Sunday 7 May 2017

Ysgol Sul Hwyl a Sbri

7fed Mai 2017
Cyfle heddiw i ddysgu am deulu Nejebar o Affganistan sydd wedi gadael eu cartref oherwydd y rhyfel ac erbyn hyn yn byw mewn gwersyll ffoaduriaid yng Ngwlad Groeg.  Mae Cymorth Cristnogol wedi helpu teulu Nejebar gyda gofal sylfaenol wedi iddyn nhw gyrraedd y gwersyll - deunydd ymolchi, dillad, bwyd, dwr glan, gofal iechyd a seicolegol, cyngor cyfreithiol, gofal meddygol ac addysg i'r plant.
Gall £250 brynnu oergell ar gyfer y gwersyll
Gall £50 brynnu stof i deulu goginio eu bwyd eu hunain
Gall £5 brynnu dau bryd bwyd i ffoadur
Wythnos nesa byddwn yn cynnal Brecwast Ysgol Sul am 10.30 i godi arian i Cymorth Cristnogol
Dewch ag eitemau ar gyfer ffoaduriaid e.e. dillad, dillad gwlae, esigdiau ayyb.
Nos Lun 15fed o 7 o'r gloch ymlaen yn Maesyneuadd bydd cyfle i chwarae gem Lle Diogel i Fyw gyda chawl i ddilyn.


Monday 1 May 2017

Ysgol Sul Hwyl a Sbri

30 Ebrill 2017
Dewisiodd Iesu y disgyblion i wneud ei waith.  Cawsom hanes Paul heddiw. Roedd Paul yn un da am ysgrifennu llythyrau. Roedd yn cerdded neu mynd mewn cwch i'w danfon i wahanol wledydd - Groeg, Cyprus, Y Eidal a Thwrci.  Roedd Paul yn ei lythyrau yn egluro wrth y bobl am "y ffordd gorau un i fyw eich bywyd". Dyma un o'i lythyrau i'r Corinthiaid, ac hefyd jig-so Ieuan a Meinir a marc llyfr Elliw, Tom a Leusa.



Ysgol Sul Hwyl a Sbri

23 Ebril 2017
Wedi'r Pasg a chroeshoelio Iesu, ei roi yn y bedd ac yna'r bedd yn wag - fe ymddangosodd Iesu eto i'w ffrindiau.  Dyma'r stori cawsom heddiw sef Iesu yn ymddangos i'w ffrindiau ar y traeth wrth iddyn nhw bysgota.  Roedd Pedr wedi ei adnabod yn sefyll ar y traeth, ac fe neidiodd o'r cwch a nofio i'r lan.  Cafodd y disgyblion frecwast ar y traeth gyda Iesu.  Roeddem wedi creu golygfa traeth ar gyfer stori heddiw ac eistedd i gael bwyd gyda'n gilydd.