareddau ar gyfer y teulu
Nos Wener - Cwis Mapiau
Prynhawn Sadwrn - gweithgareddau yn y Ganolfan a cherddoriaeth gan Ryan Kift
Nos Sul - oedfa Dathlu'r Cread
Dewch yn llu!

CLWB GWAU

Mae'r Clwb Gwau wedi ail-gychwyn mis Medi 2009 ac mae'n mynd o nerth i nerth. Croesawyd disgyblion newydd o Ysgol yr Eifl atom dydd Llun 7fed. Mae Morgan, Jamie, Gwenno a Natalie wedi dechrau gwau cosy i ddal ffon symudol. Os oes gan rhywun awydd ymuno gyda ni yna mae croeso i chi wneud hynny - neu wau adref - neu os oes gennych chi wlan yn y ty nad ydych yn debygol o'i ddefnyddio eto, yna bydd Clwb Gwau Trefor yn falch iawn ohonno.

Tuesday 25 August 2009

CLWB GWAU: TE PRYNHAWN


Dim gwau mis Awst, ond cyfle i gael ymlacio a mwynhau sgwrs, te a chacen yng Nghaffi'r Eifl Llanaelhaearn. Bydd y Clwb Gwau yn ail gychwyn dydd Llun Medi 7fed am 2 o'r gloch yn Festri Maesyneuadd, ac yn cyfarfod ar ddydd Llun cyntaf bob mis wedi hynny.

Saturday 1 August 2009

CLWB HWYL A SBRI HAF 2009


Mor-ladron Trefor a melltith y dewis du
Roedd Bob a Wil a Jac yn drist iawn erbyn hyn, wedi gweld Joshua yn cael ei fwyta gan yr anghenfil. Wrth iddyn nhw gerdded ar y traeth roedden nhw'n bendant bellach eu bod yn gaeth ar yr Ynys Ddu am byth! Yn sydyn dyma nhw'n gweld rhywun ar y traeth yn coginio brecwast! roedden nhw eisiau bwyd. "Dewch i gael brecwast gyda mi" meddai'r dieithryn. Wrth nesau dyma Bob, Wil a Jac yn sylweddoli mai Joshua oedd o!!! Roedden nhw'n methu credu. Nes i ladd yr anghenfil a dyma da ni'n fwyta i frecwast meddai Joshua! O'r llwyni dyma Ben a'i For-ladron yn neidio a dechrau ymosod arnyn nhw. Cafwyd gwrthdaro cleddyfau ffyrnig gyda Joshua yn y diwedd yn goroesi. Rhoddodd Joshua ddewis i'r Mor-ladron - unai aros yn ddrwg ar yr Ynys Ddu am byth neu ei ddilyn ef am fywyd gwell. Dyma nhw'n penderfynnu aros. A dyna ddiwedd y stori. Doedd hyn ddim yn ddiweddglo hapus iawn felly dyma Rhodri y storiwr yn pwyso botwm rewind - rhoddodd Joshua ddewis i'r Mor-ladron - unai aros yn ddrwg ar yr Ynys Ddu am byth neu ei ddilyn ef am fywyd gwell - dewisiodd pawb i ddilyn Joshua. Ac ar ddiwedd pob stori dda mae yna gyfle i grynhoi'r stori a blasu'r trysor!

Thursday 30 July 2009

CLWB HWYL A SBRI HAF 2009

Wel! Mae Jac a Wil yn gaethweision ar Ynys y Mor-ladron, ac mae'r Mor-ladron yn gwneud iddyn nhw weithio yn galed iawn! Sgwrio'r llong, coginio, golchi'r dillad drewllyd. Mae Wil a Jac yn drist iawn ddim yn gwybod beth i wneud nesaf. Ond mae nhw'n cael help y parot, sydd yn mynd a'u neges yn ol at yr Adeiladwr! Mae'r Adeiladwr yn poeni yn arw amdanyn nhw ac yn anfon ei fab Joshua i'w hachub! Wedi cyrraedd Ynys y Mor-ladron mae Joshua yn cwrdd a Ben y Mor-leidr ac yn dadlau a cheisio rhyddhau Wil a Jac. Mae Ben yn gwrthod rhyddhau, mae Joshua yn erfyn, mae Ben yn dal i wrthod, mae Joshua felly yn rhoi dewis - os wnewch chi ryddhau Wil a Jac fe wnaf i gerdded y planc i'r mor! Iawn meddai Ben! Mae Wil a Jac yn dianc ac mae Joshua yn cerdded y planc i'r mor ble mae'n cael ei fwyta gan Anghenfil Ynys y Mor-ladron!
Dyma ni yn brysur yn creu Anghenfil ar gyfer Ynys y Mor-ladron! Beth fydd yn digwydd fory??

Wednesday 29 July 2009

CLWB HWYL A SBRI HAF 2009


Mor-Ladron Trefor a melltith y dewis du!
Dyma weithgaredd llawn hwyl wrth i ni glywed hanes y llong berffaith yn hwylio'r moroedd dan ofal Wil, Jac a Bob. Roedden nhw'n dilyn map arbennig roddwyd iddyn nhw gan yr Adeiladwr. Roedden nhw'n rhydd i fynd i bob man arwahan i Ynys y Mor-leidr. Ond, yn ystod un o'u teithiau cafodd y llongwyr eu twyllo i fynd i'r ynys, dan addewid o drysor! Wedi cyrraedd fe gawsant eu dal gan y tri Mor-leidr mwyaf drwg sef Ben, Cian a Twmffat! Roedd y tri Mor-leidr wedi dwyn y gwch! Dewch nol fory i weld beth sy'n digwydd i Bob, Wil a Jac!