Wednesday 21 March 2018

Ysgol Sul Maesyneuadd

18 Mawrth 2018
Tasg y Grawys wythnos diwethaf oedd casglu pensiliau, pinau ffelt, creyonau a.y.y.b ar gyfer wardiau plant Ysbyty Gwynedd, Ysbyty Alder Hey ac Ysbyty Glanclwyd. Diolch yn fawr i bawb am gyfrannu mor hael. Dyma'r deunyddiau yn barod i fynd!




Ysgol Sul Maesyneuadd

18 Mawrth 2018
Cyfle heddiw i ddysgu beth yw Y Beibl a dysgu am y cenhadon aeth a Newyddion Da y Beibl i bobl Madagascar 200 mlynedd yn ol. Byddwn yn dysgu mwy am Apel Cymru Madagascar dros yr wythnosau nesaf ac yn gobeithio cystadlu am Gwpan Denman yr Annibynwyr ym mis Ebrill gyda'r gwaith celf.  Dyma fwy o luniau teuluoedd wedi cyrraedd a hefyd breichledau cyfeillgarwch y dosbarth hyn.






Tuesday 13 March 2018

Sunday 11 March 2018

Ysgol Sul Maesyneuadd

11 Mawrth 2018
Ydych chi'n adnabod y teuluoedd yma!






Ysgol Sul Maesyneuadd

11 Mawrth 2018
Tasg y Grawys yr wythnos diwethaf ac yn arwain at Sul y Mamau heddiw oedd gwneud llun eich teulu. Dyma luniau ardderchog.  Roedd prysurdeb mawr heddiw i baratoi anrheg i mam, a dyma farc llyfrau'r dosbarth ieuenctid a bocs siocled y plant lleiaf!



Ysgol Sul Maesyneuadd

11 Mawrth 2018
Un o dasgau'r Grawys ar gyfer yr Ysgol Sul eleni oedd casglu dillad ar gyfer Ffoaduriaid (drwy law Mantell Gwynedd).  Dyma gasgliad ardderchog o ddillad plant, ieuenctid ac oedolion wedi dod i law. Bydd y casgliad hwn ar agor hyd y Pasg, gyda chasgliadau arferol yn parhau drwy Eglwys Maesyneuadd wedi hynny. Diolch o galon i bawb am gyfrannu.


Monday 5 March 2018

Oedfa Gwyl Dewi

4ydd Mawrth 2018 - cafwyd oedfa i ddathlu Gwyl Dewi dan ofal y Parchg Casi Jones. Derbyniwyd nifer fawr o eitemau o ddillad a tegannau ar gyfer Ffoaduriaid yn y gwasanaeth, hyn yn dilyn Tasg y Grawys 1.  Tasg y Grawys 2 oedd cofnodi'r tywydd dros yr wythnos, a dyma adroddiadau Erin, Deio, Meinir a Begw.