Monday 24 November 2014

CLWB HWYL A SBRI

22ain Tachwedd 2014 - mae'r plant yn brysur yn paratoi ar gyfer Gwasanaeth Nadolig ond cawsom amser i fwynhau addurno bisgedi Nadolig! Mae gan pob aelod o Hwyl a Sbri focs casgliad dros gyfnod y Nadolig.  Bydd y casgliad yn gymwys ar gyfer cynllun £1 am £1 y Llywodraeth eleni ar gyfer Apel Nadolig Cymorth Cristnogol.  Bydd yn dyblu!  Cyn hynny mae aelodau a chyfeillion Maesyneuadd hefyd yn rhoi casgliad yn y bocsys - mae'n dyblu dwy waith!! DIOLCH!



BOCSYS NADOLIG

Eleni i Romania bydd bocsys Nadolig yn cael eu danfon.  Ac yn ychwanegol i'r arfer roedd cyfle nid yn unig i wneud bocs ar gyfer bechgyn a merchoed, ond bocsys ar gyfer cartrefi plant hefyd.  Mae 50 o focsys wedi mynd o Drefor i roi llawennydd i blant yn Romania.
 

Sunday 19 October 2014

Hwyl a Sbri

19fed Hydref 2014 - dysgu am Jona heddiw a dysgu bod pawb yn haeddu ail gyfle - Jona am iddo beidio gwrando tro cynta, a phobl Ninfe. Roedden nhw yn farus, yn hunanol ac yn gas efo pawb.  Ond mae Duw yn rhoi ail gyfle i ni ufuddhau ac edifarhau, gan ei fod yn ein caru.


Monday 13 October 2014

Hwyl a Sbri

12fed Hydref 2014 - parhau heddiw gyda thema Diolchgarwch gan werthfawrogi harddwch ardal Trefor.  Dangosodd Emlyn ffilm o ddolffiniaid welodd pan oedd allan gyda'i gwch ym mis Medi.  Cawsom gyfle hefyd i drafod syniadau'r plant ar gyfer dathlu'r Nadolig. Mae bocsys casglu arbennig wedi eu addurno yn y capel a rhwng hyn ar Nadolig bydd y plant yn dod a chasgliad i'r bocsys.  Eleni mae'r Llywodraeth wedi cytuno i fynd £1 am £1 ar gasgliadau i Cymorth Cristnogol rhwng Tachwedd 2014 a Chwefror 2015! Mae cyfle cyn hynny i'r gynulleidfa ddyblu casgliad y plant drwy gyfrannu i'r bocsys o dro i dro!

Hwyl a Sbri - Diolchgarwch

5ed Hydref 2014 - cynhaliwyd gwasanaeth Diolchgarwch ar gyfer y gymuned. Cafwyd rhannau gan blant Clwb Hwyl a Sbri, dangoswyd ffilm Ruth a Naomi wnaed gyda'r Clwb Cartwns.  Roedd cyfle hefyd nid yn unig i gyfrannu i'r casgliad arferol oedd yn mynd tuag at Banc Bwyd Pwllheli, ond hefyd i gyfrannu eitem o fwyd ar gyfer y Banc Bwyd.  Aethpwyd a dau lond bocs o nwyddau i Pwllheli a chasgliad a dros £40.  Cafwyd paned yn dilyn yr oedfa a chyfle i gymdeithasu.

PERERINDOD i Trawsfynydd

6ed Gorffennaf 2014 - estynwyd gwahoddiad i ffrindiau Maesyneuadd ymuno gyda'n cyfeillion o Eglwys Noddfa Caernarfon i fynd am drip i Trawsfynydd.  Cawsom ymweld a'r Ysgwrn a chael hanes a gweld y 'gadair ddu' yng nghartre Hedd Wyn.  Aethom ymlaen i gael picnic yn y sied a mwynhau golygreydd godidog o'r ardal, cyn cael te, oedfa a cyfle i chwarae ym Mhlas y Brenin.  Diolch i Noddfa am drefnu diwrnod diddorol iawn.


CLWB CARTWNS

22ain Mehefin 2014 - dechreuwyd heddiw ar ein cartwn nesa sef hanes Ruth a Naomi.  Mae'n cymeriadau wedi eu gwneud o begiau, mae'n cefndiroedd yn cynnwys tywod ac mae hanes Ruth yn cael ei adrodd gan Naomi.  Rydym felly wedi ysgrifennu llythyr yn gofyn am help aelod o'r capel i adrodd y stori i ni, ac mae Beryl Griffiths wedi cytuno i wneud hynny!
Byddwn yn adrodd yr hanes a dangos y ffilm fer yn ein gwasanaeth Diolchgarwch eleni.

Sunday 29 June 2014

CLWB CHWARE TEG!

28ain Mehefin 2014 - er bod y Clwb ddim yn cyfarfod bellach tan mis Medi diolch i bawb wnaeth gefnogi drwy gyfrannu at gronfa Pilipinas y Clwb.  Codwyd £45.
Mae'r lafant yn edrych yn hyfryd iawn o flaen drysau'r festri erbyn hyn!
Wrthi'n paratoi stori newydd mae'r Clwb Cartwns - bydd hon yn barod erbyn Diolchgarwch.

Llongyfarchiadau hefyd i boster Clwb Hwyl a Sbri ddaeth yn bedwerydd yng nghystadleuaeth Cwpan Denman Undeb yr Annibynwyr eleni gan ddod a gwobr o £25 i'r Ysgol Sul.  Llongyfarchiadau mawr i chi!




Monday 26 May 2014

HWYL A SBRI YR YSGOL SUL




25ain Mai 2014 - parti Haiti heddiw i gefnogi apel Undeb yr Annibynwyr.  Cafwyd gwasanaeth yna bwyd o Haiti i ginio.  Cyfle i addurno gweddi i bobol Haiti am gartref clyd, llaeth iachus a gwennyn ar gyfer bywoliaeth a mel iachus.  Bu pawb gael cynnig ar weithgaredd o Haiti sef siglo hwlahwp i gerddoriaeth. Mae'r prosiect hufenfa yn Haiti yn bwysig iawn oherwydd bod plant yn yr ysgolion yn cael llaeth iachus i'w yfed bob dydd.  Mae un botel wydr yn costio 14c ac ar ddiwedd y parti roedd y plant wedi codi dros £200 sef gwerth dros 1,400 o boteli llaeth!!
Llongyfarchiadau mawr i chi ar eich gwaith rhagorol, nid yn unig heddiw ond ar hyd tymor yr Ysgol Sul ers mis Medi.  Byddwn yn cynnal mwy o gyfle i wneud cartwn o'r hyn i'r haf, a bydd Hwyl a Sbri yn ailgychwyn ym mis Medi.

Monday 12 May 2014

HWYL A SBRI

11eg Mai 2014 - mae'n Wythnos Cymorth Cristnogol ac fe gawsom hanes Edile sydd yn 9 oed ac yn byw yn Colombia.  Mae Edile yn byw mewn lle saff ers iddo fo a'i deulu orfod gadael eu cartref oherwydd ymladd rhwng gwrthryfelwyr a parafilwyr.  Gwrthdaro am y tir ffrwythlon roedd teulu Edile a teuluoedd eraill yn ffermio i dyfu eu bwyd.  Mae Edile yn byw mewn lle saff oherwydd bod llygaid y byd yn gwylio nad oes neb yn dod i mewn i'r ardaloedd yma gydag arfau.  Mae 'llygaid y byd' yn golygu elusennau fel Cymorth Cristnogol a mudiadau Hawliau Dynol.  Cawsom drafodaeth am gartref a phentrefi diogel, ac edrych ar Trefor.  Dyma'r canlyniad - mae Hwyl a Sbri Trefor yn credu bod Trefor yn lle hapus i fyw. Pob hwyl i Hwyl a Sbri sydd yn danfon eu poster heddwch i gystadleuaeth Cwpan Denman yr Anibynnwyr eleni.  Cewch weld y poster hwnnw ar ol y dyddiad cau!!

Wednesday 7 May 2014

CHWARE TEG!

4ydd Mai 2014 - fe gofiwch i Clwb Chware Teg! gynnal Bore Coffi i godi arian pan oedd Maesyneuadd yn dathlu ei beinblwydd yn 200 oed.  Y bwriad oedd adnewyddu bocsys gardd y capel gyda'r elw.  Dyma'r adeg o'r flwyddyn i arddio ac felly gyda help Steff Lewis fe gafodd y bocsys fywyd newydd.  Fe fydd arogl hyfryd lafant yn eich disgwyl wrth ddrws y festri o hyn ymlaen.  Diolch yn fawr iawn i Chware Teg! am y syniad gwreiddiol hwn, y bydd pawb yn ei fwynhau.

HWYL A SBRI

4ydd Mai 2014 - rydym am gystadlu yng nghystadleuaeth Cwpan Denman yr Anibynnwyr eto eleni a heddiw fe wnaethom ni edrych ar beth mae'r Beibl yn ddweud am heddwch a dechrau gwneud ein gwaith crefft.  Bydd rhaid aros i'r holl baent sychu rwan cyn parhau wythnos nesa.  Fe fydd ein poster heddwch yn un lliwgar iawn!

Monday 14 April 2014

HWYL A SBRI YR YSGOL SUL

13eg Ebrill 2014 - Cafwyd Oedfa Deulu arbennig heddiw oedd yn dathlu gwaith y plant dros y tymor diwethaf.  Dangoswyd cyflwyniad y plant o stori'r Creu.  Roedd gwaith Pasg y plant yn addurno'r festri ac roedd y plant wedi dysgu eu gwaith yn ardderchog ar gyfer y gwasanaeth.  Cafwyd helfa wyau tra roedd yr oedolion yn cael paned.  Roedd awyrgylch braf yn y gwasanaeth a phawb yn gartrefol.


HWYL A SBRI YR YSGOL SUL

6ed Ebrill 2014 - cwis hwyliog heddiw a chyfle i gael ymarfer ar gyfer Oedfa Deulu yr wythnos nesa. Ar ol yr holl waith caled mwy o hwyl yn gwneud cacennau Pasg!

Sunday 30 March 2014

CLWB HWYL A SBRI

30ain Mawrth 2014 - diwrnod i atgoffa ein hunain o stori'r Pasg a chael hanes yr Atgyfodiad.  Mae hi hefyd yn Sul y Mamau wrth gwrs felly bu'r plant yn brysur yn gwneud cardiau i fynd adre.  Wythnos nesa byddwn yn cael cwis Y Pasg a gwneud cacennau siocled!




CLWB CHWARE TEG!

Os ydych chi'n awyddus i gefnogi gweithgareddau Clwb Chware Teg! beth am archebu poster cariad y Clwb.  Ar gael am £1

Monday 24 March 2014

CLWB HWYL A SBRI

23ain Mawrth 2014 - cyfle heddiw i barhau gyda stori'r Pasg gan edrych ar y groes.  Mae'r lliwiau yn y siart yn ein helpu i feddwl am yr hanes.  Mae'r Ysgol Sul wedi cytstadlu mewn cystadleuaeth i greu bocs lliwgar ar gyfer wy Pasg - mae ymgais pawb wedi mynd i Llanberis heddiw! Pob hwyl.




Wednesday 19 March 2014

HWYL A SBRI

16eg Mawrth 2014 - parhau gyda stori'r Pasg a'r Swper Olaf.  Dyma rai o geiliogod y plant!