Sunday 27 January 2013

OEDFA: Dameg yr Heuwr

27ain Ionawr 2013 - diolch i Clwb Chware Teg! am gael dangos fidio Dameg yr Heuwr yn ein oedfa heno.  Cawsom hefyd luniau arbennig i gyd-fynd gyda'r ddameg ac fe gawsom oedfa o awyrgylch braf iawn.

HWYL A SBRI




27ain Ionawr 2013 - cawsom stori Adda ac Efa heddiw 'Y diwrnod trist cyntaf'.  Addewid Duw yw y bydd yn dal i'n caru, ac mae am i ni fod yn ffrindiau iddo, ei garu a charu'n gilydd bob amser.  Mae Duw wedi creu pawb yn wahanol.  Dyma'n hunan bortreadau a'n poster 'Mae'n Iawn bod yn Wahanol'.

Wednesday 23 January 2013

DECHRAU DA!

23ain Ionawr 2013 - er y tywydd oer iawn cawsom barhau gyda'r thema o anifeiliaid.  Anifeiliaid y jyngyl heddiw a chyfle i roi anifeiliaid yn Arch Noa.

Thursday 17 January 2013

DECHRAU DA!



16eg Ionawr 2013 - Anifeiliaid yw thema mis Ionawr ac anifeiliaid y fferm heddiw.  Dyma geiliogod Elis, Tomos a Kimberly.  Croeso cynnes Dechrau Da! i Annest a nain atom heddiw

CLWB CHWARE TEG!

17eg Ionawr 2013 - noson brysur iawn heno! Darllen Dameg y Ffermwr ac yna cael trafodaeth ar bob safle.  Pa fath o bobl/bethau sy'n dylanwadu arnom? Pa un o'r safleoedd sydd yn ein disgrifio ni orau?  Roedd pawb yn eithaf cytun eu bod yn rhannol ddrain a phridd da heno!  Ac i orffen, cyfle i greu Dameg y Ffermwr ar ffurf bale!  Edrychwch allan am gyfle i weld y fidio yn fuan.

Monday 14 January 2013

HWYL A SBRI YSGOL SUL





13eg ionawr 2013 - Rydym wedi dechrau'r flwyddyn gyda hanes Duw yn creu'r byd.  Daeth Y Parch Pryderi Llwyd Jones atom yn dilyn yr oedfa a chawsom hwyl yn creu'r byd mewn cylch mawr.  Cawsom helfa drysor y Creu i ddilyn, gyda llun o beth ddigwyddodd bob dydd am y saith diwrnod yn cuddio rhywle yn yr ystafell!  Dyma'n gwaith crefft sydd yn botiau bychain i ddal ein trysorau bach yn saff - mae'r cefndir yn adlewyrchu patrymau ein hoff anifeiliaid; yn gathod, ceffylau, gwartheg, cwn a nadroedd!
Addewid Duw: byddaf yn gofalu amdanat ti bob amser.

CLWB CHWARE TEG!

10fed Ionawr 2013 - Beth yw Ffydd? Dyna oedd thema'r noson heno ac fe gawsom hanes Bartimeus ddall yn cael ei olwg yn ol wrth iddo roi ffydd yn Iesu Grist yn ei wella.  Y dasg nesa wedyn oedd cyfweld cymeriadau'r stori - Bartimeus, ffrindiau Bartimeus a Iesu Grist.  Cael ymateb pawb o'r cymeriadau i'r stori. "Mae dy ffydd wedi dy wella".

Thursday 10 January 2013

DECHRAU DA!


9fed Ionawr 2013 - roedd yn braf iawn cael gweld pawb yn dilyn egwyl dros y Nadolig.  Anifeiliaid yw thema mis Ionawr ac roedd y plant wrth eu bodd yn cael gweld eu gilydd unwaith eto.

MYFYRDOD




6ed Ionawr 2013 - cynhaliwyd myfyrdod yn lle oedfa heno.  Roedd yna gyfle i fyfyrio ar Dduw drwy luniau, darlleniadau, emynau a bod yn greadigol!  Er bod pawb wedi cael braw wrth ddod i mewn i'r Festri buan iawn roedd pawb wrthi yn creu eitem a oedd yn eu golwg nhw yn dangos bod yna Dduw, neu yn creu eitem oedd yn dangos bod Duw wedi creu pawb yn wahanol.  Roedd cyfle i drafod yr eitemau a chael clywed beth oedd yr eitem yn ddweud amdanom ni neu am Dduw.

Thursday 3 January 2013

HYSBYSEB

6ed Ionawr 2013 - Festri Maesyneuadd am 5.30 o'r gloch - Myfyrdod : Oes yna Dduw? Croeso cynnes i bawb!

Wednesday 2 January 2013

CLWB HWYL A SBRI


16eg Rhagfyr 2012 - parti Nadolig heddiw a chyfle i fynd a'n gwaith Nadolig adre.  Roeddem wedi bod yn gwneud llyfr lliwgar o stori'r geni.  Mae gem ar gefn ein llyfr ac fe wnaethom addurniadau ar gyfer y goeden Nadolig.  Cawsom fwyd parti a nifer o gemau a hwyl.  Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i bawb.

BORE COFFI


20fed Rhagfyr 2012 - cawsom Bore Coffi hwyliog iawn yng nghwmni rhai o ddisgyblion Ysgol yr Eifl.  Roeddent wedi bod yn ymchwilio i Nadolig ddoe a heddiw ac yn frwd iawn i drafod gyda phawb yn y Bore Coffi.  Roedd yn braf iawn cael hel atgofion am ambell Nadolig gyda nhw a dymunwyd yn dda i bawb dros gyfnod y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd.