Monday 18 May 2009

NEGES HEDDWCH AC EWYLLYS DA

Newid Hinsawdd yw thema Neges Heddwch ac Ewyllys Da 2009 a chafwyd gwasanaeth yn Ysgol yr Eifl heddiw. Darllenwyd y neges gan Osian, Adam a Lois a chyflwynwyd gweddi gan Non. Roedd cyfle i ddiolch am y bobl ddewr sydd yn helpu ni mewn argyfwng a hefyd i ddysgu sut y gallwn ni helpu pobl i oroisi wedi argyfwng mewn gwledydd eraill. Corwynt Felix yn Nicaragua oedd testun y sgwrs gan Llinos a cafwyd gweld sut mae pobl pentref Tuara yn ail-adeiladu eu bywydau a'u cymuned ers y corwynt cryf hwn yn 2007.

NOSON CWIS A CYRI

Cynhaliwyd noson Cymorth CWISnogol gyda cyri i ddilyn. Cafwyd saith o dimau yn y cwis a chafwyd noson ddifyr iawn. Aled Davies oedd ein cwisfeistr ac roedd ganddo 150 o logos cwmniau i ni ddyfalu! Roedd y marciau yn agos iawn ar ddiwedd y noson ar tri tim buddugol oedd Tim Ysgubor Wen, Tim ARMAN-i a Tim Gobeithiol. Dyma lun tim Ysgubor Wen gyda'u tystysgrifau!

BORE COFFI CYMORTH CRISTNOGOL


Yn ystod Wythnos Cymorth Cristnogol cafwyd Bore Coffi llwyddiannus iawn yng nghwmni plant Ysgol yr Eifl. Yn eu cyflwyniad roedden nhw yn egluro gwaith Cymorth Cristnogol ac yn dangos i ni sut mae bywyd pobl mewn gwledydd tlawd yn gwella wrth i ni helpu a chefnogi yr elusen. Roedd rhai o'r disgyblion wedi gwisgo fel pobl o Senegal - ac roedden nhw yn egluro wrthym ni cymaint gwell oedd eu bywydau wedi iddyn nhw gael peiriant malu blawd, tap dwr yn y pentref ac ysgol i'r plant. Roedd Anna Jane o Cymorth Cristnogol yn y Bore Coffi ac roedd ganddi air o ddiolch i'r plant am eu gwaith.

CLWB HWYL A SBRI - NIA

Cawsom gwmni Nia o Pwllheli yn y Clwb Hwyl a Sbri yr wythnos hon. Mae Nia yn dod atom bob blwyddyn gyda'i gitar. Eleni bu i ni adrodd dameg y Samariad Trugarog drwy ddrama cyn dysgu dwy gan newydd am helpu pobl. Diolch yn fawr i Nia am ddod atom ni.

Friday 8 May 2009

CLWB HWYL A SBRI CYMORTH CRISTNOGOL


Ar drothwy Wythnos Cymorth Cristnogol cawsom gyfle i gyfarfod a gwr arbennig iawn sef James o Kenya. Mae James yn gweithio gyda un o bartneriaid Cymorth Cristnogol yn Kenya. Daeth a lluniau gyda fo am fywyd plant sydd yn byw yn ei bentref genedigol. Roedd yn braf iawn gweld plant Clwb Hwyl a Sbri yn gwrando yn astud ac yn holi James am fywyd yn Kenya. Mae prinder dwr glan yn broblem fawr iawn yn y wlad, a gwaith merched ifanc yw nol dwr i'r ty bob dydd - gall hyn gymryd hyd at ddwy awr o gerdded! Gwaith y bechgyn yw gwarchad y geifr ar y mynyddoedd a gall hyn olygu hyd at dri mis i ffwrdd o gartref, yn cysgu ar y mynyddoedd. Ond mae prinder dwr yn gwaethygu ar rhai adegau o'r flwyddyn nes bod ffynhonnau yn sychu - dyma pryd mae'r bobl yn dibynnu ar y tanc dwr i ymweld a'r pentref. Mae'r adegau yma yn bryderus iawn i'r bobl gyda rhai pobl yn llwgu. Does dim bwyd yn tyfu ar gyfer yr anifeiliaid chwaith. Ar ddiwedd y Clwb cafwyd cyfle i ysgrifennu neges ar faner sydd yn cael ei chyflwyno i Gordon Brown gan bobl ifanc Cymru!