Sunday 21 December 2008

GWASANAETH CAROLAU TREFOR







Roedd y gwasanaeth eleni yng ngofal plant a phobl ifanc Trefor. Diolch i chi gyd am fod mor barod i gymryd rhan a gwneud hynny yn destlus iawn! Mwynhawyd paned a mins pei ar ól y gwasaneth. Diolch i bawb am gymryd rhan ac i Jamie, Elliw a Catrin am y lluniau lliwgar! Gwnaed casgliad ar gyfer dwy elusen eleni a chyfrannwyd £50 yr un i elusen NSPCC a Barnardo's.
NADOLIG LLAWN iawn i bawb!

BORE COFFI NADOLIG

Cafwyd Bore Coffi llwyddiannus iawn bore dydd Iau 18 Rhagyfr yn Yr Hen Ysgol. Roedd yr ystafell yn orlawn o gymdeithasu a chael ein diddanu gan blant Ysgol yr Eifl. Diolch i bawb am ddod draw. Bydd y Bore Coffi nesa ym mis Ionawr - bore dydd Iau 29ain Ionawr 2009!

CLWB GWAU TREFOR

Y Nadolig hwn dosbarthwyd dillad i Unedau Geni Buan Ysbytai Maelor, Glan Clwyd a Gwynedd. Dosbarthwyd blancedi glin i Ysbyty Bryn Beryl a Chartref Bryn Meddyg. Cyflwynwyd eitemau i siop Urdd Cyfeillion Ysbyty Gwynedd Bangor.

Monday 8 December 2008

GWASANAETH DIWRNOD AIDS Y BYD 2008


Nos Sul 7fed Rhagfyr cynhaliwyd gwasanaeth Diwrnod AIDS y Byd. Lluniwyd y gwasanaeth eleni gan Evie Vernon sydd yn gweithio i un o bartneriaid Cymorth Cristnogol yn Jamaica - JASL - Jamaica AIDS Support for Life. Cawsom hefyd ychydig o hanes partner Wola Nani o Dde Affrica sydd yn cael ei gynnwys ym mhecyn Apêl Undeb yr Annibynwyr 2008/09. Goleuwyd canhwyllau i gofio am waith gwirfoddolwyr dros y byd sydd yn rhoi eu bywyd i weithio dros bobl sydd yn byw gyda HIV ac AIDS, ac yn gwneud hynny yn aml iawn dan amgylchiadau anodd iawn. Diolch i bawb am eu cefnogaeth.

Tuesday 2 December 2008

CLWB GWAU TREFOR




Mae'r Clwb Gwau yn haeddu canmoliaeth am waith proffesiynol a hardd iawn! Mae'r eitemau niferus sydd wedi cael eu gwau a'u dosbarthu wedi cael eu derbyn mewn nifer fawr o sefydliadau dros y misoedd diwethaf. Mae'n rhaid enw rhain ac ar yr un pryd llongyfarch y merched yn fawr iawn am waith o'r safon uchaf! Derbyniwyd eitemau yn ddiolchgar iawn gan:

Ysbytai: Glan Clwyd, Gwynedd, Maelor a Chaer (unedau gofal dwys babanod cynnar)
Hospis Ty'r Eos Wrecsam
Hospis Ty Gobaith Conwy
Lloches i Ferched Wrecsam a Shotton
Operation Christmas Child
Bryn Meddyg
Bryn Beryl
Cartref Penrhos
Ambiwlas Awyr a Heddlu Gogledd Cymru (tedis argyfwng)

BANER MASNACH DEG CYMRU




Eleni derbyniodd Cymru statws Gwlad Masnach Deg, y wlad gyntaf erioed i dderbyn y statws hwn! Mae'n golygu bod pob rhanbarth o Gymru yn cefnogi'r egwyddor sydd y tu ôl i Fasnach Deg ac yn cynnig nwyddau Masnach Deg yn y siopau a llefydd bwyta. Daeth y faner i Drefor ar ei thaith drwy Gymru a chafwyd Bore Coffi hwyliog iawn i ddathlu hynny. Cafwyd datganiadau cerddorol gan blant Ysgol yr Eifl. Cawsom hefyd ganddynt neges grymus iawn ynglyn â prynu nwyddau Masnach Deg - roedd y neges yn her i ni gyd gan ein cymell i feddwl pwy sydd yn gwneud ac o dan pa amgylchiadau y gwnaed y nwyddau rydym yn eu prynu. Dyma'r plant yn canu ac yn derbyn pel rygbi a pêl-droed Masnach Deg ar gyfer yr Ysgol.