Sunday 26 January 2014

HWYL A SBRI

26ain Ionawr 2014 - parhau gyda'n gwaith ar gyfer y Bore Coffi a chael cyfle i addurno platiau! Bydd rhaid i'r platiau fynd i'r popty am 6 awr wythnos yma er mwyn bod yn barod ar gyfer bore dydd Sul nesa!  Felly cofiwch am y Bore Coffi, 10 o'r gloch bore dydd Sul 2il Chwefror. Croeso cynnes i bawb.




Wednesday 22 January 2014

CLWB CHWARE TEG!

22ain Ionawr 2014 - heno edrych ar hunanoldeb! Defnyddio hanes Porthi'r 5000 a chael bwyta fishfingers a bara pita,  Dyma bosteri dwylo'n helpu.



Sunday 19 January 2014

HWYL A SBRI

19eg Ionawr 2014 - rhagor o drefniadau ar gyfer ein Bore Coffi a chyfle i wneud gwaith llaw heddiw fydd yn cael ei arddangos a chyfle i'w werthu!  Bydd calonnau lliwgar a hefyd platiau bach.  Os oes gennych hen degannau ar gyfer y bwrdd gwerthu yna mae croeso i chi ddod a nhw i'r Bore Coffi.  Bydd paned a chacen a bisgedi ar werth hefyd.

HWYL A SBRI

5ed Ionawr 2014 - y tymor hwn byddwn yn edrych ar drychineb Y Pilipinas ac yn trefnu Bore Coffi ar gyfer rhieni a ffrindiau.  Ar ol trychineb y gwynt ar storm yn Y Pilipinas mae pobl wedi colli eu cartrefi eu bywoliaeth ac wedi colli aelodau o'u teuluoedd a'u ffrindiau.  Dyma ein gweddiau. Mae helpu eraill yn ein gwneud yn hapus. Mae'r rhai sydd yn derbyn cymorth yn hapusach - pan fyddwn ni'n helpu eraill meddai Iesu rydym yn ei wneud o yn hapus ac yn ei blesio.