Tuesday 23 January 2018

Ysgol Sul Maesyneuadd

Ionawr 2018
Dechreuwyd y tymor newydd gyda oedfa o ganu yn dathlu'r storiau gawsom y tymor diwethaf - hanes Daniel, Jona, Dafydd a Samuel.  Roedd ymateb y plant yn frwdfrydig iawn, digon o ganu a phaned a chacen i ddilyn.  Mae'r Ysgol Sul yn cyfarfod am 10.30 bob bore Sul gyda rhaglen lawn o wersi. Mae croeso mawr i ffrindiau newydd yn y dosbarth oedolion, ieuenctid a phlant iau.
Dyma gloriau llyfrau newydd Tom, Meinir, Deio, Aila a Ieuan.