Friday 17 December 2010

DATHLU'R 'DOLIG





Cynhaliwyd Noson Garolau yn y festri lawn nos Iau 16eg Rhagfyr. Noson o ganu carolau, gweld gwaith llaw y plant, gweld gosodiadau gan aelodau Clwb Blodau Trefor a chyn mynd adre roedd paned a mins peis i bawb. Noson Nadolig go iawn a'r wlad yn wyn pan oedd pawb yn troi am adre.

BORE COFFI NADOLIG

Cynhaliwyd Bore Coffi Nadolig yn Ysgol yr Eifl a daeth y plant i sgwrsio gyda ni am Nadolig mewn gwledydd eraill. Mewn parau, cawsom ein tywys o Frasil i Awstralia ac o'r Unol Dalieithau i Rwsia! Difyr iawn oedd y cyfarfod.

CLWB HWYL A SBRI


Cawsom hwyl yn edrych ar y doethion nos Fercher 15fed, a paratoi coron bob un yn barod ar gyfer Dathlu'r 'Dolig nos fory! Creodd y plant iau goron a bu'r plant hyn yn edrych ar rodd. Y rhodd o roi gobaith i deuluoedd dros y byd sydd yn wynebu Nadolig trist heb aelodau o'r teulu sydd efallai yn garcharorion cydwybod neu wedi eu cipio am eu gwaith dros hawliau dynol. Defnyddiwyd taflen Amnest Rhyngwladol ar gyfer hyn gan liwio lluniau o ganhwyllau.

Thursday 9 December 2010

CLWB HWYL A SBRI





Nos Fercher 8fed Rhagfyr bu i ni barhau ar daith y Nadolig a chanolbwyntio ar y bugeuliaid. Bu'r dosbarth hynaf yn gwneud baneri wrth baentio defnydd a bu'r plant bach yn addurno pedair o ddefaid mawr! Bydd gwaith y plant yn cael ei arddangos yn y gwasanaeth Nadolig nos Iau 16eg Rhagfyr yn Festri Maesyneuadd. Dyma beth o waith y plant yn y cyfamser.

Monday 6 December 2010

CALENDR 2011


Noson i lawnsio Calendr 2011 - noson gartrefol yng nghwmni'r Prifardd a'r Cerddor Twm Morys. Aethom ar daith drwy'r tymhorau drwy gerdd a chan cyn mwynhau paned a chel cyfle i brynu'r Calendr newydd. Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu i Galendr 2011.

CLWB GWAU


Croesawyd Clwb Gwau Llanaelhaearn atom heddiw gan fwynhau cwmni a mins peis! Roedd Dewi Wyn wedi dod hefyd er mwyn tynnu llun a gwneud erthygl ar gyfer y Cambrian News. Diolch i bawb am yr holl wau dros y flwyddyn a Nadolig Llawen i chi gyd!

DIWRNOD RHYNGWLADOL HIV/AIDS

Cynhaliwyd oedfa HIV/AIDS nos Sul 5ed Rhagfyr. Roedd cyfle i bawb gymryd rhan yn canu, cyd-ddarllen a chyd-weddio. Cafwyd hanes Esgob o Tansania, a mam ifanc o Bangalore. Hefyd roedd cyfle i wylio ffilm fer am 6 o ferched ifanc o Calcutta ymwelodd a Chymru yn 2004. Mae'r merched yn byw mewn lloches arbennig yn Calcutta. Lloches Sanlaap sydd yn achub merched o'r diwydiant rhyw, yn rhoi gofal iechyd iddynt, addysg a hyfforddiant ar gyfer ennill incwm yn y dyfodol. Mae casgliad y gwasanaeth yn mynd tuag at brynu pecynnau bwyd maethlon o lyfr Present Aid Cymorth Cristnogol.

HWYL A SBRI

Nos Fercher 1af Rhagfyr cawsom gwmni Mererid Mair o Gaernarfon i gynnal sesiwn canu a stori gyda ni. Aethom ar daith y Nadolig ar gan, stori a symudiadau! Diolch i bawb am ddod i noson hwyliog iawn!

Wednesday 1 December 2010

GWNEUD GWAHANIAETH


Nos Lun 29ain Tachwedd bu criw yn ysgrifennu cardiau post.

Unwaith y flwyddyn, rhwng 1af Tachwedd a 31ain Ionawr, bydd Amnest Rhyngwladol yn gofyn i'w cefnogwyr anfon cardiau a negeseuon cefnogol at bobl ym mhob cwr o'r byd sydd wedi dioddef o gamdriniaeth hawliau dynol. Mae pob cerdyn o bwys. Gall eich llythyrau, eich cardiau a'ch cefnogaeth gymell llywodraethau a phobl ledled y byd i dalu sylw pan gaiff pobl eu trin yn annheg. Hefyd gall eich negeseuon roi gobaith a gwneud i rywun deimlo'n llai unig ac ofnus. Dyna pam mae pob cerdyn yr anfonir gennych yn bwysig.

Thursday 25 November 2010

CLWB CHWARE TEG!




Heno roeddem yn edrych ar beth sydd yn gwneud cymeriad da - a beth mae'r Beibl yn ddysgu i ni am gymeriad da. Daeth Tess atom i wneud gwaith celf. Dyma banel yn dehongli teimladau pawb heno! Gewch chi ddyfalu pwy yw pwy!

Monday 22 November 2010

OPERATION CHRISTMAS CHILD

Eleni aeth 73 o focsys o Drefor i'r Ucraen. Diolch i bawb am gyfrannu bocs neu am gyfraniad ariannol.

Friday 19 November 2010

CLWB CHWARE TEG!


Nos Iau 18fed cawsom Noson Harddwch. Roedd pawb yn cael triniaeth gwallt, ewinedd neu golur gan aelodau'r clwb. Roedd yn noson hamddenol iawn ac fe gawsom gyfle i greu 'llyfr bach ffrindiau' Clwb Chware Teg! sydd yn llawn o adnodau o'r Beibl sy'n ein dysgu nad nid steil gwallt, mwclis a cholur sydd yn bwysig, ond sut gymeriad ydyn ni, a sut ydym yn ymddwyn tuag at ein gilydd.

HWYL A SBRI

Nos Fercher 17eg cawsom gychwyn ar daith y Nadolig gan gael hanes Gwr y Llety. Cafodd Mair a Joseff groeso gan Wr y Llety. Er mwyn rhoi croeso i bawb sydd yn dod i'r festri, sef llety Hwyl a Sbri, rydym wedi gwneud ffram lluniau a gosod ein lluniau ar y wal mewn galeri.

Friday 12 November 2010

COR NADOLIG TREFOR

Mae'r ymarferion wedi cychwyn - Festri Maesyneuadd bob nos Iau am 7.30. Cyfle i ddysgu caneuon newydd ar gyfer Gwasanaeth Nadolig.

CLWB CHWARE TEG!


Agorwyd tymor Clwb chware Teg! gyda noson gwneud pizzas. Roedd yn braf iawn cael ail-gwrdd eto ar ol yr haf. Nid yw'n rhy hwyr i ymuno - felly tyrd draw bob nos Iau rhwng 6 a 7 o'r gloch.

Thursday 11 November 2010

CLWB HWYL A SBRI


Nos Fercher 10fed Tachwedd cawsom stori Iesu a'r Pysgotwyr. Yn dilyn y stori cawsom gwmni Danny a Cian i son wrthym am y pysgod mae Danny yn bysgota yn y mor yn Nhrefor. Daeth a dwy gawell i ddangos i ni - un i ddal cimwch a'r llall i ddal corgimychiaid. Daeth a gwialen bysgota a nifer fawr o luniau pysgod.

Friday 5 November 2010

CLWB HWYL A SBRI

Nos Fercher Tachwedd 3ydd cawsom stori Jona. Roedd nifer fawr o blant yn y Clwb felly roedd yna ddigon o ddwylo i helpu rhwygo papur a gludo! Dyma'r morfil lyncodd Jona a'i achub o'r mor cyn ei ddychwelyd i dir sych a'r y traeth.

CLWB GWAU

Diolch am holl waith caled yr aelodau, mae yna bellach ddau lwyth o eitemau ar gyfer SCBU GlanClwyd ac Ysbyty Gwynedd yn barod i'w dosbarthu cyn y Nadolig. Hefyd mae blancedi glin ar gyfer Bryn Meddyg, Bryn Beryl a Penrhos.

Monday 1 November 2010

HYSBYSEB

Gwahoddiad
Cyfle i ganu mewn côr ar gyfer Nadolig 2010
COR TREFOR
Cyfle i gymdeithasu a dysgu gyda’n gilydd
Profiad neu ddim – cewch ddigon o hwyl yn dysgu!

Ymarferion ar nos Iau am 7.30 yn Festri Maesyneuadd

Tachwedd 11
Tachwedd 18
Tachwedd 25
Rhagfyr 2
Rhagfyr 9
Rhagfyr 16

Croeso cynnes i bawb o bob oed - plant, pobl ifanc ac oedolion!

Arweinydd: Dafydd Roberts Llithfaen
Enwau i Llinos os gwelwch yn dda, neu dewch draw i’r ymarfer cyntaf!

OEDFA DIOLCHGARWCH - CAWL A MAWL

Nos Sul 31 Hydref cynhaliwyd Oedfa Diolchgarwch gan fwynhau cawl blasus a chymdeithasu cyn mynd am adre. Diolch i bawb am gyfrannu at yr Oedfa arbennig. Gwasanaeth o ddarlleniadau, gweddiau ac emynau gafwyd ac roedd y darlleniadau fel a ganlyn:
Salm 65
Salm 100
Salm 104: 1-4 10-15
Actau 17: 22-31

Wednesday 27 October 2010

HWYL A SBRI HANNER TYMOR 2010





Heddiw cynhaliwyd Hwyl a Sbri Hanner Tymor gyda 27 o blant wedi dod i'r cyfarfod. Bu'r sesiwn cyntaf yn un celf gan greu cardiau Nadolig, a chawsom gardiau bendigedig o liwgar. Ar ol yr egwyl roedd y plant hyn yn cael pel-droed gyda Morgan a'r plant bach yn cael hanes bywyd Shompa sydd yn byw yn yr India. Roedd cyfle i wisgo fyny a gweld celfi o'r India hefyd. Ar ol i bawb ddod ynghyd eto yn y Ganolfan cafwyd cinio cymdeithasol!

GWASANAETH Y MIS

Prynhawn dydd Iau 14eg Hydref cynhaliwyd gwasanaeth yn yr Ysgol - Byw mewn Heddwch. Bu i ni weld sut mae plant Israeliaid a Phalisteiniaid yn cyd chwarae yn hapus ac mewn heddwch yn Clwb Gwawr a Gobaith. Ar ddiwedd y gwasanaeth bu i pawb arwyddo rhuban heddwch, fydd ynghyd a rhubannau o Ysgolion a Chymdeithasau Gwynedd, yn cael ei gyflwyno i Grwp Heddwch a Chyfiawnder Arfon, i'w ddefnyddio yn y Senedd ac yn yr Eisteddfod.

Wednesday 13 October 2010

CLWB HWYL A SBRI - DIOLCHGARWCH






Nos Fercher 13eg Hydref roedd Oedfa Diolchgarwch. Cawsom hanes plant sy'n byw mewn pentref gwyntog iawn yn Affganistan. Clywsom sut mae nhw wedi defnyddio yr un elfen anodd yn eu bywydau, sef y gwynt cryf, i wneud eu bywydau'n llawer mwy hawdd. Adeiladwyd melin wynt i godi dwr o'r ddaear, ar gyfer y defaid a'r geifr! Bu amser i greu melin wynt ein hunain a oedd yn arddurno'r capel ar gyfer yr oedfa.

Wednesday 6 October 2010

CLWB HWYL A SBRI - FFRINDIAU







Nos Fercher 6ed Hydref oedd noson gyntaf tymor Clwb Hwyl a Sbri. Cawsom fyfyrdod ar fod yn ffrindiau a dysgu sut mae Iesu Grist wedi dangos i ni sut i fod yn ffrindiau da i bawb. Dyma lun o ffrindiau Clwb Hwyl a Sbri. Bu i ni hefyd baratoi baner Diolchgarwch ar gyfer ein oedfa deulu wythnos nesa a gan mai hon oedd y noson gyntaf cawsom fwyd parti a diod cyn mynd adre.

Monday 4 October 2010

CLWB GWAU

Daeth Wyn Owen atom heddiw o Operation Christmas Child i'n atgoffa am yr arferiad o lenwi bocsys 'sgidiau ar gyfer plant bach mewn gwledydd eraill. Eleni i'r Ucraen fydd y bocsys yn mynd, ac mae gennym fis i'w llenwi. Felly ewch ati i lenwi bocs 'sgidiau, cewch daflen gan Llinos neu o'r Ysgol neu yn yr oedfaon ar y Sul. Beth am geisio cyrraedd 100 o focsys eleni!

BORE COFFI


Deffra! Deffra!

Dos i hel dy lyfrau...

Mae diwrnod newydd o'm blaen.

Cawsom Fore Coffi hwyliog iawn ar y thema llyfrau mis yma. Gyda llyfrgell yr Ysgol ar ei newydd wedd fe'n tywyswyd drwy hoff lyfrau ffeithiol y disgyblion. Drwy sgets cawsom flas ar un o'r hoff lyfrau ffuglen sef Y Twits gan Roald Dahl. I gloi bu'r disgyblion yn rhannu eu hoff farddoniaeth gyda'r gynulleidfa. Bore Coffi llawn ffeithiau a stori. Wrth agor llyfr mae'n agor cyfle ac mae Llyfr yn un o'r anrhegion mwyaf gwerthfawr y medrwch roi i berson arall.

Wednesday 22 September 2010

DIWRNOD RHYNGWLADOL HEDDWCH 2010


Llongyfarchiadau i Ifan a Ben ar eu llwyddiant yn y gystadleuaeth arlunio eleni. Dyma nhw yn y cyfarfod yn Neuadd y Sir Caernarfon! Da iawn chi.

Friday 17 September 2010

LLONGYFARCHIADAU!


Llongyfarchiadau mawr i Ifan sydd wedi ennill cystadleuaeth arlunio. Grwp Heddwch a Chyfiawnder Arfon oedd yn rhedeg y gystadleuaeth, ac yn ol y beirniad, Cefyn Burgess, poster heddwch Ifan oedd yn fuddugol. Roedd bron 300 o bosteri wedi dod o ysgolion Gwynedd. Bydd Ifan yn cael ei wobrwo yn Neuadd y Sir yng Nghaernarfon dydd Mawrth 21ain Medi, sef Dydd Rhyngwladol Heddwch. Bydd yn derbyn tystysgrif a thlws, a hefyd £50 i'r Ysgol. Roedd gwaith Ben hefyd yn agos iawn i'r brig ac fe fydd Ben yn cael tystysgrif Canmoliaeth Uchel dydd Mawrth. Da iawn chi!

LLEWOD YN Y STEDDFOD


Dyma nhw'r llewod wedi cyrraedd Pabell yr Eglwysi yn ystod wythnos yr Eisteddfod eleni ym mis Awst. Gobeithio bod y ddau bysgodyn yn dal yn fyw!

LLEWOD YN Y STEDDFOD

Dyma nhw'r llewod wedi cyrraedd Pabell yr Eglwysi yn ystod wythnos yr Eisteddfod eleni ym mis Awst. Gobeithio bod y ddau bysgodyn yn dal yn fyw!

Monday 13 September 2010

TAITH BEICS PEDAL





Cynhaliwyd Taith Beics a Picnic Pedal dydd Sul 12fed Medi 2010. Roedd y cwmni a'r tywydd yn braf iawn wrth i ni deitho Lon Eifion o Fryncir i'r Groeslon. 15 o griw yn cynnwys aelodau o Pedal a'u teuluoedd. Roedd y llwybyr yn hardd iawn a pawb yn edrych ymlaen at gael bwyd yn Groeslon. Diolch i bawb am helpu gyda'r daith, yn enwedig i Robat am gludo'r beics yn saff i bob pen o'r lon. Edrych ymlaen at y tro nesa!

Wednesday 8 September 2010

CLWB GWAU

Croeso nol i bawb! Croeso hefyd i ffrindiau newydd yn cynnwys disgyblion Blwyddyn 6 Ysgol yr Eifl sef: Elan, Sion, Ifan, Osian, Josh a Rhys. Roedd pawb yn fwrdfrydig iawn i ail-gydio yn y gwau a chael sgwrs a chymdeithas eu gilydd. Diolch am yr holl wau gyflwynwyd dros yr haf, mae ymweliad i'r Ysbytai ar y gweill ar gyfer wythnos nesa.

Ble mae’r gwau yn mynd:

Blancedi glin sgwariau:
Cartref Bryn Meddyg
Ysbyty Bryn Beryl
Cartref Penrhos

Cotiau, blancedi bach, blancedi cot a hetiau (meintiau bach) i Unedau Gofal Geni Babanod Buan:

Ysbyty Gwynedd
Ysbyty GlanClwyd

Blancedi sgwariau lliwgar ar gyfer cot plentyn:

Ysbyty Gwynedd
Ysbyty GlanClwyd

Tedis:

Gwasanaeth ambiwlans awyr
Gwasanaeth tân a’r Heddlu

Het a sgarff:

Operation Christmas Child
(erbyn dechrau Tachwedd yn flynyddol)

Eitemau amrywiol ar gyfer bwrdd Urdd Cyfeillion Ysbytai Gwynedd a GlanClwyd e.e. sgarffiau, dillad doli ...

Monday 9 August 2010

CLWB GWAU


Prynhawn dydd Llun 9fed Awst fe gafodd merched Clwb Gwau seibiant o'r gwau a mwynhau paned a chacen! Trefnwyd te yng nghaffi newydd Tyddyn Sachau Y Ffor, i ddathlu'r holl waith gwau dros y flwyddyn. Bydd y Clwb Gwau yn ailddechrau prynhawn dydd Llun Medi 6ed am 2 o'r gloch yn festri Maesyneuadd.

PERERINDOD AWST 2010



Dydd Sul Awst 8fed trefnwyd pererindod i Llyn. Roedd Dawi wedi cynllunio taith hamddenol braf a hyd yn oed wedi trefnu i ni gael diwrnod godidog iawn yng nghanol dyddiau o law trwm! Cychwynwyd o Drefor ac i Gapel Newydd Nanhoron. Cafwyd gwasanaeth buddiol iawn yn y capel ynghyd ac ychydig o hanes yr adeilad. Aethom ymlaen wedyn i Eglwys Penllech am hanes yr eglwys hon a seibiant yn yr heulwen cyn mynd am bryd o fwyd i Westy Nanhoron Nefyn. Diolch i bawb am ddod ac i Dawi am yr holl drefniadau.

Sunday 25 July 2010

DATHLIADAU!


Nos Sul Gorffennaf 25ain roedd yna lawer i'w ddathlu yn yr Oedfa. Roedd y gegin newydd yn barod ac ar ei newydd wedd. Da oedd hynny gan ein bod am gael lluniaeth ysgafn ar ddiwedd yr Oedfa heno. Y Parch Alan John oedd yn pregethu a hynny wrth iddo ddathlu 50 mlynedd yn y weinidogaeth. Bu yma yn Nhrefor rhwng 1966 a 1969. Cyflwynwyd iddo waith pwyth arbennig iawn gan Margaret Wyn Ellis. Hefyd cafwyd cyfle i ddathlu penblwydd Mr Huw Humphreys yn 90 oed! Llongyfarchiadau a phenblwydd hapus!

Friday 23 July 2010

CLWB HWYL A SBRI


Llongyfarchiadau i Clwb Hwyl a Sbri am dderbyn tystysgrif Gwobr Rhagoriaeth. Derbyniwyd hon gan BTCV Cymru yn dilyn gweithgareddau yn gwneud bwyd adar ac yn dysgu am yr adar lleol yn ein gerddi.

Friday 16 July 2010

LLEWOD YN Y 'STEDDFOD


Do fe aeth y llewod i Undeb yr Annibynwyr yng Nghaerfyrddin a chael canmoliaeth fawr, ond yn anffodus eleni nid oedd y murlun yn dod ir brig yng nghystadleuaeth Cwpan Denman. Er hynny, mae'r llewod wedi cael gwahoddiad i'r Eisteddfod Genedlaethol! Felly, os ydych chi'n mynd i'r Eisteddfod eleni cofiwch alw ym mhabell yr Annibynwyr i'w gweld!