Wednesday 13 June 2012

CLWB GWAU

12fed Mehefin 2012 - daeth criw da ynghyd i fwynhau rhannu, sgwrsio a chwmni.  Rydym yn edrych ymlaen am egwyl dros yr haf ond cyn hynny bydd cyfle i fwynhau te prynhawn yn fuan.

DECHRAU DA!




13eg Mehefin 2012 - ein thema yw O dan y Mor! dyma ein murlun o bysgod sydd yn byw o dan y mor.  Bu'r plant yn brysur iawn heddiw gyda chlai a phaent ac addurniadau!  Dyma waith Kimberley, Martha a Sion.

Wednesday 6 June 2012

CLWB CHWARE TEG

6ed Mehefin 2012 - bu Miriam, Lois, Leah a Non yn gwirfoddoli ym mhabell Cymorth Cristnogol yn ystod yr Eisteddfod.  Diolch am eich gwaith ac am sticio'r holl sticeri ar yr Eisteddfodwyr a'r criw ffilmio!!

Sunday 3 June 2012

HWYL A SBRI


3ydd Mehefin 2012 - dyma'r diwrnod mawr Gwasanaeth Bore Sul Eisteddfod yr Urdd Eryri 2012 a llond bws o gefnogwyr Trefor wedi mynd i glywed y plant yn canu!  Da iawn Elliw, Lauren ac Allan am ddysgu eich gwaith a chefnogi'r Urdd.  Er gwaethaf y tywydd cafwyd picnic yn y Babell Groeso i aros y bws i fynd nol adre!  Dymuniadau gorau i bawb am weddill Eisteddfod lwyddiannus.