Friday 21 June 2013

CLWB CHWARE TEG!

21ain Mehefin 2013 - Natalie, Gwenno, Elliw a Michaela gyflwynodd gartwn o stori Maesyneuadd i ddisgyblion Ysgol yr Eifl heddiw.  Roeddent yn hyderus iawn ac wedi mwynhau fel cyn-ddisgyblion, cael ymweld a Ysgol yr Eifl eto.  Eglurwyd sut aethon nhw ati i drefnu'r Digwyddiad, pa syniadau fabwysiadwyd o'r rhestr faith a beth yw'r cynlluniau dros yr haf i dacluso gardd y capel.  Roedd y plant wedi mwynhau yn fawr gweld y cartwn o'r stori ac yn gwerthfawrogi cael Beibl bob un i fynd adref.  Llongyfarchiadau mawr i chi ferched am eich gwaith caled.

CLWB CHWARE TEG!

20fed Mehefin 2013 - cyfle heno i ymarfer ein cyflwyniad ar gyfer disgyblion Ysgol yr Eifl bore fory.  Mae'n stori am hanes dechrau addoli yn Nhrefor yn barod, gyda'r lluniau i adrodd stori Sidney Roberts.  Mae pob Beibl wedi ei baratoi gyda enw'r plentyn a gair i egluro ei fod yn rhodd i ddathlu penblwydd Maesyneuadd yn 200 oed!

Thursday 20 June 2013

PERERINDOD 2013

Eleni mae Dawi Griffiths am ein tywys drwy leoliadau o ddiddordeb yn ardal Harlech.  Byddwn yn mynd o Drefor dydd Sadwrn 29ain Mehefin 2013 a chaniatau y cawn ni dywydd braf!  Os hoffech ymuno gyda ni yna cysylltwch a Llinos.  Y gobaith yw cael ymweld a'r Las Ynys, Eglwys Llandanwg a Llanfihangel-y- traethau cyn cael swper yn Porthmadog ar y ffordd adre.



Wednesday 19 June 2013

DECHRAU DA!

19eg Mehefin 2013 - gobeithio y cawn ni gyfarfod ar y traeth dros yr wythnosau nesa, ond am heddiw cawsom de bach gyda'n gilydd yn y festri.  Dyma lun cath Elis.

Saturday 15 June 2013

CLWB CHWARE TEG!

15fed Mehefin 2013 - mewn ymateb i gais y bobl ifanc trefnwyd i godi ysbwriel ar y traeth heddiw gyda barbaciw i ginio.  Bu'r criw yn weithgar iawn a chodi chwech bag bin o lanast.  Daethpwyd o hyd i'r pethau mwyaf rhyfedd ar y traeth fel handlen drws car; hanner het; ac un hosan!  Cafwyd bore bach braf iawn ar y traeth a diolch i bawb am gefnogi, ac am y barbaciw blasus!




Wednesday 12 June 2013

DECHRAU DA!

12fed Mehefin 2013 - mae'r holl blant wedi sylwi ar y malwod sydd o gwmpas ac yn chwilfrydig iawn ynglyn a'r creaduriaid yma! Dyma falwod lliwgar Dechrau Da!



Wednesday 5 June 2013

Dechrau Da!

5ed Mehefin 2013 - mae'r haf wedi cyrraedd Dechrau Da! gobeithio y cawn ni lawer i brynhawn ar lan y mor.  Dyma furlun haf a pili palas Anest, Tomos, Cerys, Elis ac Owen.  Aethom am baned a chacen i gaffi Trefor yn dilyn ein cyfarfod heddiw!

Tuesday 4 June 2013

CLWB GWAU

3ydd Mehefin 2013 - rydym wedi bod yn cefnogi apel siwmperi chip shop babies ar gyfer plant yn Affrica.  Mae ymhell dros 400 o'r siwmperi wedi mynd bellach o Glwb Gwau Trefor.  Mae hynny yn swm ardderchog iawn - diolch i bawb sydd wedi gwau neu wedi cyfrannu gwlan.  Mae'r clwb yn cyfarfod prynhawn dydd Llun cynta'r mis am 2 o'r gloch yn Festri Maesyneuadd.  Byddwn yn mynd allan am de prynhawn ym mis Gorffennaf cyn diweddu dros yr haf ac ail ddechrau ym mis Medi.  Croeso mawr i chi ymuno gyda ni.

CLWB CHWARE TEG!

28ain Mai 2013 - dyma waith Clwb Chware Teg! ar ymgyrch OS wedi cyrraedd Eisteddfod yr Urdd yn Sir Benfro.  Da iawn chi!

Sunday 2 June 2013

GWYL Y GWANWYN

30ain Mai 2013 - penllanw ein gwyl oedd cael mynd i'r Galeri i weld perfformiad gan gwmni Vamos o Finding Joy.  Gwraig ddoniol yn hoffi dawnsio ydi Joy, ond mae hi'n colli ei chof.  Mae ei hwyr yn aml iawn mewn trwbwl ac yn gwrthryfela gyda'r teulu.  Ond yn ddi-rybudd ac er syndod i bawb mae Danny yn penderfynnu gofalu am ei nain.  A'r hanes tyn yma gafwyd yn y perfformiad gyda paned a chacen gyda'r cast ar y diwedd.  Diolch i Age Cymru am yr arian i gynnal Gwyl y Gwanwyn eleni.