Monday 23 October 2017

Ysgol Sul Maesyneuadd - Daniel yn ffau'r llewod!

22ain Hydref 2017 - hanes Daniel gawsom heddiw. Hanes Duw yn edrych ar ein holau pan fyddwn mewn ofn neu'n bryderus mewn sefyllfa anodd.  Bu'r ddau ddosbarth yn edrych ar hanes Daniel yn cael ei arbed oddi wrth y llewod, gan iddo weddio ar Dduw.  Dyma lewod y dosbarth hyn a gem llew y dosbarth iau.



Sunday 15 October 2017

Ysgol Sul Maesyneuadd - Arwyr y Beibl

15fed Hydref 2017 - hanes Samuel gawsom heddiw yn gweithio yn y Deml yn helpu Eli.  Mae stori Samuel yn ein dysgu i wrando ar Dduw, drwy ddarllen y Beibl, gweddio a gwrando ar y bobl sydd yn ein harwain o ddydd i ddydd. Roedd y tywydd yn ddigon cynnes i eistedd allan am gyfnod yn gwrando ar synau Trefor - clywyd swn y gwynt a swn adar.  Bu'r dosbarth lleiaf yn trafod teulu a dyma gem setiau:
 Setiau o bethau

 Set naturiol a set wedi ei greu gan ddyn

  Setiau mewn lliwiau

  Setiau yn perthyn i'w gilydd

Ysgol Sul Maesyneuadd - Arwyr y Beibl

8fed Hydref 2017 - cawsom hanes Dafydd yn gorchfygu Goliath ac addewid nad oes dim yn rhy anodd i ni gyda Duw. Trowyd Goliath yn gem a sgoriodd y plant bach 55 pwynt yr in, a Llinos yn sgorio dim!


Ysgol Sul Maesyneuadd - Diolchgarwch

1af Hydref 2017 - cynhaliwyd oedfa deulu Diolchgarwch dan ofal Casi Jones.

Ysgol Sul Maesyneuadd - Trip

17 Medi 2017 - heddiw aethom at ein trip Ysgol Sul  Gelli Gyffwrdd.  Cafwyd llawer iawn o hwyl yn mynd ar bob sleid a reid.  Roedd y plant ar oedolion yn mwynhau yn yr in modd!