Thursday 30 June 2011

CLWB CHWARE TEG!





30 Mehefin 2011 - heno cawsom barhau gyda Gwobr John Muir gan fynd am dro i Goed Elernion. ARCHWYLIO - dyna oedd y dasg heno. Cawsom archwylio drwy gyfrwng ein synhwyrau. Teimlo'r mwd rhwng bysedd ein traed wrth gerdded yn droednoeth drwy gors! Arogli'r wernen wrth grwydro. Blasu suren y goedwig. Cael ein harwain gyda mwgwd at goeden ac yna ceisio darganfod yr un goeden heb y mwgwd. Eistedd mewn tawelwch gan nodi ar bapur pa synnau oedd o'n cwmpas. Roedd yn brofiad hyfryd iawn bod yng Nghoed Elernion ar noson mor braf. Diolch i Arwel am drefnu'r holl weithgareddau.

Wednesday 29 June 2011

DECHRAU DA!




29 Mehefin 2011 - roedd hi'n brysur iawn yn Dechrau Da heddiw gyda nifer fawr wedi dod i chwarae. Bu Cara, Elliw, Cerian, Aron, Tom, Leusa, Begw ac Erin yn brysur iawn yn gludo hefyd - roedden nhw wedi casglu broc, gwymon a chregyn ar lan y mor wythnos diwethaf, a heddiw yn creu llun gyda nhw! Roedd pawb wedi gwneud cwch i lenwi'r llun lliwgar.

Monday 27 June 2011

PERERINDOD







26 Mehefin 2011 - Teithiodd 9 i ardal hyfryd Tregaron heddiw. Cawsom egwyl fer yn Nhregaron cyn mynd ymlaen i gapel Soar y Mynydd. Ieuan Davies Waun Arlwydd Abertawe oedd yn arwain yr oedfa. Roedd cynulleidfa dda yno ac roedd yr oedfa yn un hwyliog ond gyda neges rymus gan y Pregethwr. Cafwyd croeso mawr yno cyn mynd ymlaen am swper ar y ffordd adre.

Wednesday 22 June 2011

DECHRAU DA!




22 Mehefin 2011 - cynhaliwyd Dechrau Da! heddiw ar y traeth. Ein thema am mis Mehefin yw Glan y Mor. Bu pawb yn casglu broc mor, gwymon a chregyn er mwyn gludo ar ein murlun o lan y mor yn Dechrau Da! wythnos nesa. Roedd y tywydd yn braf iawn a'r traeth yn brysur gyda physgotwyr yn dod i'r lan yn eu cychod.


Hefyd, dylem ddiolch i Margaret Wyn Ellis am orchudd llawr arbennig ar gyfer babis Dechrau Da! Mae hi wedi cwblhau y gwaith ar ol cael cymorth gan Blwyddyn 6 sy'n dod i'r Clwb Gwau a hefyd gan aelodau Clwb Chware Teg! Mae'n fat lliwgar a chynnes iawn.