Thursday 24 February 2011

CLWB HWYL A SBRI




24 Chwefror 2011 - stori'r Adeiladwr Call a'r Adeiladwr Dwl gawsom ni heno - gan ddilyn y stori o'r Beibl gyda chlip o'r stori yn ffilm Gwr y Gwyrthiau. Yna gwneud model o dy i greu pentref Beiblaidd. Yna gyda cymorth Medi cawsom wneud wraps iach i'w bwyta cyn mynd adref.

Monday 21 February 2011

CLWB CHWARE TEG!


17 Chwefror 2011 - Noson Gemau heno - pawb yn dod a gemau. Noson hwyliog iawn ac aeth yr amser yn sydyn! Pob hwyl i Non, Leah a Lois sydd yn mynd i sgio gyda'r Ysgol dros wyliau Hanner Tymor.

BORE COFFI

17 Chwefror 2011 - cynhaliwyd Bore Coffi hwyliog iawn yn Yr Hen Ysgol. Am gyfnod doedd dim trydan i ferwi'r tegell! Achubwyd y Bore Coffi fodd bynnag gan un o'r trigolion a cawsom fore difyr iawn.

ARWAIN ADDOLIAD

16 Chwefror - y pumed yn ein cyfres o ddosbarthiadau 'arwain addoliad' heno roeddem yn edrych ar gerddoriaeth fel rhan o'n haddoliad.

CLWB HWYL A SBRI


16 Chwefror 2011 - parhau gyda stori Abraham yn cael ymwelwyr heno. Daeth tri ymwelydd at babell Abraham gyda neges iddo gan Dduw yn dweud y byddai ef a Sarai yn cael babi. Yn oes Abraham roedd yn arferiad i olchi traed ymwelwyr i'ch pabell. Cawsom y stori hon heno i gyd yn eistedd tu allan i babell go iawn yn y festri, golchodd rhai o'r plant draed eu gilydd ac yna fel yn oes Abraham cawsom gig, cacen a diod i fwyta. Yn dilyn fe wnaethon ni Abraham, Sarai ac Isaac gyda pegiau!

DECHRAU DA!




16 Chwefror - cawsom lawer iawn o hwyl eto heddiw a'r nifer yn codi! Roedd teganau newydd a chyfle i ludo lluniau yn yr ardal gelf a chrefft. Gobeithiwn gael mwy o adnoddau yn fuan ar eich cyfer.

Saturday 12 February 2011

DECHRAU DA!

Prynhawn dydd Mercher daeth nifer o rieni a gwarchodwyr i'r festri gyda'r plant bach ar gyfer y sesiwn cyntaf o Dechrau Da! Roedd y plant yn brysur iawn yn chwarae yn y gwahanol ardaloedd tra bod mam neu anti yn cael paned a bisged haeddiannol iawn. diolch i bawb sydd wedi cyfrannu teganau neu offer ar gyfer y cyfarfodydd. Roedd y plant yn brysur iawn yn ymweld o ardal i ardal e.e. ardal celf a lliwio; ardal byd bach; ardal teganau ac ardal stori. Bydd yr ardaloedd yn amrywio o wythnos i wythnos. Dewch am dro i'r Dechrau Da!

CLWB GWAU

Daeth criw da ynghyd eto i'r cyfarfod ar y 7fed Chwefror. Bydd angen dosbarthu nifer o eitemau i'r ysbytai yn ystod y mis ac mae Ysbyty Gwynedd a GlanClwyd bob amser yn gwerthfawrogi gwaith y Clwb. Diolch yn fawr iawn.

Thursday 10 February 2011

CLWB HWYL A SBRI


Nos Fercher 9fed Chwefror roedd prysurdeb mawr yn y Clwb! Bu'r criw hyn yn coginio cacennau brau yn y gegin tra roedd y plant iau yn cael hanes Abraham yn gadael ei wlad ac yn teithio i Wlad Canaan. Bu i ni drafod teithio heddiw a teithio yn oes Abraham. Mae Duw yn dal i alw pobl i fynd i wledydd eraill ac fe fyddwn yn ystod yr wythnosau nesaf yn edrych ar becyn Hmangaihna In ac ymweliad Elin a'r India.