Saturday 31 March 2012

GWYL PIN DWR PASG






31ain Mawrth 2012 - dym drydedd Gwyl Pin Dwr ac roedd thema'r Pasg yn un pwysig iawn heddiw gan ein bod ar drothwy'r Wyl. Cafwyd anerchiad amserol iawn i'r plant ac i'r oedolion gan Y Parch John Pritchard Llanberis. I ddilyn roedd gan Tess weithgaredd celf lliwgar a chyffrous iawn i'r plant ac ar ol creu llun o'r cei a'r traeth yn nhrefor roedd cyfle i bawb gael gweld arddangosfa goginio. Elwen Roberts oedd in gwraig wadd. Mae'n adnabyddus o raglenni Wedi3 a Prynhawn Da ac yn gweithio i Hybu Cig Cymru. Dangosodd i ni sut i addurno wyau siocled ar gyfer y Pasg. Dangosodd hefyd sut i wneud cwningod, cywion a pharseli Pasg. Cawsom hanner awr o gemau pel ar y cae pel droed cyn rhoi John Pritchard yn y gol a cheisio am sgor! Da iawn chi blant, fe aeth ambell bel drwy ddwylo'r golgeidwad!! Roedd digon o fwyd i bawb, pawb wedi mwynhau a'r bore wedi bod yn llwyddiannus iawn. Un o'r danteithion ar y fwydlen oedd cyfle i flasu Swper y Pasg.

Thursday 29 March 2012

CLWB CHWARE TEG!


29ain Mawrth 2012 - edrych ar Y Groes roeddem heno, gan ddefnyddio lliwiau gwahanol i gynrychioli agweddau gwahanol o Gristnogaeth:
Croes Bren - yn cynrychioli bywyd Iesu o'r Geni i'r Atgyfodiad
Croes Goch - yn cynrychioli gwaed yr Iesu a chariad at gyd-ddyn
Croes Glas - dwr bedydd
Croes Piws - Iesu brenin pobl
Croes Aur - bywyd pawb yn werthfawr yng ngolwg Crist
Croes Gwyrdd - tyfu yn y ffydd
Croes Ddu - pellhau oddi wrth Dduw
Croes Wen - y ffordd nol drwy ofyn am faddeuant, maddau i eraill, caru ein gelynion a gweddio.

BORE COFFI

29ain Mawrth 2012 - cynhaliwyd Paned Pasg yn Yr Hen Ysgol gyda nifer wedi dod ynghyd a'r tywydd yn fendigedig o braf.

CLWB HWYL A SBRI



28ain Mawrth 2012 - dyma ni wedi cwblhau ein Twr Babel! Cawsom gwis i'n hatgoffa o'r stori gawsom wythnos diwethaf gyda wyau Pasg yn wobrau. Aethom ati wedyn i addurno ein Twr Babel gyda'r bobl ar y gwaelod yn siarad gwahannol ieithoedd.

DECHRAU DA!


28ain Mawrth 2012 - i ddod a'n thema Y Fferm i'w derfyn roedd cyfle i greu cyw bach heddiw. Dyma gywion Martha, Sion, Begw a Kimberley. Mwynhewch wyliau'r Pasg.

DECHRAU DA!

28ain Mawrth 2012 - i ddod a'n thema Y Fferm i'w derfyn roedd cyfle i greu cyw bach heddiw. Dyma gywion Martha, Sion, Begw a Kimberley. Mwynhewch wyliau'r Pasg.

CAWL A CHAN GWYL DEWI



26ain Mawrth 2012 - cafwyd noson hyfryd yng nghwmni aelodau Eglwys Noddfa Caernarfon. Gwahoddwyd ni i ymuno gyda nhw mewn dathliadau Gwyl Dewi. Cawsom groeso cynnes iawn gyda chawl, paned a chacennau. Yn dilyn y swper roedd cwis hwyliog iawn a daeth dau dim Trefor yn gydradd gyntaf! Diweddwyd gyda ychydig o eitemau cerddorol gan Gor Merched Noddfa. Noson lwyddiannus iawn.

Wednesday 21 March 2012

CLWB HWYL A SBRI



21 Mawrth 2012 - cawsom stori am bobl Babilon heddiw, pobl oedd yn meddwl eu bod nhw'n well na pawb arall. Mae hyn yn gwneud Duw yn drist. Roedd gan pob plentyn syniadau da sut fedrwn ni helpu a gwrando ar bobl eraill ac ar Dduw. Roedd pawb hefyd yn nabod pobl mewn trefi eraill a hefyd mewn gwledydd eraill ac yn falch iawn ein bod ni i gyd yn wahanol. Cawsom gem ieithoedd cyn adeiladu tyrrau uchel gyda blociau. Wythnos nesa byddwn yn addurno twr gwirion fel pobl Babilon!

DECHRAU DA!

21 Mawrth 2012 - mae'n amser plannu hadau ar y fferm a heddiw roedd pawb yn brysur yn garddio - plannu hadau pys a blodyn haul! Cofiwch roi diod o ddwr i'r hadau!

Friday 16 March 2012

CLWB CHWARE TEG!



15fed Mawrth 2012 - Noson Arwr! Roedd gan bawb eu syniad o beth yw arwyr a rhai arbennig iawn yn eu bywydau. Nai newydd tri mis oed, 'mam', Iesu Grist, Spider Man ayyb. Roedd pawb yn cytuno mai'r peth mwyaf arwrol y gallwn wneud yw ceisio achub bywyd. Cawsom wersi pwysig heno gan Haf sydd yn gweithio i'r Groes Goch. Dysgodd Haf i ni sut i roi person yn y recovery position, sut i drin llosg a sut i drin anaf sy'n gwaedu'n ddrwg.

SGWRS A SGRAM




15fed Mawrth 2012 = heddiw cawsom y cyntaf o chwech cyfarfod Sgwrs a Sgram. Roedd ein cinio yn cael ei baratoi gan Ysgol yr Eifl, cinio dydd Sul blasus iawn! Gwahoddwyd Y Parch Hari a Nan Parri atom am sgwrs wedi cinio. Mwynhawyd y wledd a'r sgwrs gan 15eg ohonom. Dyddiad y cyfarfod nesaf yw 19 - os hoffech ymuno gyda ni, yna mae croeso mawr ond i chi roi eich enw i Llinos wythnos ymlaen llaw.

CLWB HWYL A SBRI


14eg Mawrth 2012 - parhau gyda'n stori - Dameg y Ffermwr. Dyma'n dehongliad ni o'r ddameg.

DECHRAU DA!



14eg Mawrth 2012 - Sul y Mamau. Daeth nifer ynghyd heddiw a chael cyfle i wneud blodyn arbennig i mam.

Thursday 8 March 2012

HWYL A SBRI



7fed Mawrth 2012 - Dameg y Ffermwr sydd dan sylw dros yr wythnosau nesaf. Bu i ni gael y stori a gwneud symudiadau iddi heno! Amser prysur iawn yw'r gwanwyn i dyfu hadau a dyma hadau pys, corriander, berwr a blodau haul Clwb Hwyl a Sbri! Brysiwch dyfu!!!

DECHRAU DA!




7fed Mawrth 2012 - Ar y Ffarm yw thema mis Mawrth a dyma i chi lun o fferm Dechrau Da! Bu i ni groesawu Martha i'n plith ni heddiw a chael cacennau! Rydym hefyd wedi cwblhau diwrnod 6 ar gyfer murlun y creu. Dyma ddwylo pawb o Dechrau Da!

BORE COFFI

7fed Mawrth 2012 - dathlu Gwyl Dewi. Er mai nifer siomedig iawn oedd yn y gynulleidfa heddiw, roedd y rhai oedd yno yn cael gwledd o ddathlu gan y plant. Cawsom eitemau cerddorol a hefyd llawer iawn o wybodaeth am Gymru drwy luniau a gwaith ymchwil gan y plant. Da iawn chi!

CLWB GWAU

5ed Mawrth 2012 - daeth nifer eto ynghyd heddiw ac mae cyflenwad da o eitemau yn barod i fynd i Ysbytai Glan Clwyd ac Ysbyty Gwynedd. Rhoddwyd rhodd o wlan i bob aelod yn dilyn llwyddiant cael grant yn ddiweddar.

OEDFA MASNACH DEG

4ydd Mawrth 2012 - cawsom oedfa hwyliog ar gyfer Pythefnos Masnach Deg gyda nifer yn cymryd rhan. Lluniwyd yr oedfa gan y grwp Arwain Addoliad. Roedd cyfle i flasu siocled yn ystod yr oedfa ac i brynnu siocled yn dilyn yr oedfa! Gwnaed casgliad ar gyfer Cymorth Cristnogol.

CYFARFOD GWEDDI BYD-EANG Y CHWIORYDD


2il Mawrth 2012 - Merched o Malaysia luniodd y gwasanaeth eleni - Bydded i Gyfiawnder Lwyddo.

CLWB CHWARE TEG!

1af Mawrth 2012 - heno fe wnaethom edrych ar fywyd Iesu. Wedi dewis cyfnodau o'i fywyd aeth y criw ati i greu cameos lluniau 'yn y ffram'. Cawsom Y Geni, Porthi'r 5000, iachau'r deillion, y Croeshoelio a'r bedd gwag.