Thursday 21 August 2008

GEMAU OLYMPAIDD TREFOR






Cynhaliwyd bore o chwaraeon i aelodau Clwb Hwyl a Sbri gyda Dewi Roberts! Cafwyd dipyn o hwyl yn cystadlu am y trysor, yn rhedeg rasus, yn arddangos sgiliau pêl, sgiliau taflu pêl a hefyd gemau pêl-droed i ddiweddu cyn cael picnic i ginio. Mae'r Gemau Olympaidd ymlaen yn Beijing Tsieina ar hyn o bryd ac mae pawb o'r Clwb Hwyl a Sbri yn gwylio'r gemau. Rhoddwyd pawb mewn tri tîm gyda thema gwledydd i'r timau hynny: Sweden oedd yn fuddugol yn Nhrefor, gyda Cymru'n ail ar y cyd gyda Jamaica! Fel pob Gemau Olympaidd swyddogol cafwyd Seremoni Agoriadol o adnabod baneri gwledyd, dysgu am barchu a chware'n deg ac arddangosfa dawnsio gan yr Angylion, sef aelodau o Glwb Chware Teg Trefor.

Friday 1 August 2008

CLWB CHWARE TEG!

RHAGLEN 2008-2009

27.08.08 Barbaciw a chwrdd a Gwen Lasarus i drafod perfformiad ar thema cymdeithasol
26.09.08 Band
27.09.08 TRAWSNEWID EIN DYFODOL gweithdai yn Wrecsam
11.10.08 Achub y Plant
25.10.08 CU @ clwbchwareteg!
30.10.08 Trip i Gaerdydd - 2 noson a cwrdd a'r Bardd Graham Davies
17.11.08 Sul yr Urdd
29.11.08 Gweithgaredd yr amgylchfyd
12.12.08 Swper Nadolig
10.01.09 Gem Bag Papur - tlodi'r byd
11.03.09 Sioe Ffasiwn Masnach Deg
a llawer llawer mwy!!!

GEMAU OLYMPAIDD CLWB HWYL A SBRI

Gemau Olympaidd
Clwb Hwyl a Sbri
Y Ganolfan
20 Awst 2008
10.00 hyd 2.00 o'r gloch
Angen picnic i ginio!24

Meddai Paul: Mae'r rhai sy’n rhedeg ras mewn gemau athletaidd i gyd yn cystadlu, ond dim ond un sy'n ennill y wobr. Dyna sut dylech chi redeg – fel rhai sy'n benderfynol o ennill. I gystadlu yn y Gemau mae’n rhaid i athletwyr hyfforddi'n galed. Maen nhw’n gwneud hynny i ennill coron fydd ond yn para dros dro. Ond dyn ni'n ymdrechu am goron fydd yn para am byth! Felly dw i ddim yn rhedeg fel rhywun sydd wedi colli golwg ar y nod; a dw i ddim yn bocsio dim ond i ddyrnu'r awyr. Na, dw i'n gwthio fy hun i'r eithaf ac yn ennill rheolaeth lwyr – rhag i mi, ar ôl cyhoeddi’r neges i eraill, gael fy ngwahardd rhag ennill y wobr fy hun! 1 Corinthiaid 9