Sunday 16 December 2012

CLWB CHWARE TEG!




15fed Rhagfyr 2012 - fe gafodd y merched gyfle heddiw i fynd i Goleg y Bala.  Trefnwyd yno ddiwrnod arbennig ar gyfer merched - Diwrnod Gwerthfawr.  Roedd yn llawn gweithgareddau a seminarau.  Lois Franks o Gaerdydd oedd y siaradwraig a chawsom ganddi hanes Mair ac Elizabeth.  Bu cyfle i weddio gan losgi'n pechodau a phechodau'r byd yn ein herbyn.  Cyfle i wneud crefft a chael cinio Nadolig tri chwrs.  Bu llawer iawn o gemau a chwerthin a chyfle i wneud ffrindiau newydd o Aberystwyth, Llansannan Y Bala a Phen Llyn

SGWRS A SGRAM


13eg Rhagfyr 2012 - cinio Nadolig bendigedig gawsom heddiw wedi ei baratoi gan Ysgol yr Eifl.  Roedd yn braf cael gwahodd Anti Mandy atom am baned a phwdin Nadolig.  Bydd Sgwrs a Sgram yn cyfarfod eto yn y gwanwyn felly Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i bawb.

DECHRAU DA!



12fed Rhagfyr 2012 - mae'n nesau at y Nadolig felly dyma gyfle i wneud cardiau ar gyfer y teulu! Nadolig Llawen i bawb yn Dechrau Da!

CLWB GWAU

11eg Rhagfyr 2012 - te prynhawn i bawb heddiw yn Taro Deg.  Daeth 12 i fwynhau paned a sgwrs.  Bydd y Clwb Gwau yn ol ar y 7fed Ionawr 2013.

Saturday 8 December 2012

CLWB CHWARE TEG!

6ed Rhagfyr 2012 - mae'r gwaith wedi cychwyn ar greu baner dathlu 200 mlynedd gyda Margaret Ellis.  Gwyliwch eto i weld y gwaith gorffenedig!

OEDFA CARCHARORION CYDWYBOD


25ain Tachwedd 2012 - cynhaliwyd oedfa eto eleni i gofio am garcharorion cydwybod.  Rydym yn casglu'r wybodaeth am y carcharorion gan Amnest Rhyngwladol.  Mae'r wal weddi grewyd yn yr oedfa yn cynnwys hanesion am garcharorion ac hefyd yn cynnwys yr achosion bu Clwb Hwyl a Sbri a Clwb Chware Teg! yn drafod yn eu cyfarfodydd nhw.

DECHRAU DA!


21ain Tachwedd 2012 - cawsom brynhawn difyr iawn eto yng nghwmni ein gilydd. Gweithgaredd heddiw oedd addurno bisgedi'r gofod! Ein llyfr stori heddiw oedd Beth Nesaf? a dyma lun o tedi yn mynd i'r lleuad ar ein bwrdd clai.

Monday 19 November 2012

CLWB CHWARE TEG!

19eg Tachwedd 2012 - dyma'r deunyddiau wedi cyrraedd er mwyn cychwyn ar y faner i ddathlu 200 mlynedd o addoli ym Maesyneuadd.  Edrychwn ymlaen i'w gychwyn yn fuan.

CLWB HWYL A SBRI



18fed Tachwedd 2012 - dyma ni wedi cychwyn ar ein llyfr Stori'r Nadolig.  Mae pawb yn cael copi ei hun a heddiw bu i ni edrych ar yr Angel Gabriel yn ymweld a Mair i roi iddi newyddion da am eni'r Iesu.  Wythnos nesa byddwn yn edrych ar daith Mair a Joseff i Fethlehem a stori'r Bugeiliaid.

Friday 16 November 2012

SAMARITANS PURSE

17eg Tachwedd 2012 - diolch i bawb am gyfrannu tuag at anrhegion i blant yn Affrica.  Casglwyd 56 bocs heddiw o Glwb Chware Teg!; Eglwys Maesyneuadd; Ysgol yr Eifl ac Ysgol Sul Pencaenewydd.

Thursday 15 November 2012

CLWB CHWARE TEG!

15fed Tachwedd 2012 - Oes yna Dduw? dyna oedd sesiwn dysgu heno.  Roedd tri safle yn y festri Lle Tawel, Lle Meddwl a Lle Creu.  Roedd lle meddwl yn cynnig cyfres o luniau yn ac yn gofyn "beth mae'r lluniau yn ddweud wrthych chi am Dduw"?  Roedd lle tawel yn gofyn i ni ystyried ffordd mae Duw wedi gwneud pawb yn wahanol a hefyd sut ydym yn dangos cariad Duw o fewn y teulu.  Yn y lle creu roedd cyfle i wneud eitem oedd yn adlewyrchu ein cymeriad ni - "beth mae'r eitem yn ddweud amdanat ti"?  Dyma eitemau Michaela, Gwenno a Natalie (o'r chwith i'r dde).

AMNEST RHYNGWLADOL



15fed Tachwedd 2012 - rydym am anfon eto eleni i gefnogi carcharorion cydwybod drwy Amnest Rhyngwladol.  Dyma luniau Hwyl a Sbri ar gyfer Malala o Pakistan.  Mae Malala yn yr ysbyty.  Mae'r doliau papur lliwgar yn mynd i Azza o'r Aifft.  Mehmen o Azerbaijan sydd yn cael ei benblwydd a dyma gardiau iddo gan Hwyl a Sbri a Chware Teg!  Ewch i wefan Amnest Rhyngwladol i weld y cefndir tu ol i'r achosion hyn.  Bydd oedfa Amnest Rhyngwladol nos Sul 25ain Tachwedd am 5.30 o'r gloch.

DECHRAU DA!


14eg Tachwedd 2012 - mae'r plant yn dal yn y Gofod!  Dyma luniau Begw a Kimberley o'r gofod.  Mae mamau hefyd wrth eu boddau yn lliwio wrth gael paned!

Monday 12 November 2012

GRWP ARWAIN ADDOLIAD

12fed Tachwedd 2012 - parhau i gyfarfod i drefnu Oedfa Amnest Rhyngwladol - 25ain Tachwedd 2012.

HWYL A SBRI




11eg Tachwedd 2012 - heddiw bu'r criw yn dathlu bod Duw wedi creu pawb yn wahanol a'i fod yn caru pob un ohonnan ni.  Mae hefyd yn gyfnod ysgrifennu cardiau post at garcharorion cydwybod drwy Amnest Rhyngwladol.  Mae gan Amnest Rhyngwladol weithgareddau arbennig ar gyfer plant 5 i 7 oed.  Bu pawb yn gwneud lluniau lliwgar a chardiau penblwydd i anfon i Amnest.

Thursday 8 November 2012

CLWB CHWARE TEG!



8fed Tachwedd 2012 - mae'n gyfnod cofio Carcharorion Cydwybod a gwaith Amnest Rhyngwladol.  Cawsom gyfle i ddysgu am achosion o wahanol wledydd - Mehman o AZERBAIJAN, Azza YR AIFFT, Merched am Newid yn AFFGANISTAN a Malala o PAKISTAN.  Byddwn yn anfon cardiau penblwydd i Mehman, lluniau lliwgar i Malala a negeseuon o undod fel rhan o'n gwaith heno.

SGWRS A SGRAM


8fed Tachwedd 2012 - 15 i ginio dydd Sul heddiw yn y festri ac roedd y bwyd yn ardderchog unwaith eto!  Cafwyd cwmni Karen Owen a oedd yn darllen ei gwaith ei hun.  Cawsom gerddi dwys a doniol, cerddi cofio a chanmol ac hyd yn oed gerdd arswyd!  Prynhawn ardderchog.

DECHRAU DA!


7fed Tachwedd 2012 - i'r Gofod mae'r plant bach yn mynd y mis hwn.  Cafwyd dipyn o hwyl yn mynd mewn i'r roced ac addurnwyd y gofod ar gyfer tedi sydd am fynd i'r lleuad.

BORE COFFI

7fed Tachwedd 2012 - daeth nifer ynghyd am baned a chafwyd cwmni'r plant iau wrth iddyn nhw rannu dipyn o hanes eu taith ddiweddar i Dinas Dinlle.  Cawsom hanes eglwys Llanfaglan oedd yn hynafol iawn.  Bu'r plant ar daith i Dre'r Ceiri hefyd yn ddiweddar a chael tywydd braf ar gyfer eu teithiau.  Diolch i chi am ddod i rannu'r hanes gyda ni.

GRWP ARWAIN ADDOLIAD

5ed Tachwedd 2012 - daeth y grwp ynghyd heno i ddechrau llunio oedfa i gofio am Garcharorion Cydwybod.  Defnyddir achosion cyfredol gan Amnest Rhyngwladol i'w cynnwys yn y gwasanaeth.  Bydd yr oedfa yn cael ei chynnal nos Sul 25ain Tachwedd.
Hefyd bu tair yn brysur iawn gyda'r cyfrifiadur yn dewis cwpledi o Emynau i gydfynd a'r lluniau ar gyfer calendr 2013.

CLWB GWAU

5ed Tachwedd 2012 - prysurdeb mawr eto yn y clwb ac mae nifer fawr o eitemau yn barod i fynd i Ysbytai Gwynedd a GlanClwyd.  Mae'r ddwy ysbyty yn gwerthfawrogi'r cotiau bach a'r blancedi magu mae eu gwir angen.

Sunday 4 November 2012

OEDFA DATHLU 200 MLYNEDD


4ydd Tachwedd 2012 - cafwyd dau gyfarfod buddiol iawn yn Nhrefor heddiw i ddathlu 200 mlynedd o addoli annibynnol.  Mae nifer fawr o ddigwyddiadau eraill i ddod ond dechreuwyd rhain gyda dwy oedfa.  Am 10.30 cawsom gwmni Hwyl a Sbri i ddathlu gyda lluniau, sgwrs a chan.  Yna cafwyd atgofion gyda Margaret Ellis, cyn cael neges am yr eglwys heddiw gan Angharad Roberts.  I ddilyn y cyfarfod cafwyd cacennau bach Clwb Chware Teg! a phaned cyn troi am adre.  Am 5.30 cafwyd cyfarfod gyda'r Parch Geraint Tudur, eto gyda paned i ddilyn a gennod Chware Teg! yn gweini.  Roedd yn ddiwrnod arbennig yn Nhrefor ac roedd y festri ar ei newydd wedd yn smart iawn gyda bynting wedi ei wneud yn arbennig gan Hwyl a Sbri, Dechrau Da, Chware Teg! a Grwp Cefnogi.

CLWB CHWARE TEG!



3ydd Tachwedd 2012 - yfory - 4ydd Tachwedd byddwn yn dathlu 200 mlynedd o addoli Annibynnol yn Nhrefor.  Felly bu aelodau Chware Teg! wrthi drwy bore Sadwrn yn gwneud cacennau bach.  Diolch yn fawr i chi gyd am ddod draw i helpu.

CLWB CHWARE TEG!



2il Tachwedd 2012 - aeth Jamie, Owain a Geraint ar gwrs heddiw.  Cwrs hyfforddiant edrych ar ol beic.  Cycle Wales yn Penygroes sydd yn rhedeg y cyrsiau a chafwyd diwrnod buddiol iawn yn y gweithdy.

Monday 29 October 2012

HWYL A SBRI

28ain Hydref 2012 - wrth i ni ymarfer ar gyfer yr oedfa ddathlu wythnos nesa cawsom gwmni Mr Andrew Lenny.  Roedd Mr Lenny wedy bod yn pregethu ym Maesyneuadd ac fe alwodd i mewn i Clwb Hwyl a Sbri cyn troi am adre.  Cawsom ymarfer da ar gyfer yr oedfa a hefyd chwarae gemmau ar ein themau dros yr wythnosau diwethaf.

CHWARE TEG!


25ain Hydref 2012 - roedd prysurdeb mawr heno wrth i ni lunio trionglau ar gyfer y bynting dathlu a hefyd lenwi bocsys Operation Christmas Child.  Diolch yn fawr i chi.

DECHRAU DA!


24ain Hydref 2012 - Daeth nifer ynghyd eto heddiw.  Mae Elis, Owen, Ellie, Shauna, Robin, Begw, Sion a Kimberley yn ffrindiau mawr erbyn hyn - dewch i ymuno gyda nhw!