Sunday 21 December 2008

GWASANAETH CAROLAU TREFOR







Roedd y gwasanaeth eleni yng ngofal plant a phobl ifanc Trefor. Diolch i chi gyd am fod mor barod i gymryd rhan a gwneud hynny yn destlus iawn! Mwynhawyd paned a mins pei ar ól y gwasaneth. Diolch i bawb am gymryd rhan ac i Jamie, Elliw a Catrin am y lluniau lliwgar! Gwnaed casgliad ar gyfer dwy elusen eleni a chyfrannwyd £50 yr un i elusen NSPCC a Barnardo's.
NADOLIG LLAWN iawn i bawb!

BORE COFFI NADOLIG

Cafwyd Bore Coffi llwyddiannus iawn bore dydd Iau 18 Rhagyfr yn Yr Hen Ysgol. Roedd yr ystafell yn orlawn o gymdeithasu a chael ein diddanu gan blant Ysgol yr Eifl. Diolch i bawb am ddod draw. Bydd y Bore Coffi nesa ym mis Ionawr - bore dydd Iau 29ain Ionawr 2009!

CLWB GWAU TREFOR

Y Nadolig hwn dosbarthwyd dillad i Unedau Geni Buan Ysbytai Maelor, Glan Clwyd a Gwynedd. Dosbarthwyd blancedi glin i Ysbyty Bryn Beryl a Chartref Bryn Meddyg. Cyflwynwyd eitemau i siop Urdd Cyfeillion Ysbyty Gwynedd Bangor.

Monday 8 December 2008

GWASANAETH DIWRNOD AIDS Y BYD 2008


Nos Sul 7fed Rhagfyr cynhaliwyd gwasanaeth Diwrnod AIDS y Byd. Lluniwyd y gwasanaeth eleni gan Evie Vernon sydd yn gweithio i un o bartneriaid Cymorth Cristnogol yn Jamaica - JASL - Jamaica AIDS Support for Life. Cawsom hefyd ychydig o hanes partner Wola Nani o Dde Affrica sydd yn cael ei gynnwys ym mhecyn Apêl Undeb yr Annibynwyr 2008/09. Goleuwyd canhwyllau i gofio am waith gwirfoddolwyr dros y byd sydd yn rhoi eu bywyd i weithio dros bobl sydd yn byw gyda HIV ac AIDS, ac yn gwneud hynny yn aml iawn dan amgylchiadau anodd iawn. Diolch i bawb am eu cefnogaeth.

Tuesday 2 December 2008

CLWB GWAU TREFOR




Mae'r Clwb Gwau yn haeddu canmoliaeth am waith proffesiynol a hardd iawn! Mae'r eitemau niferus sydd wedi cael eu gwau a'u dosbarthu wedi cael eu derbyn mewn nifer fawr o sefydliadau dros y misoedd diwethaf. Mae'n rhaid enw rhain ac ar yr un pryd llongyfarch y merched yn fawr iawn am waith o'r safon uchaf! Derbyniwyd eitemau yn ddiolchgar iawn gan:

Ysbytai: Glan Clwyd, Gwynedd, Maelor a Chaer (unedau gofal dwys babanod cynnar)
Hospis Ty'r Eos Wrecsam
Hospis Ty Gobaith Conwy
Lloches i Ferched Wrecsam a Shotton
Operation Christmas Child
Bryn Meddyg
Bryn Beryl
Cartref Penrhos
Ambiwlas Awyr a Heddlu Gogledd Cymru (tedis argyfwng)

BANER MASNACH DEG CYMRU




Eleni derbyniodd Cymru statws Gwlad Masnach Deg, y wlad gyntaf erioed i dderbyn y statws hwn! Mae'n golygu bod pob rhanbarth o Gymru yn cefnogi'r egwyddor sydd y tu ôl i Fasnach Deg ac yn cynnig nwyddau Masnach Deg yn y siopau a llefydd bwyta. Daeth y faner i Drefor ar ei thaith drwy Gymru a chafwyd Bore Coffi hwyliog iawn i ddathlu hynny. Cafwyd datganiadau cerddorol gan blant Ysgol yr Eifl. Cawsom hefyd ganddynt neges grymus iawn ynglyn â prynu nwyddau Masnach Deg - roedd y neges yn her i ni gyd gan ein cymell i feddwl pwy sydd yn gwneud ac o dan pa amgylchiadau y gwnaed y nwyddau rydym yn eu prynu. Dyma'r plant yn canu ac yn derbyn pel rygbi a pêl-droed Masnach Deg ar gyfer yr Ysgol.

Wednesday 19 November 2008

GWASANAETH SUL YR URDD

Newid yn yr Hinsawdd oedd thema Gwasanaeth Sul yr Urdd eleni. Cynhaliwyd ein gwasanaeth blynyddol yn Maesyneuadd Nos Lun 17eg Tachwedd. Defnyddiwyd adnoddau'r Urdd a Cymorth Cristnogol ar gyfer y gwasanaeth oedd yn edrych ar y tywydd, y Newid yn yr Hinsawdd, yn edrych ar greadigaeth Duw, ac yn gwneud hynny drwy ganolbwyntio ar drychineb Cyclone Nagris yn Burma dros yr haf. Roedd y festri'n llawn a diolch i Adran yr Urdd a Clwb Chware Teg! am gymryd rhan yn y gwasanaeth. Da iawn chi. I wrando ar rap Jahaziel am ddifrod Cyclone Nagris cliciwch ar y botwm.

PERFFORMIADAU: I'R GALON




Llongyfarchiadau mawr i criw Chware Teg! am berfformiadau clodwiw iawn o'r sioe I'R GALON ar y thema o fwlio. Roeddech i gyd bob un yn wych ac yn ser go iawn! Diolch i'r hyfforddwyr am ddod atom ni bob wythnos i weithio ar y sioe: Gwen Lasarus (llwyfannu), Tess Ubranska (celf) a Nerys Gruffudd (cerdd). Roedd perfformiad mewn Festri lawn iawn i'r cyhoedd nos Fercher 12fed Tachwedd ac yna perfformiad i blant Ysgol yr Eifl, bore dydd Llun 17eg Tachwedd. Yn ystod y perfformiad hwn cafwyd cwmni Morfudd Hughes o raglen Pobl y Cwm - roedd yn braf iawn cael ei chwmni ac roedd ganddi air calonogol iawn i'w rannu wrth sgwrsio gyda'r criw.

CLWB CHWARE TEG! yn CAERDYDD












Bu criw o Clwb Chware Teg! draw yn Caerdydd am ddwy noson yn ystod Hanner Tymor, gan fwynhau diwylliant eu Prifddinas i'r eithaf! Roedd yna ddigon o gyfle i fwynhau ac i ddysgu am ddiwylliant ethnig Caerdydd. Roedd yn ymweliad amrywiol iawn gan i ni:


Gyfarfod Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas
Taith o amgylch y Senedd
Mynd i'r UCI i chwarae Bowlio 10
Taith gerdded yn ardal Bute gyda Grahame Davies
Ymweld a'r Goleulong, Mosg a Synagog
SIOPA! SIOPA! SIOPA!
Parti Pitsa Calan Gaeaf
Gweithdy creu barddoniaeth
a chyfarfod pobl ifanc o grefydd Sufi, ac ymuno mewn dathliad Zikr gyda nhw!






Monday 27 October 2008

DIWRNOD ADAR - CLWB HWYL A SBRI
















Trefnwyd Clwb Hwyl a Sbri lliwgar a bywiog iawn yn ystod Hanner Tymor eleni! Roeddem yn dysgu am adar o bob lliw a llun, adar lleol, adar sydd yn symud i wledydd cynhesach dros y gaeaf ac adar sydd yn hela yn y nos! Diolch i Gwen o'r RSPB am ddysgu enwau, lliwiau a chân yr adar i ni ac i Jenny am ddysgu ni sut i wneud bwyd ar gyfer yr adar yn yr ardd. Roedd pawb yn gwybod enwau'r adar yn yr ardd ac yn adnabod eu cân. DA IAWN CHI!!

Mae'r Arglwydd yn cofio y dryw yn y drain
Ei lygad sy'n gwylio y wennol a'r brain
Nid oes un aderyn yn dioddef un cam
Na'r gwcw na bronfraith na robin goch gam.

Mae'n cofio'n garedig am adar y to
Caiff pob titw bychan ei fwyd yn ei dro
Ehedydd y mynydd a gwylan y môr
Sy'n derbyn eu cinio o ddwylo yr Iôr.

PARATOI AR GYFER Y NADOLIG!




Dyma rai o aelodau Clwb Hwyl a Sbri yn gosod pwyth mewn llun defnydd o olygfa'r geni. Mae hwn yn brosiect Clwb Hwyl a Sbri, Clwb Chware Teg a'r Clwb Gwau! Diolch i Margaret Elis am y syniad i roi marc pawb ar y Nadolig yn Nhrefor!

Sunday 26 October 2008

HYSBYSEB

I'R GALON




Mae perfformiad Clwb Chware Teg! bron yn barod! Cafwyd ymarfer llawn nos Fercher 22ain ac mae un arall cyn y perfformiad. Mae digon o waith trefnu eto i'w wneud ond mae'n edrych fel perfformiad i'w gofio!


Monday 20 October 2008

CLWB CHWARE TEG (10)


Parhau i weithio ar sgrin ein perfformiad dydd Sul gyda Tess Ubranska. Gwaith ffantastig DA IAWN CHI!

PROSIECT CLWB CHWARE TEG (9)



Mae'r ymarferion yn parhau a'r criw wedi bod yn ffyddlion iawn i gydweithio gyda Gwen Lasarus ar yr ochr artistig, Tess Ubranska ar yr ochr gelfyddydol a Nerys Griffith ar yr ochr gerddorol. Canolbwyntiwyd yr wythnos yma ar y gerddoriaeth i gloi'r perfformiad.

Sunday 12 October 2008

PROSIECT CLWB CHWARE TEG (8)






Mae'n amser paratoi'r set ar gyfer y sioe, a daeth Tes Ubranska a Darren atom i ddechrau gweithio ar y sgrin gefndir i'r sioe. Llwyddwyd i wneud gwaith anhygoel o gelfydd yn y sesiwn cyntaf a chyffrous iawn fydd ei gwblhau a'i osod yn ei le ymhen yr wythnos. Braf oedd gweld pawb o'r gymdeithas yn rhoi eu marc ar y gwaith gyda brwsh! DA IAWN!

ACHUB Y PLANT yn Nhrefor!



Trefnwyd cyfle drwy'r Clwb Chware Teg! i gyflwyno hetiau babis i fudiad Achub y Plant. Roedd Achub y Plant wedi bod yn cydweithio gyda Clwb Chware Teg! ar wefan arbennig yn edrych ar fywyd plant a phobl ifanc yn Kroo Bay Sierra Leone. O'r ymweliad hwn deilliodd y syniad i gefnogi ymgyrch Achub y Plant i waeu hetiau i arbed bywydau babis mewn gwledydd tlawd. Cytunodd y Clwb Gwau i gefnogi'r ymgyrch a llwyddwyd i waeu 785 o hetiau. Croesawyd ffrindiau o'r Bala, Y Ffôr a Rhuthun gyda'u hetiau nhw a cyflwynodd Clwb Hwyl a Sbri siec o £60 i'r mudiad yn dilyn noson Cic am Gôl! Derbyniodd Eurgain Hâf yr hetiau ar ran Achub y Plant gan egluro sut mae het wlân syml yn medru arbed bywyd babi newydd mewn gwledydd tlawd. DIOLCH YN FAWR IAWN I BAWB AM EU GWAITH ARBENNIG!

Thursday 9 October 2008

PROSIECT CLWB CHWARE TEG (7)



Wythnos saith ac mae'r perfformiad yn siapio! Gweithio ar y diweddglo a'r gerddoriaeth wythnos yma.

Friday 3 October 2008

BORE COFFI MACMILLAN

Diolch i bawb am gefnogi'r Bore Coffi er budd Gofal Macmillan. Llwyddwyd i godi £45

Wednesday 1 October 2008

PROSIECT CLWB CHWARE TEG! (6)



Mae wedi bod yn ddiddorol gweithio ar y darn yma o waith sydd yn cyflwyno bwlio. Mae'n son am ferch sy'n cael ei bwlio. Mae'r cwbl yn dechrau pan mae hi'n derbyn neges destyn gan ei chariad, fel joc, ond mae'r neges yn un annifyr.

Tomos Huw

Sunday 28 September 2008

ENW






Oedfa anffurfiol yn y Ganolfan gafwyd nos Wener 26ain Medi yng nghwmni Clwb Chware Teg!, Clwb CIC Llithfaen a band o'r enw ENW! Daeth saith o aelodau'r band atom o Eglwys Penrallt Bangor, a chafwyd noson arbennig iawn yn eu cwmni. Arweinwyd ni mewn emynau, gweddiau, gweithgareddau a rhannu neges Duw, a hynny'n ystyriol a hwyliog iawn. Wedi'r emynau agoriadol cafwyd gweithgaredd oedd yn cynnig cyfle i ni gymysgu fel cynulleidfa a dod i nabod ein gilydd ychydig yn well, drwy chwarae bingo-dynol. Roedd rhaid darganfod person oedd yn medru cyflawni, neu ateb y 12 cwestiwn osodwyd e.e. darganfyddwch rhywun sydd yn dysgu iaith arall; darganfyddwch rhywun sydd yn cefnogi tim pêl-droed o Gymru; darganfyddwch rhywun sydd yn gwisgo dilledyn wedi ei wneud mewn gwlad arall ayyb. Roedd hyn yn ein hatgoffa pa mor lwcus ydym ni, â'n bod mewn gwirionedd yn dibynnu ar weddill y byd yn ddyddiol. Cafwyd neges am gariad a gras Duw tuag at bawb gan Rachel. Ysgrifennwyd gweddiau tawel dros y bobl a gwledydd y byd a'u gosod ar fap ar lawr y neuadd. Cafwyd cyfle hefyd i ysgrifennu ein gweddiau personol i Dduw ar falwn ac i ddiweddu roedd cryn gynwrf yn y neuadd wrth i bawb bopio'i falwn i Dduw! Mwynhawyd sgwrs a phaned a chacen cyn troi am adre.

Thursday 25 September 2008

PROSIECT CLWB CHWARE TEG! (5)



Dyma'r bumed wythnos i ni ddod at ein gilydd ac mae ymarferion wedi dechrau ar olygfeydd o'r perfformiad. Bydd yn amser hysbysebu a hyrwyddo'r sioe cyn bo hir!

Monday 22 September 2008

AMSER TE - CYMORTH CRISTNOGOL

Diolch i bawb gyfrannodd tuag at Amser Te Cymorth Cristnogol dydd Gwener 19 Medi. Diolch am y cwmni ac fe godwyd £18.

Thursday 18 September 2008

DECHRAU CANU DECHRAU CANMOL



Daeth criw ffilmio Dechrau Canu Dechrau Canmol i Drefor heddiw - i Ysgol yr Eifl. Bu Alwyn Humphreys yn cyfweld pedwar o'r disgyblion. Roedd yr eitemau recordiwyd yn ymwneud a prosiect plant yr Ysgol i gefnogi gwaith y gwirfoddolwyr o'r pentref aeth i weithio yn Romania yn ysgod yr haf. Eglurodd Lois sut aeth yr Ysgol ati i godi arian, drwy orchuddio map o Romania gyda arian man. Eglurodd Leah bod Roberta a Dafydd wedi bod draw i'r Ysgol i son am y gwaith, cyn mynychur daith ac ar ol dychwelyd, gan ddangos lluniau o'r gweithgareddau drefnwyd yn Romania. Eglurodd Adam bod yr arian gasglwyd yn Ysgol yr Eifl wedi mynd i brynu peli, llyfrau ysgol newydd a rhoi profion llygaid i blant sydd yn byw mewn Cartref Plant yn Romania. Ac i ddiweddu eglurodd Non bod gweld y lluniau gan Roberta wedi gwneud iddi hi sylweddoli pa mor lwcus ydym ni yng Nghymru. Hefyd, cafwyd can hyfryd iawn gan blant yr ysgol i ddiolch i Dduw am fwyd, dillad, ffrindiau, cartref ac am Iesu Grist. DA IAWN CHI!

PROSIECT CLWB CHWARE TEG! (4)

Yr wythnos hon, dechreuodd y sgript ddod i'w lle a trafodaethau manwl ar gymeiriadu, y set a delweddau. Diolch i bawb am ddal ati mor gadarnhaol.

Saturday 13 September 2008

CLWB CIC LLITHFAEN





Mae Clwb CIC Llithfaen wedi ail gychwyn. Cynhaliwyd Helfa Drysor i agor y tymor, ar noson braf iawn yn Nantgwrtheyrn. Cafwyd cyfle hefyd i holi Moses am ei fywyd! Os wyt ti ym mlwyddyn 7 neu hyn, mae croeso i ti ddod i Clwb CIC, rho wybod i Llinos. Cynhelir cyfarfodydd bob yn ail nos Wener, ac mae'r cyfarfod nesa yn Nhrefor nos Wener 26ain Medi yng nghwmni'r band 'ENW' o Fangor.

Friday 12 September 2008

HYSBYSEB

CLWB CHWARE TEG
yn cyflwyno noson yng nghwmni
ENW
Y Ganolfan Trefor
Nos Wener Medi 26

Trefn y Noson:
6.30 gweithdy cerddoriaeth pobl ifanc - cyfle i ddod a offeryn neu ddod i fwynhau'r canu
7.30 Oedfa hwyliog i'r teulu - gemau, canu, neges, gweddi a paned

Dewch yn llu - croeso i bawb!

Thursday 11 September 2008

PROSIECT CLWB CHWARE TEG! (3)





Ymlaen a'r gwaith gyda'r prosiect arbennig hwn, ac mae'n mynd o nerth i nerth. Wythnos tri ac fe gawsom gyfle i ddangos ein sgiliau actio, symund a chanolbwyntio. Bu i ni greu siapiau a'u hadlewyrchu i'r ail grwp a hefyd creu lluniau llonydd o emosiynau e.e. ofn, twyllo ... Roedd cyfle hefyd i ddysgu sut i recordio'r cyfan ar gamera fidio a chamera digidol!