Monday 29 October 2012

HWYL A SBRI

28ain Hydref 2012 - wrth i ni ymarfer ar gyfer yr oedfa ddathlu wythnos nesa cawsom gwmni Mr Andrew Lenny.  Roedd Mr Lenny wedy bod yn pregethu ym Maesyneuadd ac fe alwodd i mewn i Clwb Hwyl a Sbri cyn troi am adre.  Cawsom ymarfer da ar gyfer yr oedfa a hefyd chwarae gemmau ar ein themau dros yr wythnosau diwethaf.

CHWARE TEG!


25ain Hydref 2012 - roedd prysurdeb mawr heno wrth i ni lunio trionglau ar gyfer y bynting dathlu a hefyd lenwi bocsys Operation Christmas Child.  Diolch yn fawr i chi.

DECHRAU DA!


24ain Hydref 2012 - Daeth nifer ynghyd eto heddiw.  Mae Elis, Owen, Ellie, Shauna, Robin, Begw, Sion a Kimberley yn ffrindiau mawr erbyn hyn - dewch i ymuno gyda nhw!

Saturday 20 October 2012

CLWB CHWARE TEG!


18fed Hydref 2012 - cynhaliodd y Clwb gwis ar gyfer y pentref.  Cwis oedd yn cefnogi Operation Christmas Child.  Doedd dim tal mynediad - eich mynediad i'r cwis oedd dod ag eitem ar gyfer gwneud bocsys.  Bydd y criw yn mynd ati wythnos nesa i wneud bocsys ar gyfer plant.  Diolch i bawb am gyfrannu eitemau lu a hefyd cyfrannu'n ariannol tuag at yr elusen.  Llongyfarchiadau i'r bobl ifanc am drefnu noson mor lwyddiannus a byrlymus.  Roedd y festri yn llawn pobl ac awyrgylch braf.

CLWB CHWARE TEG!

18fed Hydref 2012 - daeth Nicola yn ol i'n cynorthwyo gyda grant Llwyddo'n Lleol ar gyfer y Digwyddiad.  Daeth Margaret Ellis hefyd.  Mae Margaret Ellis yn mynd i'n helpu i wneud baner dathlu sy'n dangos lluniau capel Maesyneuadd a hefyd bwthyn Maesyneuadd ar fuarth y fferm.  Mae'n adeg cyffrous ac mae llawer o waith o flaen y criw!  Diolch i bawb sydd wedi dangos diddordeb a chefnogaeth hyd yn hyn.


DECHRAU DA!

17eg Hydref 2012 - llond lle o chwarae a chael hwyl heddiw! Dyma gyfraniadau Dechrau Da! tuag at y bynting dathlu.  Hyfryd iawn a gweithgar.

HWYL A SBRI

14eg Hydref 2012 - cawsom fore difyr yn paratoi bynting fydd yn addurno'r festri ar gyfer Oedfa'r Dathlu ar ddydd Sul 4ydd Tachwedd.  Bydd Clwb Chware Teg! Dechrau Da! a Grwp Cefnogi yn ychwanegu at y bynting hwn - felly dylai fod yn lliwgar iawn!!

Wednesday 10 October 2012

DECHRAU DA!

10fed Hydref 2012 - Croesawyd Robin a Caio atom heddiw i ganol teulu hapus Dechrau Da!  Parhau ydym gyda thema Diolchgarwch gan greu murlun.

Ffrwyth y berllan, cnwd yr ardd
yd y meusydd, blodau hardd
diolch iti, Arglwydd da,
am ddiod ac am fara.

GRWP ARWAIN ADDOLIAD

8fed Hydref 2012 - Mae'r Grwp wedi ail ymgynull i drafod a threfnu oedfaon i ddathlu addoli ym Maesyneuadd ers 200 mlynedd.  Dydd Sul 4ydd Tachwedd bydd oedfa deulu yn y bore am 10 o'r gloch gyda lluniaeth ysgafn i ddilyn.  Bydd oedfa yn dilyn am 5.30 yr hwyr.

Monday 8 October 2012

HWYL A SBRI

7fed Hydref 2012 - daeth 11 o blant i Hwyl a Sbri newydd ar ddydd Sul.  Rydym yn paratoi i ddathlu 200 mlwyddiant ym Maesyneuadd.  Heddiw roedden ni'n edrych ar deulu'r eglwys.  Edrych ar Eglwys Maesyneuadd fel coeden deulu, a'r plant yn Nhrefor heddiw yw dail newydd y goeden.  Adnod y dydd oedd "gadewch i blant ddod ataf fi".  Roedd y plant yn ymateb yn wych ac yn deall mai lle i helpu bobl ac i fod gyda ffrindiau yw'r eglwys - ynghyd a lle i ddysgu am Iesu Grist ac addoli Duw.  Dyma goeden deulu eglwys Maesyneuadd.

CLWB CHWARE TEG!

4ydd Hydref 2012 - noson yn llawn trafodaeth am gynlluniau'r Digwyddiad.  Hefyd bu'r criw yn gwylio ffilm gan Operation Christmas Child.  O ganlyniad bydd cwis yn cael ei gynnal nos Iau 18fed Hydref.  Y tal mynediad fydd eitem ar gyfer bocs OCC.  Bydd Clwb Chware Teg! yn gwneud bocsys i fyny gyda'r eitemau ddaw i law.

BORE COFFI MACMILLAN

4ydd Hydref 2012 - cynhaliwyd Bore Coffi er budd Macmillan.  Mae'r gronfa yn dal ar agor am wythnos arall os na chawsoch gyfle i gyfrannu.  Diolch yn fawr.

DECHRAU DA!

3ydd Hydref 2012 - llond lle o blant bach yn chwarae'n hapus a chyfle i'r oedolion gael paned a sgwrs.

Monday 1 October 2012

CLWB GWAU

1af Hydref 2012 - daeth nifer ynghyd eto heddiw a chafwyd nifer fawr o eitemau ar gyfer Ysbytai Glanclwyd a Gwynedd.  Hefyd mae nifer eto o ddillad ar gyfer babanod Siop Chips - cynllun ar gyfer plant newydd eu geni yn Affrica.  Mae Ben Allan a Catrin yn parhau i ddod i'r Clwb Gwau ac yn creu poced i'r ffon bach.

CHWARE TEG!

27ain Medi 2012 - daeth Nicola o Llwyddo'n Lleol i roi newyddion da iawn i'r hogiau - mae nhw wedi llwyddo cael bwrseriaeth o £1000 tuag at drwsio beics!  Merched - ewch ati rwan i sicrhau llwyddiant y Digwyddiad! Llongyfarchiadau!

DECHRAU DA!

26ain Medi 2012 - roedd hi'n ddiwrnod arbennig heddiw gan bod Dechrau Da! yn ailddechrau a croesawyd plant newydd i'n plith.  Croeso i Shauna, Elis, Owen, Begw, Tomos a hefyd Cerys sydd yn ymweld a ni pan fydd hi'n ymweld a nain a taid yn Nhrefor.  Croeso cynnes i blant bach ddod draw ar brynhawn dydd Mercher gyda mam, dad, taid a nain neu warchodwr - ac ym mis Hydref y thema fydd Diolchgarwch.

CALENDR TREFOR 2013

Diolch i bawb sydd wedi anfon lluniau ar gyfer eu dewis ar gyfer calendr 2013.  Mae 51 llun wedi mynd i'r beirniad Dewi Wyn, fydd yn dewis 12 ar gyfer y calendr.  Llongyfarchiadau a phob hwyl i bawb!