Wednesday 29 April 2009

CLWB HWYL A SBRI 29.04.09




Heno fe gawsom ddysgu am Tomos, un o'r disgyblion oedd yn methu credu heb iddo gael gweld. Bu i ni feimio wrth i ni glywed yr hanes o Beibl Bach i Blant a cheisio gosod mewn trefn ein hadnod am wythnos yma: "Mae'r rhai fydd yn credu heb weld yn mynd i gael eu bendithio'n fawr". Yna cawsom chwarae dwy gem. Roedd rhaid i ni ddyfalu "pwy oedden ni" drwy ofyn cwestiwn a cheisio dyfalu o'r atebion i'r enwau ar ein talcen - Barack Obama, Gordon Brown, Sali Mali, Shane Williams, Owain Glyndwr, Duffy a Prifathro Ysgol Trefor! Roedd rhaid i ni wedyn ymddiried yn llwyr yn ein gilydd wrth gael ein towys ar draws yr ystafell yn gwisgo mwgwd!

Y GYMANFA FACH


Daeth Gymanfa Fach Annibynwyr Llyn i Drefor eleni. Cafwyd gwasanaeth o ganu yn Y Ganolfan gyda Llinos. Ar y canol fe aeth yr oedolion i sgwrsio gyda Margaret Jones Chwilog ac fe gafodd y plant gyfle i ddysgu am weddio. Gweddi bersonol a gweddi dros eraill. I ddiweddu cafwyd picnic ar y cae chwarae yn yr haul braf. Dyma lun o waith y plant wrth iddyn nhw gofio am blant eraill mewn gweddi.

Friday 24 April 2009

OEDFA WOLA NANI







Oedfa yn cefnogi Apel Undeb yr Annibynwyr yng Nghymru oedd Oedfa Wola Nani. Apel sydd yn cefnogi gwaith Cymorth Cristnogol yn Ne Affrica - y wlad sydd a'r boblogaeth fwyaf o wledydd y deheudir, rhyw 47 miliwn. Her Undeb yr Annibynwyr yw i godi £1 yr aelod bob mis dros flwyddyn yr Apel. Dydi hynny ddim yn swnio'n llawer, ond gall £1 wneud gymaint o wahaniaeth. Yn ystod ein Oedfa cawsom gwmni Aled Pickard, Swyddog Datblygu Gwirfoddolwyr i Cymorth Cristnogol. Mae Aled wedi ymweld a De Affrica ac i ymweld a partneriaid sydd yn cael sylw yn y pecyn apel. Un o'r partneriaid hynny yw Wola Nani sy'n golygu - cefnogi ein gilydd. Cawsom gyflwyniad grymus iawn gan Aled yn cynnwys lluniau o'i daith a'r hanes. Mae Wola Nani yn gweithio gyda HIV/AIDS ac yn ymladd yn erbyn yr ofn a'r stigma ofnadwy sy'n dal i berthyn i HIV, yn ogystal a dysgu sgiliau i'r merched. Mae Wola Nani yn hyfforddi merched i wneud bowlenni papier-mache lliwgar. I gloi ein Oedfa yn Nhrefor fe gafodd y plant gyfle i baentio eu bowlenni papier-mache roedden nhw wedi ei paratoi ymlaen llaw yn y Clwb Hwyl a Sbri. Gwnaed casgliad ar gyfer yr apel sydd yn dal ar agor i unrhyw un hoffai gyfrannu.

Thursday 23 April 2009

OEDFA WOLA NANI

CLWB CHWARE TEG

Ar fore braf yn ystod gwyliau'r Pasg aeth 14 o'r Clwb Chware Teg! ar daith feics noddedig. Roeddem yn teithio ar hyd Lon Eifion o Bryncir i Gaernarfon. Roedd yn daith hamddenol a hardd iawn ar ddiwrnod mor braf. Cafwyd cwmni da a hwyl, a pawb yn cwblhau y daith. Diolch i bawb am gymryd rhan a diolch arbennig i'r tim oedd yn edrych ar ein holau ar hyd y daith pan oedd angen croesi'r ffordd fawr, neu i wneud yn siwr bod gan bawb ddiod a ffrwyth. Diolch arbennig i Robat am glydo'r beics i Bryncir yn y fan, a dod a nhw yn ol i Drefor! Llongyfarchiadau i'r beicwyr am godi yn agos i £200 ar gyfer gweithgareddau'r Clwb dros y misoedd nesaf.

CLWB GWAU

Mae'r Clwb Gwau wedi bod yn hynnod o brysur ac mae blancedi glin wedi mynd yn ddiweddar i Gartref Penrhos ym Mhwllheli. Hefyd, mae Ysbyty Gwynedd ac Ysbyty Glan Clwyd bob amser yn falch iawn o'r cyflenwad o eitemau ar gyfer Unedau Gofal Dwys. Dyma rai o eitemau babis yn barod i fynd i Ysbyty Glan Clwyd.

Thursday 9 April 2009

OEDFA MASNACH DEG 2009




Rydym ni gyd yn gyfarwydd iawn erbyn hyn a'r gwahaniaeth y mae Masnach Deg yn ei wneud i gymunedau dros y byd. Mae Masnach Deg yn golygu gwell pris, oriau gwaith rhesymol ac amodau gwaith gwell, a chytundebau masnachu gwell ar gyfer ffermwyr a gweithwyr. Ond mae Masnach Deg hefyd yn golygu grymuso pobl, fel bod ganddyn nhw fwy o reolaeth dros eu bywydau eu hunain, a'r gallu i gyrraedd eu potensial fel dinasyddion. Pan fyddwn ni'n meddwl am Fasnach Deg - bwyd fydd fwyaf cyfarwydd i ni. Felly, yn oedfa Masnach Deg Trefor fe gawsom Sioe Ffasiwn er mwyn cyflwyno dillad Masnach Deg! Roedd deuddeg model o Clwb Chware Teg! yn gwisgo dillad Masnach Deg wedi dod o siop Kingdom Krafts yn Llandudno - dillad gan gwmniau yn buddsoddi yn eu gweithwyr, eu cynhyrchwyr a'u cymunedau. Trwy brynu dillad Namaste, People Tree, Alternatives a TradeCraft i enwi dim ond rhai - rydym yn sicrhau gwell gwaith, gwell gofal, gwell addysg, gwell hyfforddiant, gwell cyfle, gwarchod sgiliau traddodiadol a diwylliant cymunedau - pa ffordd well na dod a ffasiwn a chyfiawnder cymdeithasol at eu gilydd a sicrhau gwell dyfodol i bobl ar draws y byd.

Saturday 4 April 2009

CLWB HWYL A SBRI



Paratoi ar gyfer Gwasanaeth Wola Nani oeddem ni yr wythnos yma. Rydym am gynnal Gwasanaeth Wola Nani dydd Sul 19 Ebrill. Mae apel Undeb yr Annibynwyr eleni yn canolbwyntio ar waith Cymorth Cristnogol yn De Affrica, ac un o'r partneriaid mae nhw'n gweithio gyda nhw yn Ne Affrica yw Wola Nani. Yn y gwasanaeth bydd y plant yn cael cyfle i addurno eu llestri papier-mache tra bydd y rhieni yn mwynhau paned a sgwrs!