Friday 17 December 2010

DATHLU'R 'DOLIG





Cynhaliwyd Noson Garolau yn y festri lawn nos Iau 16eg Rhagfyr. Noson o ganu carolau, gweld gwaith llaw y plant, gweld gosodiadau gan aelodau Clwb Blodau Trefor a chyn mynd adre roedd paned a mins peis i bawb. Noson Nadolig go iawn a'r wlad yn wyn pan oedd pawb yn troi am adre.

BORE COFFI NADOLIG

Cynhaliwyd Bore Coffi Nadolig yn Ysgol yr Eifl a daeth y plant i sgwrsio gyda ni am Nadolig mewn gwledydd eraill. Mewn parau, cawsom ein tywys o Frasil i Awstralia ac o'r Unol Dalieithau i Rwsia! Difyr iawn oedd y cyfarfod.

CLWB HWYL A SBRI


Cawsom hwyl yn edrych ar y doethion nos Fercher 15fed, a paratoi coron bob un yn barod ar gyfer Dathlu'r 'Dolig nos fory! Creodd y plant iau goron a bu'r plant hyn yn edrych ar rodd. Y rhodd o roi gobaith i deuluoedd dros y byd sydd yn wynebu Nadolig trist heb aelodau o'r teulu sydd efallai yn garcharorion cydwybod neu wedi eu cipio am eu gwaith dros hawliau dynol. Defnyddiwyd taflen Amnest Rhyngwladol ar gyfer hyn gan liwio lluniau o ganhwyllau.

Thursday 9 December 2010

CLWB HWYL A SBRI





Nos Fercher 8fed Rhagfyr bu i ni barhau ar daith y Nadolig a chanolbwyntio ar y bugeuliaid. Bu'r dosbarth hynaf yn gwneud baneri wrth baentio defnydd a bu'r plant bach yn addurno pedair o ddefaid mawr! Bydd gwaith y plant yn cael ei arddangos yn y gwasanaeth Nadolig nos Iau 16eg Rhagfyr yn Festri Maesyneuadd. Dyma beth o waith y plant yn y cyfamser.

Monday 6 December 2010

CALENDR 2011


Noson i lawnsio Calendr 2011 - noson gartrefol yng nghwmni'r Prifardd a'r Cerddor Twm Morys. Aethom ar daith drwy'r tymhorau drwy gerdd a chan cyn mwynhau paned a chel cyfle i brynu'r Calendr newydd. Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu i Galendr 2011.

CLWB GWAU


Croesawyd Clwb Gwau Llanaelhaearn atom heddiw gan fwynhau cwmni a mins peis! Roedd Dewi Wyn wedi dod hefyd er mwyn tynnu llun a gwneud erthygl ar gyfer y Cambrian News. Diolch i bawb am yr holl wau dros y flwyddyn a Nadolig Llawen i chi gyd!

DIWRNOD RHYNGWLADOL HIV/AIDS

Cynhaliwyd oedfa HIV/AIDS nos Sul 5ed Rhagfyr. Roedd cyfle i bawb gymryd rhan yn canu, cyd-ddarllen a chyd-weddio. Cafwyd hanes Esgob o Tansania, a mam ifanc o Bangalore. Hefyd roedd cyfle i wylio ffilm fer am 6 o ferched ifanc o Calcutta ymwelodd a Chymru yn 2004. Mae'r merched yn byw mewn lloches arbennig yn Calcutta. Lloches Sanlaap sydd yn achub merched o'r diwydiant rhyw, yn rhoi gofal iechyd iddynt, addysg a hyfforddiant ar gyfer ennill incwm yn y dyfodol. Mae casgliad y gwasanaeth yn mynd tuag at brynu pecynnau bwyd maethlon o lyfr Present Aid Cymorth Cristnogol.

HWYL A SBRI

Nos Fercher 1af Rhagfyr cawsom gwmni Mererid Mair o Gaernarfon i gynnal sesiwn canu a stori gyda ni. Aethom ar daith y Nadolig ar gan, stori a symudiadau! Diolch i bawb am ddod i noson hwyliog iawn!

Wednesday 1 December 2010

GWNEUD GWAHANIAETH


Nos Lun 29ain Tachwedd bu criw yn ysgrifennu cardiau post.

Unwaith y flwyddyn, rhwng 1af Tachwedd a 31ain Ionawr, bydd Amnest Rhyngwladol yn gofyn i'w cefnogwyr anfon cardiau a negeseuon cefnogol at bobl ym mhob cwr o'r byd sydd wedi dioddef o gamdriniaeth hawliau dynol. Mae pob cerdyn o bwys. Gall eich llythyrau, eich cardiau a'ch cefnogaeth gymell llywodraethau a phobl ledled y byd i dalu sylw pan gaiff pobl eu trin yn annheg. Hefyd gall eich negeseuon roi gobaith a gwneud i rywun deimlo'n llai unig ac ofnus. Dyna pam mae pob cerdyn yr anfonir gennych yn bwysig.