Friday 11 March 2016

Oedfa Sul y Mamau


6ed Mawrth 2016 - cynhaliwyd oedfa Sul y Mamau a braf oedd gweld festri lawn.  Cafwyd canu emynau, darlleniad o ddisgrifiad Duw o gariad allan o lyfr Corinthiaid; dangoswyd ffilm Hwyl a Sbri gyda gair gan Angharad Roberts.  Diweddwyd gyda paned a chacennau i bawb.

Hwyl a Sbri yr Ysgol Sul

28ain Chwefror 2016 - paratoi heddiw ar gyfer ein oedfa Sul y Mamau wythnos nesa. Bu creu cerdyn a hefyd creu stribed ffilm yn dangos cariad a gofal yr us sydd yn edrych ar ein holau a hefyd stribed ffilm i ddangos sut y medrwn ni ddiolch am hynny wythnos nesa!

Hwyl a Sbri yr Ysgol Sul

7fed Chwefror 2016 - yng nghysgod adroddiadau dyddiol ar y teledu am y ffoaduriaid o Syria cawsom wasanaeth mewn pabell.  Bu i ni ddysgu am y ffoaduriaid a chael picnic yn ein pabell.  Trefnwyd casgliad o flancedi a dillad cynnes i anfon i Calais ac I Syria. Diolch i bawb am eu cyfraniad.

Hwyl a Sbri yr Ysgol Sul

31ain Ionawr 2016 - ymlaen a ni drwy'r Hen Destament ac i ddysgu am Noa a sut y bu iddo wrando ar Dduw ac adeiladu'r arch ar gyfer ei deulu a'r anifeiliaid.

Hwyl a Sbri yr Ysgol Sul

24ain Ionawr 2016 - heddiw cawsom ddysgu am stori Adda ac Efa a rhoi ein gweddiau o ddiolch ar y goeden.