Friday 28 October 2011

CLWB HWYL A SBRI

26 Hydref 2011 - mae cartwn Y Samariad Trugarog bron yn gyflawn - heno fe ychwanegwyd y lleisio gyda Cian, Owain, Guto a Geraint. Bydd y cynhyrchiad yn rhan o Oedfa Diolchgarwch y plant nos Fercher 2il Tachwedd 2011 am 6.30 yn Festri Maesyneuadd. Gwneir casgliad a bydd Masnach Deg ar werth.

CLWB CHWARE TEG!



20 Hydref 2011 - Daeth Anti Mandy yn ol atom heno i ddysgu sut i wneud bara. Tra roedd y bara yn pobi cawsom gem gyffrous iawn o STOPIWCH Y BWS!

BORE COFFI

20 Hydref 2011 - cawsom Fore Coffi dymunol iawn yng nghwmni plat Ysgol yr Eifl bore heddiw. Roedden nhw wedi paratoi hanesion difyr am bysgod, adar a deinosoriaid ar ein cyfer y n eu gwasanaeth o Ddiolchgarwch. Daeth nifer i fwynhau'r gwasanaeth a'r baned!

CLWB HWYL A SBRI



19 Hydref 2011 - paratoi ar gyfer Oedfa Diolchgarwch bu'r criw heno gyda'r rhai bach yn addurno platiau Diolchgarwch a'r criw hyn yn parhau i baratoi eu cartwn o Ddameg y Samariad Trugarog.

DECHRAU DA!



19 Hydref 2011 - parhau mae thema Diolchgarwch a bu'r plant yn addurno platiau bwyd heddiw.

Friday 14 October 2011

CLWB CHWARE TEG!

12 Hydref 2011 - parhau mae'r gwersi coginio gyda Anti Mandy. Roedd yna wledd yn y festri heno gyda pitsas bendigedig gan bawb yn mynd adre i swper!

CLWB HWYL A SBRI



12 Hydref 2011 - mae'r ddau glwb, y rhai bach a'r rhai hyn yn gweithio ar stori'r Samariad Trugarog yn barod ar gyfer Oedfa Deulu ddiwedd y mis. Mae'r criw bach wedi bod yn actio'r stori a dysgu can am y cynhaeaf, ac mae'r criw hyn wedi bod yn paratoi cefndir yn barod ar gyfer cymeriadau'r stori yr wythnos nesaf. Gobeithio ar y diwedd byddwn wedi creu cartwn o'r stori!

CRIW IACH!

12 Hydref 2011 - mae'r criw bellach wedi dechrau llunio cynnwys eu gweithdy ar gyfer prosiect gyda Blwyddyn 5 a 6 Ysgol yr Eifl.

DECHRAU DA!



12 Hydref 2011 - parhau gyda thema Diolchgarwch heddiw a chreu murlun mawr wrth argraffu gyda llysiau. Bydd y gwaith yn cael ei arddangos mewn Oedfa Deulu yn fuan!

Monday 10 October 2011

CLWB CHWARE TEG!









5ed Hydref 2011 - Diolchgarwch yw thema mis Hydref a pha ffordd well i ddathlu ond gyda cyfres o wersi coginio - heno gwnaethom gacennau bach yn barod i'w addurno ar ol mynd adre. Wythnos nesa byddwn yn gwneud pitsa.

CRIW IACH!

5ed Hydref 2011 - daeth Kerry atom o fudiad Cais. Mae hi yn helpu ni i lunio gweithdy ar gyfer Blwyddyn 5a6 Ysgol yr Eifl. Gweithdy fydd yn annog cadw'n IACH!

DECHRAU DA!

5ed Hydref 2011 - Diolchgarwch yw thema mis Hydref. Daeth criw mawr i Dechrau Da! heddiw ac fe gawsom liwio, chwarae a chanu.