Thursday 24 April 2008

CLWB HWYL A SBRI 23 Ebrill 2008

Heno daeeth Rachel a John Satertree atom. Roedd yna ddigon o gemau hwyliog ac roedd y tywydd mor braf, cawsom wneud y gemau allan ar gae'r ysgol, gan fynd i mewn i wylio darnau o ffilm Finding Nemo a gwrando stori'r Mab Afradlon.

GWASANAETH TAN GWYNEDD 23 Ebrill 2008

Bu Gwasanaeth Tan Gwynedd yn Nhrefor am y dydd heddiw yn gwneud yn siwr bod larwmau tan pawb yn gweithio'n effeithiol, ac yn newid ambell i larwm am un gwell. Mae modd ffonio'r gwasanaeth unrhyw bryd i ofyn am adolygiad o'r sefyllfa yn eich cartref: rhadffon 0800 169 1234 - byddwn yn saff!

CYMDEITHASOL 18 Ebrill 2008

Braf oedd cael cwmni Meinir Pierce Jones gyda ni yn festri Maes y Neuadd. Roedd Meinir yn mynd a ni ar daith wrth iddi adrodd inni hanes ysgrifennu ei llyfr diweddara Lili Dan yr Eira. Roedd cael mynediad i gefndir rhai o'r lleoliadau a chymeriadau'r llyfr yn ddiddorol dros ben.

EMAUS 16 Ebrill 2008

Daeth y cyfarfodydd i ben am y tro drwy fynd trwy hanes Y Pasg allan o lyfr Luc. Byddwn yn ail-gychwyn ym mis Medi ac mae croeso cynnes i chi ymuno. Byddwn yn edrych ar lyfr yr Actau ac mae angen darllen y bennod gyntaf cyn nos Fercher 3ydd Medi 2008!

EMAUS 16 Ebrill 2008

Daeth y cyfarfodydd i ben am y tro drwy fynd trwy hanes Y Pasg allan o lyfr Luc. Byddwn yn ail-gychwyn ym mis Medi ac mae croeso cynnes i chi ymuno. Byddwn yn edrych ar lyfr yr Actau ac mae angen darllen y bennod gyntaf cyn nos Fercher 3ydd Medi 2008!

CLWB CHWARE TEG! 17 Ebrill 2008

Cafwyd cyfarfod yn Y Gorlan i drafod gweithgareddau.
Mae yna lawer o waith o'm blaenau:
Trefnu Noson Goffi a Cic am Gol
Cynhyrchu taflen liwgar yn cyflwyno 10 o syniadau i arbed niwed i'r hinsawdd
Trefnu oedfa Neges Ewyllys Da ar y cyd gyda Clwb Urdd Ysgol yr Eifl ac Aelwyd Gwrtheyrn

CLWB HWYL A SBRI - 16 Ebrill 2008

Heno daeth Nia Williams atom ni o Bwllheli. Cawsom amser da iawn yn dysgu caneuon newydd gyda Nia yn cyfeilio gyda'r gitar. Roedd yna symudiadau hwyliog iawn i'r caneuon hefyd a cafwyd llawer iawn o hwyl yn y Clwb heno!

Saturday 12 April 2008

STWR PIN DWR






Croesawyd pawb i’r Stŵr Pin Dŵr gan Llinos a chafwyd can agoriadol gan rai o blant Ysgol yr Eifl ynghyd a gair amserol iawn gan y Parch Gwyn Rhydderch. Roedd gweddill y prynhawn yn anffurfiol ac yn llawn gweithgareddau, cymdeithasu a chael hwyl!

GALERI LLUNIAU CLWB CHWARE TEG!






Dyma rai o'r lluniau grewyd yn y gweithdy gyda Meinir Gwilym ar gyfer cynllunio taflenni i roi i bob ty yn Nhrefor.

STWR PIN DWR


Roedd criw Clwb Chware Teg! wedi gwahodd Meinir Gwilym atynt a thema’r sesiwn oedd Hinsawdd Hurt. Bu cryn drafod ynglyn â’r thema hwn gan ystyried beth rydym yn ei wneud yn barod i leihau effeithiau newid hinsawdd, beth fydde ni’n golli fwyaf o effeithiau newid hinsawdd, beth rydym yn addo wneud o hyn ymlaen ayyb. Roedd y sgwrs yn fywiog iawn ac i ddilyn crewyd posteri lliwgar er mwyn anfon allan i bob ty yn Nhrefor gyda’r neges i bawb wneud y pethau bychain. Bydd y poster hefyd yn cynnwys awgrym o ddeg o syniadau y gall pob teulu geisio ei wneud i arbed gollyngiadau carbon di-angen ac arbed arian yn y boced!

STWR PIN DWR






Roedd Clwb Hwyl a Sbri y plant yn brysur ochr arall yr ystafell yn creu gwaith celf gyda Tess Urbanska, arlunydd lleol sydd wedi ymweld â ni yn Nhrefor nifer o weithiau erbyn hyn. Roedd gwaith y plant yr un mor drawiadol, a gan bod y plant ar wyliau ysgol Y Pasg, y Groes oedd thema’r gwaith celf yn Stŵr Pin Dŵr.

STWR PIN DWR



I’r ystafell fach aeth y plant meithrin i gael hwyl yn canu a symud gyda Leisa Mererid. Cafwyd hwyl yma eto yn canu caneuon poblogaidd iawn a chlapio a symud a chwerthin!

STWR PIN DWR



Yn y caffi wrth gwrs oedd y cymdeithasu’n digwydd! Ac roedd digon o de a choffi, cacennau a sgwrs ar gael.

STWR PIN DWR



Roedd y neuadd yn llawn wrth i Meinir Gwilym yn ei ffordd ddihafal iawn ei hun gloi’r prynhawn gyda sgwrs a chyflwyniad i’w chaneuon.

STWR PIN DWR

Tuesday 1 April 2008

Paratoi ar gyfer Stwr Pin Dwr



Mae'r amser wedi cyrraedd i gynnal Stwr Pin Dwr!
Dydd Sadwrn 5ed Ebrill rhwng 2-4 bydd yna weithgareddau i'r teulu cyfan yn y Ganolfan:
Can agoriadol gan blant Ysgol yr Eifl
Gair gan Gwyn Rhydderch
Clwb Chware Teg yn trafod Hinsawdd Hurt gyda Meinir Gwilym a Sioned Ann
Clwb Hwyl a Sbri yn creu celf gyda Tess Urbanska
Plant meithrin mewn clap a chan gyda Leisa Mererid
Caffi cymdeithasol paned a chacen
Stondinau
Paentio wynebau gyda Nia Thomas
Arddangosfa gwaith dros y flwyddyn diwethaf
Cyfle i rannu syniadau am y flwyddyn i ddod