Friday 18 July 2008

Y CAM NESA'


Mae pob disgybl Blwyddyn 6 yn Ysgol yr Eifl wedi derbyn llyfr Y Cam Nesa' gan Grwp Cefnogi gwaith Llinos yn Nhrefor. Dymuniadau gorau i bawb dros wyliau'r haf ac i bob un sydd yn symud i Ysgol Glan y Mor, Pwllheli. Pob hwyl i chi gyd.

PARTI ROMANIA YSGOL YR EIFL




Cafwyd parti yn Ysgol yr Eifl i ddiolch i'r disgyblion am gasglu arian ar gyfer y daith i Romania. Dyma lun o Roberta yn adrodd yr hanes gan ddangos lluniau i'r disgyblion. Ar ol y cyflwyniad cafwyd bwyd yn cynnwys bisgedi lemwn a siocled Romanaidd, a dau relish i fwyta gyda creision, ryseit ddaeth o Romania gyda'r criw. Roedd pob dim yn flasus iawn, ac wrth i ni fwyta roedd yna gerddoriaeth Romanaidd yn y cefndir. Da iawn chi i gyd am yr holl waith caled.

Monday 14 July 2008

CIPOLWG AR Y DAITH I ROMANIA








Dyma'r criw aeth i Romania. Diolch o galon i bawb fu'n cefnogi'r gwaith yn lleol cyn y daith ac am bob ffydd yn y fenter hon. Diolch hefyd i'r criw am eu holl ymroddiad i'r gwaith ac am wneud gwahaniaeth mawr iawn i fywydau plant a phobl ifanc llai ffodus na ni.


Cynnigwyd gweithgareddau hwyliog i'r plant yn cynnwys celf a chrefft, dawnsio gwerin, gemau parasiwt, gemau gwirion a llawer o amser, cyfeillgarwch a chariad.


Mae plant Popesti yn byw mewn ardal difreintiedig iawn yn Romania a diweithdra wedi arwain at broblemau cymdeithasol.


Roedd yr holl weithgareddau yn cymryd lle mewn Canolfan Gymdeithasol yn Popesti gyda'r Romanian Foundation for Children and Families yn cyflogi un person yn gyfrifol am y ganolfan o'r enw Prietenia sy'n golygu 'cyfeillgarwch'.


Nod gweithgareddau'r ganolfan yw cynnig lle saff i blant, gweithgareddau sydd yn tynnu plant y pentref a plant y Cartref Plant lleol at ei gilydd, cymorth gyda gwaith cartref a chyfeillgarwch.


Yn ystod yr wythnos cafodd 47 o blant y Cartref brofion llygaid ac roedd 19 angen sbectol.


Bydd cael sbectol yn gwneud gwahaniaeth mawr i fywyd ac addysg y plant yma.