Sunday 30 March 2014

CLWB HWYL A SBRI

30ain Mawrth 2014 - diwrnod i atgoffa ein hunain o stori'r Pasg a chael hanes yr Atgyfodiad.  Mae hi hefyd yn Sul y Mamau wrth gwrs felly bu'r plant yn brysur yn gwneud cardiau i fynd adre.  Wythnos nesa byddwn yn cael cwis Y Pasg a gwneud cacennau siocled!




CLWB CHWARE TEG!

Os ydych chi'n awyddus i gefnogi gweithgareddau Clwb Chware Teg! beth am archebu poster cariad y Clwb.  Ar gael am £1

Monday 24 March 2014

CLWB HWYL A SBRI

23ain Mawrth 2014 - cyfle heddiw i barhau gyda stori'r Pasg gan edrych ar y groes.  Mae'r lliwiau yn y siart yn ein helpu i feddwl am yr hanes.  Mae'r Ysgol Sul wedi cytstadlu mewn cystadleuaeth i greu bocs lliwgar ar gyfer wy Pasg - mae ymgais pawb wedi mynd i Llanberis heddiw! Pob hwyl.




Wednesday 19 March 2014

HWYL A SBRI

16eg Mawrth 2014 - parhau gyda stori'r Pasg a'r Swper Olaf.  Dyma rai o geiliogod y plant!








Friday 14 March 2014

HWYL A SBRI

9fed Mawrth 2014 - rydym wedi cychwyn ar daith y Pasg.  Mul bach i'r Brenin oedd ein stori heddiw ar daith i Jeriwsalem.  Cawsom addurno dail palmwydd.  Hefyd llunio cynllun ar gyfer bocs wyau Pasg ar gyfer cystadleuaeth arbennig.  Roedd ein mul bach ni heb gynffon nes i ni gyd gael tro ar roi cynffon iddo!

Friday 7 March 2014

CLWB CHWARE TEG

5ed Chwefror 2014 - noson 'drwg' a 'da' - edrychwyd ar y 10 gorchymyn a rhai o adnodau y Testament Newydd.  Mae'n amhosib byw i safon perffaith Duw. Does neb wedi gallu cyrraedd safon berffaith Duw ar eu pennau eu hunain.  Roedd gan y criw gyfraniadau gwerthfawr iawn i'r sesiwn heno a chafwyd trafodaethau dwys iawn wrth i'r noson ddatblygu.

CLWB CHWARE TEG!

19eg Chwefror 2014 - cawsom gwis heno i'n cadw ar ein traed! Rowndiau amrywiol yn cynnwys blasu'r creision; beth yw'r neges yn yr adnodau a dod o hyd iddyn nhw yn y Beibl; beth yw'r sbeis; anagrams o drefi yn y Beibl; enwi pump o'n hawliau dynol; adnabod siap y wlad .... noson hwyliog o ddyfalu a chrafu pen.