Saturday 28 July 2012

CLWB CHWARE TEG!





28ain Gorffennaf 2012 - cyfle i weld peth o waith Gwenno, Michaela a Natalie cyn iddo fynd i'r Eisteddfod!

Friday 27 July 2012

CLWB CHWARE TEG!




27ain Gorffennaf 2012 - daeth rhai o'r gennod ynghyd heddiw i orffen eu gwaith ar gyfer uned Cymorth Cristnogol yn yr Eisteddfod.  Size of Wales yw'r ymgyrch ac mae Miriam yn rhan allweddol o'r prosiect hwn yng Nghymru.  Mae'r Clwb felly wedi bod yn cefnogi Miriam drwy greu gwaith celf wedi selio ar waith celf yr Indiaid brodorol o'r coedwigoedd glaw ym Mrasil.  Coedwigoedd sydd yn cael eu dinistrio fesul darn sydd yr un maint a Chymru!  Felly, yn amddifadu'r Indiaid o'u cartrefi, eu bwyd, bwyd eu hanifeiliaid, bywyd gwyllt, ffordd o fyw a diwylliant hynafol iawn.

CLWB GWAU

27ain Gorffennaf 2012 - Ysbyty Glan Clwyd ac Ysbyty Gwynedd wedi cael nifer fawr o eitemau ar gyfer Unedau Gofal Dwys Babanod wedi Geni'n Fuan.  Bydd y Clwb yn cyfarfod eto dydd Llun cyntaf mis Medi.

CLWB CHWARE TEG!

26ain Gorffennaf 2012 - daeth criw da ynghyd i drafod syniadau dros yr haf.  Bydd rhain yn cynnwys gweithdy trwsio beics, dysgu sgiliau BMX. trip i PlasyBrenin i ddysgu dringo a syniadau codi arian.

Tuesday 24 July 2012

CLWB CHWARE TEG!





24ain Gorffennaf 2012 - hwyl yn gwirfoddoli! Mae'r bobl ifanc yn awyddus i gasglu arian i wneud gweithgareddau dros yr haf a'r hir dymor.  Oes gennych chi waith ysgafn ar eu cyfer?  Dyma dri o'r criw yn helpu yn y Gorlan heddiw, ac yn helpu i baratoi cwch Emlyn ar gyfer y mor.  Diolch yn fawr hogiau!

CLWB GWAU



23ain Gorffennaf 2012 - mae'r Clwb yn cael seibiant dros yr haf.  Dyma gyfle gwych i gael diwrnod allan a mynd am de prynhawn i Taro Deg.  Daeth 14 ar y bws o Drefor a chael te blasus iawn ym Mhwllheli.  Bydd y Clwb yn ail gyfarfod ar y dydd Llun cyntaf ym mis Medi.

PERERINDOD I'R BALA





22ain Gorffennaf 2012 - gwahoddwyd ni i fynd ar bererindod i'r Bala gyda'n ffrindiau o Eglwys Noddfa Caernarfon.  Roedd y bws yn llawn a chafwyd siwrne braf iawn i'r Bala.  Ein ymweliad cyntaf oedd Capel Tegid ble roedd Mari Jones (Siwan Llynor) yn aros amdanom i adrodd ei hanes yn cael ei Beibl cyntaf.  Yn dilyn hyn cafwyd picnic mewn haul bendigedig ar lan Llyn Tegid.  Mentrodd ambell un i'r dwr!  Cafwyd seibiant, paned a chacen yng Ngholeg y Bala tra bod y plant yn cael gemau gyda'r staff yno.  Cyn i ni droi am adre cynhaliwyd gwasanaeth gan Mererid Mair.  Ar y ffordd adre fe gafwyd chips yn Porthmadog.  Diolch yn fawr iawn i Eglwys Noddfa am drefu diwrnod braf iawn.

Friday 20 July 2012

CLWB CHWARE TEG!



19eg Gorffennaf 2012 - parhau i drefnu mae'r criw.  Mae'r merched wedi bod yn cynllunio posteri i hysbysebu gweithgareddau ar gyfer yr haf, ac mae'r bechgyn yn awyddus i drwsio beics dros yr haf.  Felly, os oes gennych hen feic yn y garej nad ydych ei angen mwyach, yna dewch a fo i'r Gorlan.  Bydd yn criw yn eu adnewyddu ac yn eu gwerthu er budd cefnogi gweithgareddau pobl ifanc yn Nhrefor.

Tuesday 17 July 2012

BORE COFFI

13eg Gorffennaf 2012 - cafwyd Bore Coffi llawn atgofion heddiw, a chyfle i ffarwelio gyda Guto, Owain, Steffan, Geraint ac Elliw, sydd yn gadael Ysgol Trefor am Ysgol Glan y Mor.  Dymunwyd yn dda iddynt a mwynhawyd cyflwyniad arbennig o'u amser yn Ysgol yr Eifl drwy gyfrwng can, fidio a lluniau.  Pob dymuniad da i'r dyfodol.

CLWB CHWARE TEG!

12fed Gorffennaf 2012 - daeth Clwb Chware Teg! ynghyd wedi cyfnod arholiad a phrofion Ysgol.  Mae dipyn o syniadau da wedi dod i law ar gyfer rhaglen 2012/13.  Bu hefyd gryn dipyn o baentio gan helpu Miriam gyda phrosiect ar gyfer Cymorth Cristnogol.  Diolch yn fawr i bawb!

Monday 9 July 2012

OEDFA VIVA! GUATAMALA


8fed Gorffennaf 2012 - cynhaliwyd oedfa Viva! Guatamala (pecyn Eglwys Bresbyteraidd Cymru a Cymorth Cristnogol).  Cawsom weld gwaith Clwb Hwyl a Sbri sydd wedi bod yn defnyddio'r un pecyn, a chlywed hanes partneriaid Cymorth Cristnogol sydd yn gweithio gyda rhai o bobol tlotaf Guatamala.  Gwnaed casgliad o £60 tuag at yr apel.

Wednesday 4 July 2012

HWYL A SBRI




4ydd Gorffennaf 2012 - edrych eto ar becyn Viva!Guatamala a chael cyfle i flasu'r bwyd fydd Bianka yn fwyta o ddydd i ddydd.  Ei hoff fwyd yw tomato, ciwcymbyr, afocado, mango, papaya a bananas.  Gwnaethom benwisg carnifal lliwgar gan fod Bianka yn hoff iawn o ddawnsio a chymryd rhan mewn carnifal.

Tuesday 3 July 2012

CLWB GWAU

2il Gorffennaf 2012 - cynhaliwyd ein Clwb Gwau ola dros yr haf.  Ffarweliwyd a plant Blwyddyn 6 a dymunwyd yn dda iddyn nhw yn Ysgol Glan y Mor ym mis Medi.  Mae nhw wedi gweithio'n galed yn y Clwb Gwau wedi gwneud het ac wedi gwau poced ffon bach.

Sunday 1 July 2012

BORE COFFI

28ain Mehefin 2012 - cynhaliwyd Bore Coffi buddiol yn Yr Hen Ysgol.  Daeth nifer ynghyd i gael paned a sgwrs a chwmni.

DECHRAU DA!


27ain Mehefin 2012 - ein cyfarfod olaf am eleni a daeth nifer ynghyd er bod y tywydd yn wael!  Crewyd lan y mor yn y Festri a crewyd cynefin liwgar i Sali Sws yr Octopws!  Haf Hapus i bawb!

YSGOL YR EIFL

21ain Mehefin 2012 - cynhaliwyd Gwasanaeth y Mis i ddisgyblion yr ysgol.  Rheolau oedd y thema drwy edrych ar rhai rheolau yn ein bywyd bob dydd a edrych ar fywyd Bianka yn Guatamala a'r ffordd mae clwb ar ol ysgol arbennig yno yn ail ddysgu'r gymdeithas am reolau sydd yn dod a phobl at eu gilydd i wneud y gymuned y lle saff i fyw.

SGWRS A SGRAM

21ain Mehefin 2012 - daeth 22 i'r cinio heddiw gyda chyfarfod digon hwyliog o ganlyniad.  Ein gwr gwadd oedd Twm Elias gyda hanesion rhai o gymeriadau cefn gwlad lleol.  Bydd y cyfarfod nesa ym mis Medi.

HWYL A SBRI




20fed Mehefin 2012 - Viva! Guatamala yw thema'r haf.  Rydym yn edrych ar hanes Bianka o becyn Viva! Guatamala yr Eglwys Bresbyteraidd, ac apel 2012.  Ynghyd ag edrych ar Salm 150 cawsom weld nifer o batrymau traddodiadol Guatamala cyn addurno plat!  Dyma waith lliwgar iawn, da iawn chi.

DECHRAU DA!


20fed Mehefin 2012 - Haf Hapus Dechrau Da! Rydym wedi cael llawer iawn o hwyl lliwgar yn ein cyfarfodydd a dyma lun lliwgar y plant ar gyfer yr haf.  Tydi'r tywydd heb fod ddigon da i fynd i lan y mor, ond mae lan y mor wedi dod i Dechrau Da!.