Friday 28 January 2011

CLWB CHWARE TEG!

Heno - 27ain Ionawr bu i ni edrych ar 'fod yn onest' ac effaith arnom ni a phawb arall o ddweud celwydd. Pwy dybiech chi i fod yn fwyaf onest o'r rhain? Arlywydd yr Unol Daliaethau neu eich hoff ganwr pop? Y Gweinidog neu athro ysgol? Cariad neu ffrind mewn 'chat room'? Chi eich hun neu ffrind? Rhoddodd y dewisiadau yma ddigon i'r criw Chware Teg drafod! Cawsom gwmni Ifan Prys bu'n helpu ni lunio diarhebion a'n dysgu i gynganeddu! Cafwyd dipyn o hwyl wrth wneud hyn a'r canlyniad - brawddegau sydd yn llawn haeddu lle mewn unrhyw Eisteddfod! Da iawn pawb!

Nid mel sydd ym mhob celwydd
Mae Non yn hollol onest
Mae calon aur yn onest
'Sdim ffordd nol o gelwydd golau
Dwedodd y ddol gelwydd golau
Tragwyddol yw celwydd golau
Mewn llaw mae braw a bri

Monday 24 January 2011

CLWB CHWARE TEG!


Nos Iau 20fed Ionawr daeth Aled Pickard o Cymorth Cristnogol atom i gyflwyno gwaith Wola Nani sef un o'u partneriaid yn Ne Affrica,. Rydym yn gyfarwydd a'r partneriad hyn gan ein bod yn y gorffenol wedi creu powleni papier mache. Roedd gan Aled nifer o luniau i ddangos i ni wrth son am y gwaith gyda'r plant, yn enwedig gweithgareddau yn cyd-fynd a Chwpan y Byd yn Ne Affrica yn 2010. Gofynnwyd i ni wneud llun o'n hystafell wely gyda'r holl eiddo sydd gennym! Buan iawn y sylweddolwyd pa mor lwcus ydym ni pan ddangosodd Aled luniau ystafelloedd cysgu rhai o'r plant mewn pentref yn Ne Affrica. Yna ar ddarn arall o bapur gofynnwyd i ni wneud llun unrhyw beth y buasem yn hoffi roi i'r plant. Cafwyd amrywiaeth dda o eitemau yn cynnwys tedi, arian, basged llawn nwyddau ymolchi a thegannau. Rydym am drefnu gweithgaredd codi arian fel Clwb yn yr haf i gefnogi gwaith Wola Nani.

GWASANAETH Y MIS

Gan bod Aled Pickard o Cymorth Cristnogol yn ymweld a Clwb Chware Teg! heno roedd yn gyfle iddo gael cyfarfod a disgyblion Ysgol yr Eifl yn ystod y dydd (20fed Ionawr). Mae Aled wedi bod yn gweithio i bartneriaid Cymorth Cristnogol yn De Affrica - Wola Nani am 6 mis. Roedd y plant yn frwdfrydig iawn i'w holi am y profiad a chael dysgu am waith Aled gyda Wola Nani.

ARWAIN ADDOLIAD

Cynhaliwyd y pedwerydd cyfarfod o'r cwrs nos Lun 17eg Ionawr. Yn y modiwl hwn roeddem yn edrych ar weddi mewn addoliad, gan ddilyn patrwm Gweddi'r Arglwydd. Hefyd, roeddem yn edrych ar ffyrdd gwahanol o weddio megis - cyd-weddio, cerddoriaeth, distawrwydd, ysgrifennu gweddiau ac yn y blaen. Yn mis Chwefror byddwn yn edrych ar gerddoriaeth mewn addoliad.

O FETHLEHEM I'R GROES

Bore dydd Sul 16eg Ionawr cafwyd oedfa O Fethlehem i'r Groes. Defnyddiwyd cyflwyniad Naws y Nadolig sef cyflwyniad pwynt pwer o luniau a cherddoriaeth ynghyd a dau ddarlleniad o'r Beibl:
1 Ioan 1:1-17
Ioan 2: 1-11

Saturday 15 January 2011

CLWB CHWARE TEG!

Nos Iau 13eg Ionawr cawsom gwis ar Ewrop. Paratowyd y cwis gan Miriam sydd yn mynd i'r Senedd Ewropeaidd ar ddiwedd y mis ar brofiad gwaith. Pob hwyl!

CLWB GWAU



Bu i'r Clwb Gwau fwynhau prynhawn yng nghwmni Clwb Gwau Llanaelhaearn dydd Mawrth 11eg Ionawr. Aethom ar bws 2 o'r gloch a chael amser da iawn yn sgwrsio, gwau, chwarae scrabble a mwynhau te bach hyfryd iawn.